Pum munud gyda... Meleri Wyn James

  • Cyhoeddwyd
MWJ
Disgrifiad o’r llun,

Mae Meleri Wyn James yn gweithio i wasg Y Lolfa

Mae Meleri Wyn James yn olygydd ac yn awdur sy'n byw gyda'i dwy ferch a'i gŵr yn Aberystwyth.

Cafodd haf lwyddiannus, gan ennill y Fedal Ryddiaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ac roedd ei sioe Na, Nel! yn ôl ar lwyfan y Brifwyl ar ôl llwyddiant y sioe yn Eisteddfod Tregaron y flwyddyn cynt.

Llwyddodd Cymru Fyw i sgwrsio â hi yng nghanol bwrlwm a phrysurdeb ei pharatoadau ar gyfer y Nadolig gyda Gwasg y Lolfa.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Sion, Esther, Nia a Meleri yn Aberystwyth

O ble ddaeth yr awydd i ysgrifennu?

Ro'n i wrth fy modd yn darllen pan o'n i'n blentyn. Llyfrau antur a ditectif oedd yn mynd a' mryd. Bydden i'n dianc i fyd ffantasi llyfrau oedd yn wahanol i fy mywyd i yng ngorllewin Cymru. Ro'n i'n dwli ar lyfrau Emily Hughes, cyfres Y Llewod gan T. Llew Jones, y Secret Seven a'r Famous Five.

'Na'i fyth anghofio T. Llew Jones yn ymweld ag ysgol Aberporth wrth iddo rannu straeon gyda ni. Roedd e'n ysbrydoliaeth i mi heb amheuaeth. Mae ei lyfrau dal ar fy silff, maen nhw'n drysorau na'i fyth cael gwared arnyn nhw.

O oedran cynnar roedd gen i'r teimlad bod rhaid i mi sgwennu sydd heb fy ngadael i. Pan o'n i'n chwe' mlwydd oed nes i greu straeon am anturiaethau cloc larwm. Roedd fy nhad a fy nhadcu'n cystadlu i dîm talwrn y beirdd Crannog felly mae'n rhaid bod hynna wedi cael dylanwad hefyd.

Oeddet ti'n ysgrifennu pan oeddet ti yn y coleg a faint o lyfrau wyt ti wedi eu ysgrifennu ers hynny?

Oeddwn. 'Nes i fwynhau astudio Cymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Fe wnaeth Dr John Rowlands fy annog i sgwennu ac mi es i ati i gystadlu am y fedal lenyddiaeth yn Eisteddfod yr Urdd ym 1991 yn Nhaf Elai. Mi ennillais i gyda chyfres o straeon byrion o'r enw Mwydyn Yr Afal.

Erbyn hyn dwi wedi ysgrifennu dros 25 o lyfrau.

O'r holl lyfrau rwyt ti wedi eu ysgrifennu pa rai sy'n sefyll yn y cof?

Mae 'na ddau sef Cors Caron a Blaidd Wrth Y Drws.

Mi wnes i sgwennu Cors Caron ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Tregaron yn 2022. Mae e ar gyfer pobl yn eu harddegau ac mae'n bersonol i mi oherwydd mae gan y brif gymeriad epilepsi. Dwi'n dioddef o'r cyflwr ac ro'n i eisiau dangos nad yw epilepsi yn eich atal chi rhag byw bywyd llawn ac i fynd amdani. Mae yna elfen o ddirgelwch yn y stori wrth iddi son am fynd nôl mewn amser pan roedd y rheilffordd yn cael ei hadeiladu ar gors Caron.

Mae Blaidd Wrth Y Drws yn trafod cath fawr sy'n ffoi o sŵ ac yn niweidio plant ac yna'r gymdeithas yn amau'r rhieni. Mae yna gnewyllyn o wirionedd yn perthyn i'r stori oherwydd mi wnaeth cath fawr ddianc o sŵ Borth rhai blynyddoedd yn ôl.

Mae llawer yn dy adnabod fel awdures y gyfres lwyddiannus, Na, Nel! O ble ddaeth y syniad am y gyfres ac a wyt ti am ysgrifennu rhagor o straeon amdani?

Mae'i bron i 10 mlynedd ers i mi gyhoeddi'r llyfr cyntaf. Ar y pryd doedd dim digon o gyfresi gwreiddiol yn y Gymraeg oedd yn sôn am brofiadau plant oedd yn byw bywydau Cymraeg. Mae hyn wedi newid erbyn hyn a diolch am hynny.

Ro'n i eisiau creu cymeriad llawn hwyl oedd yn hoffi gadael i'w dychymyg fynd yn rhemp. Nid Nel yw'r gorau yn y dosbarth ac roedd hynny'n bwysig i mi oherwydd mae cymaint o blant yn medru uniaethu â hi. Mae Nel a'i ffrindiau'n blant perffaith amherffaith. Mae cymeriadau'r gyfres yn amrywio o ran gallu, abledd, tras a diddordeb. Mae cymaint o rieni ac athrawon wedi nodi bod Nel yn eu hatgoffa o blant yn yr ysgolion ac yn eu teuluoedd.

Dwi wrthi'n sgwennu'r stori nesaf ar gyfer ei phenblwydd yn 10 blwyddyn nesaf. Mi wnes i greu sioe lwyfan ar gyfer Eisteddfod Tregaron ac Eisteddfod Llŷn a dwi'n gobeithio bod modd teithio'r sioe yn 2024 fel rhan o'r dathliadau.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elin Hughes, Nansi Rhys Adams a Sion Emlyn o sioe Na, Nel!

Enillaist ti'r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol 2023 am dy lyfr, Hallt. Sut deimlad oedd hynny a beth yw ysbrydoliaeth y stori?

Roedd e'n deimlad arbennig am nifer o resymau. Mae'r stori'n sôn am berthynas mam (Elen) a'i merch (Cari) sy'n 16 mlwydd oed. Mae gan Cari anghenion ychwanegol ac ro'n i eisiau rhoi llais i bobl ifanc fel hi. Mae Cari'n dymuno fod yn fwy annibynnol ac mae Elen yn ceisio cadw'r ddisgyl yn wastad fel petai. Ro'n i am ddweud stori sy'n nodi'r heriau sy'n wynebu pobl fel Elen a Cari heb fod yn ramantus ond ro'n i hefyd eisiau dathlu gwahaniaethau unigolion. Mae'r stori'n un sy'n agos at fy nghalon gan fod gen i ferch sy'n debyg i Cari.

Dwi'n byw ger Consti yn Aberystwyth ac mae'r lleoliad yn rhan o'r stori. Yn ogystal, fy ngŵr, Sion, dyluniodd y clawr ac mi wnaeth e greu 20 o ddrafftiau i gyd. Mae'n rhaid i mi nodi fe wnaeth Sion, fi a'r tîm o fewn Lolfa ddewis y clawr!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Beth yw dy gynlluniau ar gyfer y dyfodol?

Dwi'n gweithio fel golygydd gyda'r Lolfa ers rhyw 13 mlynedd bellach ac ry'n ni wrthi'n paratoi ar gyfer y Nadolig ar hyn o bryd. Ymysg yr holl brysurdeb dwi hefyd wrthi'n sgwennu stori nesaf Na, Nel! ynghŷd â nofel o'r enw Megs. Mae Megs yn rhan o brosiect ar y cyd rhwng y Cyngor Llyfrau a Llywodraeth Cymru sy'n dathlu gwahaniaethau o fewn cymdeithas.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig