Y Bencampwriaeth: Huddersfield 0-4 Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu gôl Dimitrios GoutasFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraewyr Caerdydd yn dathlu gôl Dimitrios Goutas

Mae buddugoliaeth gampus nos Fawrth yn erbyn Huddersfield Town yn hwb i ymgyrch Caerdydd yn y Bencampwriaeth.

4-0 oedd y sgôr terfynol wrth i'r Adar Gleision ennill oddi cartref am y tro cyntaf mewn pedair gêm gynghrair - ac am yr eildro oddi car

Daeth tair o'r goliau yn ystod yr hanner cyntaf, diolch i ergydiad Callum Robinson (2), peniad Dimitrios Goutas (12) a gôl gyntaf Yakou Méïté (43) ers iddo ymuno â Chaerdydd.

Llwyddodd yr Adar Gleision i estyn y fantais wedi'r egwyl, pan rwydodd Perry Ng (55) o gic rydd.

Daeth y Cymro Sorba Thomas yn agos at sgorio i Huddersfield wedi hynny, ond fe fethodd ei dîm â tharo'n ôl.

Mae ail fuddugoliaeth tîm Erol Bulut yn y gynghrair ers dechrau'r tymor yn codi Caerdydd o'r 11eg safle i'r chweched safle.