Lluniau: Marathon Eryri 2023
- Cyhoeddwyd
Cynhaliwyd Marathon Eryri ddydd Sadwrn, 28 Hydref gyda dros 2,500 o redwyr yn cymryd rhan.
Mae'r ras yn amgylchynu'r Wyddfa, wrth i redwyr ddringo i Ben-y-Pass cyn rhedeg drwy Fethania, Beddgelert, Rhyd Ddu a Waunfawr cyn cyrraedd y llinell derfyn yn Llanberis.
Dyma rai o luniau'r ffotograffydd Gwynfor James o'r diwrnod:

Y Gymraes Alaw Evans ddaeth yn gyntaf yn ras y merched mewn amser o 2:58:07

Angharad, Hannah a Siwan yn cefnogi ei gilydd wrth redeg

Roedd gweld teulu a ffrindiau yn annog ar hyd y daith yn hwb enfawr i'r rhedwyr

Tybed sut brofiad oedd rhedeg marathon ar dirwedd heriol tra'n cario tarian?

Criw o redwyr balch yn chwifio'r ddraig goch ar ôl cyrraedd Llanberis

Roedd un ferch fach yn helpu Stuart, Mark a Daniel i gyrraedd y llinell derfyn

Roedd rhedeg y marathon yn brofiad emosiynol i lawer

Gwenu wrth ddringo'r rhiw

Leslie ar wib

Roedd gan rai o'r rhedwyr synnwyr ffasiwn o'r radd flaenaf

Gyda'n gilydd fe redwn ni

Enillydd y dynion, Marshall Smith, yn cyrraedd y llinell derfyn mewn amser o 2:31:21

Law yn llaw i roi hwb i Laura

Marshall ac Alaw yn codi'r gwpan
Hefyd o ddiddordeb: