Y Bencampwriaeth: Blackburn 1-0 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Joe Rankin-CostelloFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Gôl Joe Rankin-Costello wedi 53 munud oedd y gwahaniaeth ar Barc Ewood

Roedd un gôl yn ddigon wrth i Blackburn Rovers drechu Caerdydd ar Barc Ewood brynhawn Sadwrn.

Roedd Dimitrios Goutas yn credu ei fod wedi rhoi Caerdydd ar y blaen yn yr hanner cyntaf ond ni ganiatawyd y gôl am ei fod yn camsefyll.

Wedi'r egwyl rhoddodd Joe Rankin-Costello Blackburn ar y blaen wedi iddo rwydo o bas Tyrhys Dolan.

Cafodd Caerdydd gyfleoedd i ddod yn gyfartal wrth i Callum Robinson ddod yn agos gyda ergyd ffyrnig Ollie Tanner hefyd yn cael ei rwystro gan Leopold Wahlstedt.

Wrth i Blackburn godi i 14eg yn y tabl mae Caerdydd yn llithro i 12fed.