Ysbytai Cymru yn paratoi at bwysau cynddrwg â'r llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cynllunio i orfod ymateb i straen cynddrwg os nad gwaeth na galw'r gaeaf diwethaf - lle profodd y gwasanaeth y diwrnod prysuraf yn ei hanes.
Dyna rybudd y prif weithredwr, Judith Paget, sy'n dweud eu bod yn pryderu am lefel y straen sydd eisoes wedi effeithio ar wasanaethau'r hydref hwn.
27 Rhagfyr 2022 oedd y diwrnod prysuraf yn hanes GIG Cymru gyda nifer o ysbytai yn datgan "digwyddiad mewnol difrifol" erbyn dechrau'r flwyddyn newydd.
Dywedodd Ms Paget "nad oes amheuaeth" y byddai'n aeaf prysur iawn a'i bod yn cynllunio at lefelau tebyg o straen dros y misoedd nesaf.
Mae ymgyrch newydd wedi ei lansio sy'n cyfeirio at wasanaethau amgen sydd ar gael y gaeaf hwn er mwyn lleddfu'r straen ar feddygfeydd ac adrannau damweiniau ac achosion brys.
"Does dim amheuaeth ei fod yn mynd i fod yn aeaf prysur iawn," medd Judith Paget.
"Rydym yn amlwg yn cynllunio ar gyfer gaeaf prysur... gan weithio gyda'n cydweithwyr yn y Gwasanaeth Ambiwlans, ein cydweithwyr yn y GIG, i'r trydydd sector a llywodraeth leol o ran gofal cymdeithasol."
Dywedodd y "bydd y GIG yno os bydd ei angen arnoch chi", ond anogodd pobl i ddefnyddio "opsiynau amgen" pan fo modd gwneud hynny.
Fe dynnodd Ms Paget sylw at ddatblygiad Canolfannau Gofal Cychwynnol Brys (CGCB) a Gwasanaethau Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod (GGAUD), sydd bellach yn weithredol mewn sawl rhan o Gymru.
Mae CGCB yn trin pobl ag anghenion gofal sylfaenol brys ar yr un diwrnod, tra bod GGAUD yn helpu pobl i gael mynediad at ddiagnosteg a thriniaeth ar gyfer gofal brys tra'n gallu dychwelyd adref ar yr un diwrnod.
Nid yw'r ddau wasanaeth yn cynnig apwyntiadau galw i mewn ond gellir sicrhau mynediad drwy feddyg teulu neu uned damweiniau ac achosion brys.
Dywed Llywodraeth Cymru fod 10,000 o bobl yn defnyddio CGCB bob mis, tra bod 14,500 wedi cael triniaeth GGAUD yn y tri mis diwethaf.
Mae'n bosib byddai'r cleifion hyn, fel arall, wedi gorfod aros yn yr ysbyty.
Mae Ms Paget hefyd yn tynnu sylw at y cyngor arbenigol sydd ar gael 24/7 ar wefan GIG Cymru - sy'n derbyn tua 70,000 o alwadau'r mis, gyda dim ond 11% o'r rheiny yn y pen draw yn cael eu cyfeirio i unedau damweiniau ac achosion brys.
"Dros y ddwy flynedd diwethaf rydym wedi bod yn adeiladu ystod o opsiynau ar gyfer cleifion sydd ag anghenion gofal iechyd brys.
"Ac rydyn ni wir eisiau gwneud yn siŵr bod cleifion yn ymwybodol o'r hyn sydd ar gael, sut i gael gafael arno, a'r ystod honno o opsiynau fel y gallant wneud penderfyniadau gwybodus drostynt eu hunain pe baent yn mynd yn sâl dros gyfnod y gaeaf."
'Byddwn dal i gael dyddiau pwysau uchel'
Ond fe gyfaddefodd Ms Paget ei bod wedi bod yn bryderus am y pwysau sydd eisoes wedi bod ar y GIG yr hydref hwn.
Mae'n dweud ei bod wedi bod yn "poeni" am y straen ar Ysbyty Treforys yn Abertawe yn ddiweddar a arweiniodd at y Gwasanaeth Ambiwlans yn datgan "digwyddiad rhyfeddol".
Ar un adeg roedd 16 ambiwlans yn ciwio y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys yr ysbyty gyda chleifion yn disgwyl 28 awr i gael eu trosglwyddo.
Ond mae Ms Paget yn rhybuddio ei bod yn debygol y bydd mwy o bwysau tebyg eto'r gaeaf hwn.
"Mae gennym ambell ddiwrnod lle mae'r system o dan bwysau eithriadol," meddai.
"Mae'n digwydd bob adeg o'r flwyddyn a dweud y gwir, felly yn amlwg roeddwn yn poeni am yr hyn oedd yn digwydd yn Ysbyty Treforys y diwrnod hwnnw, yn poeni am y pwysau ar staff ac yn poeni am brofiad y claf.
"Ond rwy'n meddwl bod y bwrdd iechyd wedi ymateb i hynny mewn ffordd gadarnhaol, yn gweithio gyda'r gwasanaeth ambiwlans ac yn meddwl drwy beth arall sydd angen ei wneud.
"Ond byddwn dal i gael y dyddiau pwysau uchel hynny drwy'r gaeaf eto eleni."
Arbedion angenrheidiol
Mae'r Gweinidog Iechyd yn gofyn i fyrddau iechyd wneud toriadau pellach o £64m i leihau eu gorwariant.
O ganlyniad mae Eluned Morgan wedi rhybuddio efallai na fydd gwelyau ychwanegol yn gallu cael eu hagor mor hawdd ag yn y blynyddoedd blaenorol wrth i ysbytai geisio lleihau eu defnydd o staff asiantaeth drudfawr.
Awgrymodd dadansoddiad gan BBC Cymru y gallai byrddau iechyd fod ar y ffordd i orwario hyd at £800m erbyn ddiwedd mis Mawrth 2024 - ar ôl datgan yn flaenorol gorwariant tebygol o £640m.
Maen nhw wedi cael eu rhybuddio gan Eluned Morgan i leihau'r ffigwr cychwynnol hwnnw o 10% dros y gaeaf.
Ond mynnodd Judith Paget na fyddai'n caniatáu i fyrddau iechyd roi cleifion mewn perygl mewn ymdrech i leihau costau.
"Maen nhw'n hollol ymwybodol ei bod hi'n amlwg mai ein prif flaenoriaeth yw diogelwch cleifion a diogelwch gwasanaethau," meddai Ms Paget.
"Fe fyddan nhw'n gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynglŷn â sut i wneud yr arbedion hynny yn erbyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n parhau i ddarparu'r gofal hwnnw mae cleifion ei angen.
"Dyna eu cyfrifoldeb. Dyna'r un cyfrifoldeb sydd gan bob bwrdd iechyd bob blwyddyn.
"Dyw hwn ddim yn fater newydd ar gyfer eleni. Mae'n rhaid gwneud y dyfarniadau hynny a byddant yn asesu'r dyfarniadau hynny ac yn gwneud y penderfyniadau cywir, rwy'n hyderus o hynny."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd13 Medi 2023