Deg o'r traciau cerdd dant mwyaf hanfodol

  • Cyhoeddwyd
Mei Gwynedd a Gwenan Gibbard, Parti'r Efail, Llio Evans. Aled Lloyd DaviesFfynhonnell y llun, BBC/Eisteddfod/S4C

Mae hi'r amser yna o'r flwyddyn unwaith eto... penwythnos yr Ŵyl Cerdd Dant, sydd eleni yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.

Wrth gwrs, gallwch wrando ar gerdd dant unrhyw adeg o'r flwyddyn - ond gyda chymaint o artistiaid i ddewis ohonyn nhw, lle mae dechrau?

Owain Siôn Williams, is-gadeirydd pwyllgor gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru, sydd wedi rhoi ei ben ar y bloc a dewis ei hoff draciau.

Cliciwch ar y dolenni yn y darn i gael blas ar y gerddoriaeth. Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol. Gallai hysbysebion ymddangos yng nghynnwys YouTube.

1. Geiriau: Ceidwad y Goleudy gan Emyr Huws Jones, Cainc: Glenys gan Judith Rees Williams, Albwm: Symud Ymlaen - Côr Seiriol

Ffynhonnell y llun, Sain

Uchafbwynt pob Gŵyl Cerdd Dant yw cystadleuaeth y Côr Cerdd Dant, ac mae Côr Seiriol a Gwennant Pyrs wedi profi llwyddiant cyson yn yr Ŵyl a'r Eisteddfod Genedlaethol dros y blynyddoedd.

Mae rhai yn troi eu trwynau ar glywed geiriau caneuon pop yn cael eu canu ar gerdd dant, ond mae eraill yn dadlau eich bod yn clywed y farddoniaeth ac yn sylwi ar y geiriau o'r newydd.

2. Geiriau: Guto Ffowc gan Geraint Lloyd Owen, Cainc: Betsan gan Mona Meirion, Albwm: Clir yw'r Lleisiau - Huw Edward Jones

Disgrifiad o’r llun,

Huw Edward Jones yn cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn 1982

Fy mhrofiad cyntaf o gerdd dant oedd cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac yn ôl yn yr 1980au roedd un bachgen bach o Fôn a oedd yn cipio pob gwobr yn ein gwyliau cenedlaethol. Daeth Huw Edward Jones yn eilun i nifer o gystadleuwyr ifanc oherwydd ei lwyddiant eisteddfodol. Leah Owen oedd yn ei hyfforddi, un sydd wedi rhoi ei dawn i ddysgu cymaint o blant ac oedolion ar hyd y blynyddoedd.

3. Geiriau: Detholiad o awdl Gwawr gan Meirion MacIntyre Huws, Cainc: Henfryn gan Gwenan Gibbard, Albwm: Y Gorwel Porffor - Gwenan Gibbard

Disgrifiad o’r llun,

Mei Gwynedd a Gwenan Gibbard yn cydberfformio yn 2014

Artist sy'n ymfalchïo yn ei gwreiddiau cerdd dant ydy Gwenan Gibbard o Bwllheli. Wedi'i thrwytho yn seiniau Parti Cymerau ers yn ddim o beth does dim syndod ei bod yn delynores, datgeinydd a hyfforddwraig heb ei hail.

Fel aelod o'r grŵp Pedair mae'n feistres ar gyflwyno'r traddodiad gwerin ar ei newydd wedd i gynulleidfaoedd rhyngwladol. Dyma drac cerdd dant sy'n pontio y byd roc a phop a'r byd gwerin - Gwenan a Mei Gwynedd.

4. Geiriau: Detholiad o awdl Ymadawiad Arthur gan T. Gwynn Jones, Cainc: Cilmeri gan Nan Elis, Albwm: Yn Dyner, Cyffyrddwch Dannau - Côr Pantycelyn

Ffynhonnell y llun, Sain

Bu sawl ymgais i ymestyn ffiniau cerdd dant, i arbrofi ac i ddatblygu dros y blynyddoedd. Un o'r rhai a gafodd fwyaf o argraff oedd Gareth Mitford Williams, hyfforddwr Côr Cerdd Dant Neuadd Pantycelyn, Aberystwyth, ddiwedd y 1970au. Gyda'i osodiadau newydd a beiddgar (a bwriadol ansoniarus ar brydiau) fe ysgydwodd y byd cerdd dant i'w sail ac achosi dadlau tanllyd. Mae ei ddylanwad i'w glywed yn glir ar y trac hwn.

5. Geiriau: Heno gan Gerallt Lloyd Owen, Cainc: Aran Benllyn gan Gwennant Pyrs, Albwm: Anian - 9Bach

Disgrifiad o’r llun,

9Bach yn dathlu ennill gwobr yr albwm gorau yng ngwobrau gwerin BBC Radio 2 yn 2015 am eu hail albwm, Tincian

Yn 2015 enillodd 9Bach wobr albwm y flwyddyn y BBC Radio 2 Folk Awards gyda'u halbwm Tincian. Lai na blwyddyn yn ddiweddarach cyhoeddwyd Anian gan y grŵp.

Mae'r trac Heno wedi'i greu gan ddefnyddio haenau o draciau lleisiol sy'n seiliedig ar y gainc, ac mae lleisiau Lisa Jên a Mirain Haf yn arddangos arbrofi modern gyda cherdd dant.

6. Geiriau:Corrach Siôn Corn gan Llio Evans, Cainc:Mebyn Mair - trefniant Dafydd Huw, Artist: Llio Evans

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Llio Evans, y corrach

Yn dilyn perfformiad campus Llio o Fy Nghyfrinach, dolen allanol yn Stomp Werin rithiol Eisteddfod AmGen 2020, roedd yn braf ei gweld yn ôl ar y sgrin ar raglen Y Busnes Cerdd Dant 'Ma yn 2021. Dyma elfen o gerdd dant sy'n profi'n fwyfwy poblogaidd yn Tŷ Gwerin yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob haf, sef perfformiad cerdd dant mewn Stomp.

Mae Cefin Roberts, Gruffudd Sol a Glesni Hendre Cennin oll yn feistri ar ysgrifennu cerddi smala, diddanu a chodi gwên - ond Llio a'i champau gyda Rhys Meirion sydd wedi dal fy sylw i.

7. Geiriau: Y Clwb Jazz gan Dafydd John Pritchard, Cainc: Y Felan gan Bethan Bryn, Albwm: O Fortuna - Ysgol Glanaethwy

Disgrifiad o’r llun,

Ysgol Glanaethwy yn cystadlu ar y sioe dalent Last Choir Standing yn 2008

Mae Cefin a Rhian Roberts ac Ysgol Glanaethwy wedi arfer gwthio ffiniau byd y celfyddydau perfformio ar hyd y blynyddoedd. Un arall sydd wedi mynd ati'n fwriadol i arbrofi gyda cheinciau cerdd dant yw Bethan Bryn sydd wedi cyfansoddi ceinciau llawer mwy cyfoes eu naws a'u sain, amryw ohonynt yn cynnwys elfennau jazz. Gyda gosodiad mentrus y cerddor Einion Dafydd mae'r trac hwn yn cyfuno jazz a cherdd dant yn berffaith.

8.Geiriau:Llawn Iawn o Gariad (traddodiadol), Cainc:Manhyfryd gan Gwennant Pyrs, Artist: Osian Huw Williams

Disgrifiad o’r llun,

Osian Huw Williams yn recordio'i fersiwn ei hun o gerdd dant

Ffrwyth llafur prosiect Her Cerdd Dant gan BBC Radio Cymru yn Nhachwedd 2020 rhwng Osian Candelas a Gwennant Pyrs yw'r gân hon. Yn ôl Osian, mae'n cynnwys cyfeiliant eithaf 'country' ac ysbrydoliaeth o fandiau fel Pink Floyd, Bright Eyes ac ychydig o Cowbois Rhos Botwnnog.

Yn flynyddol, clywir traciau cerdd dant yn cael eu chwarae yn ysbeidiol ar Radio Cymru yn ystod yr wythnos sy'n arwain at yr Ŵyl Gerdd Dant. Trueni na fyddai rhagor o gerdd dant yn cael ei chwarae fel rhan o'r arlwy drwy'r flwyddyn.

9.Geiriau:Y Parti Cerdd Dantgan Rhys Dafis, Cainc:Cainc y Datgeiniad (traddodiadol), Albwm:Ambell i Gân - Parti'r Efail

Disgrifiad o’r llun,

Parti'r Efail yn cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau yn 2016

Parti llawn cesys ydy Parti'r Efail o ardal Efail Isaf, Pontypridd. Dan arweiniad Menna Thomas mae'r parti meibion wedi cystadlu'n ddi-fwlch bob blwyddyn mewn Gŵyl Gerdd Dant neu Eisteddfod Genedlaethol ers 1995. Mae cyflwyniad y parti o eiriau Rhys Dafis yn dangos ein bod ni, gerdd-dantwyr, yn gallu gwneud hwyl am ein pen ein hunain a'r grefft rydyn ni mor falch ohoni.

10. Geriau: Hi gan Dai Rees Davies, Cainc: Morannedd gan Mona Meirion, Albwm: Gwin Hen a Newydd - Aled Lloyd Davies

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Aled Lloyd Davies yn 2021

Ni fyddai'r rhestr hon yn gyflawn heb gynnwys Aled Lloyd Davies, un a oedd yn allweddol yn adfywiad cerdd dant yn ystod yr 1960au. Yn ogystal â bod yn ddatgeinydd ei hun, roedd hefyd yn arweinydd Meibion Menlli - un o bartïon cerdd dant enwocaf Cymru yn y cyfnod. Ef yw awdur beibl pob cerdd dantiwr - Cerdd Dant - Llawlyfr Gosod.

Yn dilyn Gŵyl Cerdd Dant Caerdydd 2023, byddwn yn troi ein golygon tua'r Wyddgrug ar gyfer Gŵyl Aled yn 2024.

Hefyd o ddiddordeb:

Pynciau cysylltiedig