Cyflwr ysbyty mwyaf Cymru yn 'gwbl annerbyniol'

  • Cyhoeddwyd
Adran Frys Ysbyty Athrofaol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ydy'r ysbyty mwyaf yng Nghymru, gyda 1,000 o welyau

Mae cyflwr ysbyty mwyaf Cymru yn "gwbl annerbyniol", yn ôl y Prif Weinidog Mark Drakeford.

Fe wnaeth arolwg dirybudd o'r unedau brys ac asesu yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ganfod sinciau budr, morâl isel a phobl yn gorfod eistedd ar finiau neu ar y llawr oherwydd diffyg seddi.

Dywedodd Mr Drakeford yn y Senedd nad yw'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd yn "esgusodi" Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro rhag cynnal safonau uchel.

Dywed y bwrdd iechyd ei fod yn derbyn canfyddiadau'r adroddiad yn llawn, ond fod yr unedau dan sylw wedi bod "dan bwysau aruthrol ers peth amser".

Menyw 86 oed wedi disgwyl 20 awr

Fe ddaeth sylwadau Mr Drakeford wedi i arweinydd y grŵp Ceidwadol, Andrew RT Davies ddweud fod menyw 86 oed wedi gorfod disgwyl 20 awr i weld meddyg yn yr uned frys wedi iddi gael ei hamau o gael strôc.

Ychwanegodd bod y fenyw wedi gorfod defnyddio tacsi i fynd i'r ysbyty yn ardal y Mynydd Bychan yn y brifddinas ar ôl iddi gael gwybod y byddai'n cymryd sawl awr i ambiwlans ei chyrraedd.

Dywedodd Mr Davies, wedi'r profiad, fod y fenyw wedi penderfynu "na fydd hi'n mynd yn ôl i ysbyty fyth eto".

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mark Drakeford nad yw'r pwysau ar y GIG yn esgusodi methiannau Ysbyty Athrofaol Cymru

Dywedodd Mr Drakeford yn sesiwn Cwestiynau i'r Prif Weinidog ddydd Mawrth fod yr adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn dweud fod y mwyafrif o gleifion yn "cael eu trin ag urddas a pharch a'u bod yn derbyn gofal brys da".

Ond ychwanegodd: "Mae'n gwbl annerbyniol i mi ddarllen adroddiad sy'n dweud fod yr uned frys yn fudr, nad oes ganddi ddigon o gadeiriau i bobl eistedd arnynt, ac nad yw'n gallu darparu mynediad at ddŵr i'r rhai sy'n aros."

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn deall bod y system dan "bwysau anferth", ond nad yw hynny'n rhoi'r hawl i'r bwrdd iechyd "fethu â chyflawni'r safonau amgylcheddol sylfaenol yna".

Ddydd Mawrth fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi £2m yn rhagor er mwyn gwneud gwelliannau i ardaloedd aros unedau brys dros y gaeaf.

Ffynhonnell y llun, Mick Lobb/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Agorodd Ysbyty Athrofaol Cymru yn 1971, ond fe gyhoeddodd y bwrdd iechyd yn 2019 ei fod bellach yn "anaddas i'w bwrpas"

Fe gafodd arolwg dirybudd AGIC ei gynnal rhwng 20 a 22 Mehefin eleni, a dywedodd fod yna amharu ar urddas a hunan-barch cleifion ar sawl achlysur dros y cyfnod hwnnw.

Roedd y sinc yn un o'r toiledau yn "amlwg yn fudr", a chafodd poteli wrin oedd wedi'u defnyddio eu gweld ar gypyrddau ger gwelyau cleifion.

Yn yr uned asesu, fe welodd arolygwyr gleifion yn cael eu nyrsio mewn cadeiriau nad oedd wedi eu cynllunio ar gyfer eu defnyddio am gyfnod hir.

"Fe wnaethon ni weld un claf oedd wedi treulio'r noson ar ddwy gadair gyda chefn uchel oedd ddim yn gogwyddo," meddai'r adroddiad.

Cafodd pryderon hefyd eu codi gan staff am yr adnoddau oedd ar gael iddyn nhw, gydag un aelod o staff yn dweud nad oedd yr adnoddau cywir ar gael i drin plant oedd wedi dioddef llosgiadau.

Ymhlith y canfyddiadau eraill oedd meddyginiaethau ddim yn cael eu storio'n gywir, ac offer ddim yn cael ei archwilio fel ag y dylai.

'Pwysau aruthrol'

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro: "Mae ein hunedau brys ac asesu wedi bod dan bwysau aruthrol ers peth amser ac ry'n ni'n derbyn canfyddiadau adroddiad AGIC yn llawn.

"Mae'r timau wedi bod yn gweithio'n galed er mwyn gwneud gwelliannau i brofiadau cleifion a chael strategaeth mewn lle i fynd i'r afael â'r problemau a newid gwasanaethau."