Cofio pan ddaeth Bobby Charlton i Ddyffryn Nantlle

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Pwy sy'n cofio... Sir Bobby Charlton yn Nyffryn Nantlle?

Yn 86 oed bu farw un o gewri'r byd pêl-droed, Sir Bobby Charlton dros y penwythnos.

Mae'n cael ei ystyried yn un o'r chwaraewyr gorau i chwarae'r gêm. Fe dreuliodd 17 mlynedd yn chwarae i Manchester United ac fe sgoriodd 49 gôl i Loegr gan ennill 106 o gapiau rhyngwladol.

Roedd Sir Bobby yn dioddef o Ddementia ers 2020, ac yn ôl datganiad, bu farw "yn oriau man y bore, fore Sadwrn."

Er bod rhaid teithio dros y ffin i'w weld yn chwarae i'w glwb, daeth cyfle prin yn 1976 i'w weld yn chwarae yng Nghymru a hynny yn Nyffryn Nantlle.

Sgorio naw gôl

Mewn gêm gyfeillgar, roedd Bobby Charlton yn rhan o dîm o sêr a heriodd Nantlle Vale ym Maes Dulun, Penygroes.

Yn ogystal â Bobby Charlton, roedd Gordon Banks hefyd yn y tîm.

Roedd tua 1,500 o bobl yn bresennol y diwrnod hwnnw i weld Sir Bobby yn sgorio naw gôl gyda chefnogwyr yn datgan mai fe oedd y brif atynfa iddyn nhw ar y cae.

Dyma glip o raglen Heddiw o 1976 a hanes Bobby Charlton yn chwarae ar gae Y Fêl.

Pynciau cysylltiedig