Y Bencampwriaeth: Abertawe 1-3 Caerlŷr

  • Cyhoeddwyd
Jannik VestergaardFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Peniad hanner cyntaf Jannik Vestergaard oedd ei gôl gyntaf i Gaerlŷr

Parhau mae rhediad cryf Caerlŷr wrth deithio nôl o Gymru gyda thriphwynt arall.

Roedd hi'n gychwyn addawol i'r Elyrch wrth iddyn nhw fynd ar y blaen yn yr hanner cyntaf diolch i foli Matt Grimes.

Ond yn haeddiannol fe unionodd Caerlŷr pan beniodd Jannik Vestergaard ei gôl gyntaf i'r clwb.

Bu bron i Abertawe fynd ar y blaen cyn yr egwyl pan darodd ergyd nerthol Liam Cullen yn erbyn y trawst.

Ond roedd Caerlŷr yn parhau i achosi problemau ar wedi 63 munud fe rwydodd Abdul Fatawu i'r ymwelwyr.

Roedd Abertawe yn bygwth gêm gyfartal gyda Jamal Lowe yn mynd yn agos, ond daeth eu gobeithion i ben pan dorrodd yr eilydd Kelechi Iheancacho yn rhydd gan selio'r fuddugoliaeth wedi 87 munud.

Hon oedd y seithfed fuddugoliaeth o'r fron i Gaerlŷr, sydd wedi ennill 11 o'u 12 gêm gynghrair ers syrthio o'r Uwch Gynghrair y tymor diwethaf.