Cefnogaeth i bobl sy'n ceisio beichiogi 'ddim yn ddigon da'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Hawys Barrett o Gaerfyrddin fu’n rhannu ei stori er mwyn tynnu sylw at yr heriau o feichiogi

Dydy'r gefnogaeth i bobl sy'n ceisio beichiogi "ddim yn ddigon da, o bell ffordd" yn ôl aelod o Senedd Cymru.

Mae Fertility Network UK yng Nghymru yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar bobl sy'n wynebu "blynyddoedd o unigrwydd".

Yn ôl un fam o Sir Gâr - a wynebodd flynyddoedd anodd cyn cael IVF llwyddiannus - roedd hi'n byw o un mis i'r llall gan deimlo'n unig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod tri chlinig ffrwythlondeb yng Nghymru sy'n cynnig gwasanaethau cwnsela i gleifion y gwasanaeth iechyd.

'Byw bywyd o fis i fis'

"Ges i feichiogrwydd ectopig a nes i golli dau fabi," dywedodd Hawys Barrett, 38 o Sir Gaerfyrddin, wrth raglen Newyddion S4C.

"Daeth 'na bwynt lle o'n i'n gweld y blynyddoedd yn mynd ymlaen a lot o'n ffrindiau i bellach wedi cael babis - rhai wedi cael plant ers blynyddoedd."

Disgrifiad o’r llun,

Hawys Barret, gyda'i gŵr Ian a'u mab Mabon

Fe wynebodd flynyddoedd anodd wrth geisio beichiogi, cyn dechrau triniaeth IVF yn 2019.

Cafodd driniaeth lwyddiannus, ac mae ei mab Mabon yn dair oed erbyn hyn.

Mae'n rhannu ei stori er mwyn tynnu sylw at yr heriau yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Ffrwythlondeb.

"O'dd yr amser 'na lle chi'n byw mewn gobaith bo' chi ddim yn mynd i ddod arno [mislif] a bod popeth yn mynd i fod yn iawn, ond wedyn oedd pethe'n newid a'r siom 'na," dywedodd.

"O'dd mynd drwy hwnna mis ar ôl mis yn galed. Chi'n byw eich bywyd chi o un mis i'r llall, o un driniaeth i'r llall."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Emma Rees fod angen gwneud "lot mwy i roi cefnogaeth i bobl sy'n mynd drwy daith ffrwythlondeb"

Mae profiad Hawys yn un sy'n cael ei deimlo ar draws Cymru, yn ôl elusen Fertility Network UK.

Dywedodd Emma Rees fod rhan fwyaf y bobl sydd ar siwrne ffrwythlondeb yn teimlo'n isel ac yn unig.

"Rhywbeth sy'n rili becso ni fel elusen yw yn y survey wnaethon ni, fe wnaeth 40% ddweud eu bod nhw'n cael meddyliau suicidial.

"Mae'r statistic na'n uchel iawn a ni ishe 'neud lot mwy i roi cefnogaeth i bobl sy'n mynd drwy daith ffrwythlondeb."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae fy etholwyr i yn haeddu cael mynediad at wasanaethau yr un peth ag etholwyr ar draws Cymru," medd Sian Gwenllian

Mae Aelod o'r Senedd Plaid Cymru yn Arfon, Sian Gwenllian, wedi bod yn ymgyrchu dros gael gwell cefnogaeth ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig yn y gogledd.

Dywedodd: "Dydy'r sefyllfa yng Nghymru ddim yn ddigon da o bell ffordd.

"Mae nifer o ferched wedi dod ata i yn dweud eu bod nhw'n teimlo bo' 'na ddim digon o gefnogaeth iddyn nhw yn ystod y cyfnod yn arwain i fyny at y driniaeth.

"Mae fy etholwyr i yn haeddu cael mynediad at wasanaethau yr un peth ag etholwyr ar draws Cymru, ac felly mae'n rhaid creu darpariaeth a chreu gwasanaethau sy'n cyd-fynd efo'r boblogaeth yng Nghymru."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod fod proses IVF yn gallu bod yn anodd.

"Mae Pwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Iechyd Cymru (WHSSC) yn comisiynu gwasanaethau IVF ar ran pob bwrdd iechyd yng Nghymru.

"Mae'r tri chlinig sydd wedi'u comisiynu gan WHSSC i gyd yn darparu mynediad i gwnsela i gleifion y GIG.

"Byddem yn annog unrhyw un sydd angen cefnogaeth bellach yn ystod triniaeth i siarad â'u tîm ffrwythlondeb neu eu bwrdd iechyd lleol."

Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan gynnwys y stori gallwch gael cymorth ar wefan BBC Action Line.