Ydy cerdd dant at ddant pobl ifanc heddiw?
- Cyhoeddwyd
Ar drothwy yr Ŵyl Cerdd Dant, mae rhai o bobl ifanc Caerdydd yn dweud ei bod hi'n bwysig i "barhau â'r traddodiad".
Bydd yr ŵyl yn dychwelyd i'r brifddinas wedi 42 o flynyddoedd, ac yn cael ei chynnal yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.
Mae dau gôr cerdd dant newydd sbon wedi eu sefydlu yng Nghaerdydd i roi cyfle i bobl o bob oed gystadlu yn yr ŵyl.
Yn ogystal â'r canu, bydd pob math o gystadlaethau'n cael eu cynnal eleni, o lefaru i ddawnsio gwerin.
Mae criw o Aelwyd y Waun Ddyfal yng Nghaerdydd yn cystadlu eleni, ac yn dweud ei bod hi'n bwysig i "fanteisio ar y cystadlaethau... yn enwedig ar ein stepen drws".
Dywedodd Heledd fod y penderfyniad i gefnogi'r ŵyl yn rhywbeth naturiol: "Gan bod e'n dod i Gaerdydd ac ar ein stepen drws bydde fe'n neis i'w chefnogi hi.
"Ni gyd yn mwynhau canu caneuon gwahanol fel pop, ond mae'n neis i fynd 'nôl i'r hen draddodiadau a'u cadw yn fyw.
"Fi'n lico'r ffaith fod cerdd dant yn wahanol i bob dim arall... er bod e'n teimlo fel rhywbeth hir i gael yn iawn, ma' real stori iddo fe ac mae'n beth reallyneis i ganu fel grŵp."
Bydd Lois yn cystadlu yn rhai o'r cystadlaethau cerdd dant a llefaru, ac mae'n dweud ei bod yn "bwysig bod pobl ifanc yn parhau â'r traddodiad".
"Falle bod y cyfleoedd i ganu cerdd dant ddim yn digwydd mor aml â'r arddulliau eraill o ganu, felly mae'n neis bo' ni'n cymryd mantais o'r cystadlaethau tra bo' nhw ar gael, yn enwedig ar ein stepen drws."
Un o'r profiadau mae Cymdeithas Cerdd Dant Cymru - y corff sy'n hyrwyddo'r grefft - yn cynnig yw cwrs gosod a chyfeilio er mwyn hyfforddi pobl i osod cerdd dant a chyfeilio ar y delyn.
Dywedodd Elin, un o griw y Waun Ddyfal bod y cwrs wedi bod yn "brofiad reallyda... i ddysgu sut i osod ceinciau gwahanol".
Ond roedd o'r farn bod lle i hyrwyddo "pethau fel cyrsiau cerdd dant lot mwy a neud o'n rhywbeth mwy cyffredin o fewn cymdeithas".
Mae'r criw yn edrych ymlaen at gystadlu ddydd Sadwrn. Dywedodd Celyn ei fod yn "neis ei fod e'n Gaerdydd, mae'n agos, mae 'di bod sbel ers i fi gystadlu yn yr Ŵyl Cerdd Dant ers o'n i yn yr ysgol felly mae'n neis i fod nôl."
Dywedodd Delyth Medi, llywydd yr ŵyl eleni ac un a fu'n cystadlu'n rheolaidd yng ngwyliau'r gorffennol yn dweud ei bod yn rhywbeth "sbesial".
"Mae'n bwysig ein bod ni'n cadw'r statws yna.
"Mae hwn yn ffocws ar ŵyl draddodiadol lle ti'n ymfalchïo yn y pethau sy'n bodoli ers canrifoedd a ni'n ymfalchïo bod nhw dal yma."
Gyda niferoedd iach yn cystadlu eleni, dywedodd bod yn "rhaid i ni hybu'r grwpiau o bobl ifanc sydd â diddordeb mewn cerdd dant".
Yn gyn-bennaeth Cerddoriaeth yn Ysgol Glantaf, mae Delyth Medi wedi ymuno ag Owain Siôn i sefydlu côr cerdd dant newydd i blant ysgolion Plasmawr, Glantaf a Bro Edern i gystadlu yn yr ŵyl.
Dywedodd eu bod yn "gweld eu hyder yn tyfu a'u personoliaeth nhw yn dod allan drwy ganu cerdd dant".
Mae Delyth ac Owain hefyd wedi bod yn hyfforddi côr cerdd dant newydd arall yn y brifddinas; sef Côr Merched Ystum Taf.
Dywedodd Owain Siôn: "Natho ni benderfynu dod at ein gilydd [Côr Canna a Chôr Merched y Ddinas] ac estyn gwahoddiad i unrhyw un oedd eisiau ymuno gan fod yr ŵyl yn dod i Gaerdydd."
"Dydi hi ddim yn dod i'r ardal yn aml ac wedyn pan ma' hi'n dod mae'n bwysig, yn enwedig i blant yr ysgolion lleol eu bod yn cael y cyfle i gystadlu mewn rhywbeth lleol, sydd hefyd yn ŵyl genedlaethol.
"Yn y pen draw, parhad y grefft sy'n bwysig."
Mae'r trefnwyr wedi cyhoeddi apêl arbennig i'r cystadleuwyr a'r cefnogwyr eleni ddod â brwsh dannedd newydd sbon gyda nhw i'r ŵyl.
Bydd rhain yn cael eu dosbarthu maes o law i rai o'r bobl hynny sy'n cysgu ar strydoedd y brifddinas trwy'r bartneriaeth ag elusen Huggard.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2022
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2019