Caerdydd: Codi lefel rhybudd wedi pwysau 'anferth' gofal brys

  • Cyhoeddwyd
Adran Frys Ysbyty Athrofaol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ydy'r ysbyty fwyaf yng Nghymru, gyda 1,000 o welyau

Mae'r bwrdd iechyd yng ngofal ysbyty fwyaf Cymru wedi cyflwyno mesurau lliniaru yn sgil pryderon am "bwysau anferth" ar wasanaethau.

Mae'r bwrdd sy'n gyfrifol am Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn dweud fod y sefyllfa wedi codi o ganlyniad i "bwysau cynyddol y gaeaf".

Daw'r rhybudd ddyddiau wedi i bennaeth GIG Cymru rybuddio y gallai'r galw ar y system iechyd fod yn debyg i llynedd, pan brofodd y gwasanaeth y diwrnod prysuraf yn ei hanes.

Dywedodd y llywodraeth ei bod yn buddsoddi mewn gofal brys i geisio gwella'r sefyllfa.

Yn sgil y pwysau digynsail ar adran frys yr Ysbyty Athrofaol, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi cyhoeddi'r hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel "digwyddiad o barhad busnes".

Dyma'r lefel uchaf o rybudd o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ac mae'n golygu ailwampio staff er mwyn ymateb i'r galw a gofyn i staff eraill sydd ar gael i ddod i'r gwaith.

Yn ôl y bwrdd mae'r pwysau mwyaf yn cael ei deimlo yn yr adran achosion brys, a'r prif resymau yw pwysau tymhorol a'r nifer cyfyngedig o welyau sydd ar gael oherwydd yr oedi cyn gallu rhyddhau cleifion.

'Adolygu'n gyson'

"Mae'r pwysau parhaus hwn yn parhau i gyflwyno heriau i'r ffordd rydym yn darparu gofal cleifion," medd y bwrdd mewn datganiad.

"Ein blaenoriaeth yw darparu gofal amserol a diogel i bob claf ac wrth wneud hynny anogir aelodau'r cyhoedd i 'ein helpu ni, eich helpu chi' drwy ddefnyddio gwasanaethau'n briodol a mynychu'r uned frys ond mewn achosion o argyfwng gwirioneddol sy'n bygwth bywyd ac sy'n gofyn am ymyrraeth feddygol ar unwaith.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe agorwyd Ysbyty Athrofaol Cymru yn 1971

"Er mwyn gwella llif a chapasiti cleifion, mae'r bwrdd iechyd yn defnyddio adnoddau mewnol ac yn parhau i weithio gyda chydweithwyr o'r awdurdodau lleol a'r sector iechyd a gofal cymdeithasol i hwyluso'r broses o ryddhau cleifion sy'n feddygol ffit i'w cartrefi.

"Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw darfu ar apwyntiadau dewisol a chlinigol, sy'n parhau i weithredu fel arfer. Fodd bynnag, bydd y bwrdd yn adolygu'r sefyllfa'n gyson ac yn cyhoeddi diweddariad maes o law.

"Hoffai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'r cyhoedd am eu hamynedd a'u cefnogaeth mewn cyfnod eithriadol o anodd i gydweithwyr."

'Dim amser i siarad'

Yn ôl cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru (RCN), Helen Whyley, mae'r "pwysau ar y system yn anferth".

Yn siarad ar Radio Wales Breakfast fore Mercher fe ddywedodd: "Rydym yn siarad am bwysau'r gaeaf ond y gwir amdani yw bod y pwysau yma trwy gydol y flwyddyn, mae yna nifer o bethau sy'n cyfrannu ato.

"Ydw, rwy'n meddwl ei bod yn deg i bawb ddweud bod pwysau yn y GIG yn sylweddol ar hyn o bryd ac mae'n edrych fel y bydd yn parhau trwy gydol misoedd yr hydref a'r gaeaf."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r "pwysau ar y system yn anferth" yn ôl cyfarwyddwr Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Helen Whyley

Ychwanegodd fod aelodau yn dweud fod yr amgylchiadau presennol yn "heriol iawn", a'u bod yn "teimlo dan straen".

"Mae ein haelodau'n sôn am gleifion sy'n dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cael mynediad at apwyntiadau meddyg teulu ac hefyd nad ydynt yn gallu cael y gofal sydd ei angen arnynt yn eu cartref.

"Mae hynny'n amlwg yn bwysau ar wasanaethau nyrsio ardal, a gwyddom fod bron i 3,000 o swyddi gwag ar gyfer nyrsys cofrestredig yng Nghymru o hyd.

"Rydym wedi siarad am gynlluniau tymor byr a thymor hir... nid oes gennym yr amser i ddal i siarad."

"Mae angen i ni weld gweithredu ar y cynlluniau hyn. Mae'r system yn gwegian ac mae pobl o dan mwy a mwy o bwysau ar sut maen nhw'n derbyn eu gofal iechyd.

"Mae angen i ni weld mwy o weithredu gan Lywodraeth Cymru a'r GIG ei hun."

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn buddsoddi mewn gofal brys yr un diwrnod a gwelyau cymunedol ychwanegol yn ogystal ag atebion integredig gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i wella llif cleifion drwy ysbytai, a mynd i'r afael ag oedi wrth drosglwyddo ambiwlansys."