Adran Dau: Wrecsam 2-1 Sutton Utd
- Cyhoeddwyd
Roedd yna ddiweddglo cyffrous i'r gêm yn erbyn Sutton United ar y Cae Ras nos Fawrth wrth i Wrecsam sicrhau'r triphwynt gyda gôl hwyr.
Roedd Paul Mullin wedi rhoi'r tîm cartref ar y blaen o fewn chwarter awr gydag chic wych, ond fe rwydodd Aiden O'Brien (59) i ddod â'r ymwelwyr yn gyfartal.
Ond fe sgoriodd yr eilydd Elliot Lee chwip o gôl werthfawr wedi 89 o funudau i wneud hi'n 2-1.
Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn codi i'r drydedd safle, tra bod Sutton United yn aros ar waelod y tabl.