Brawd a chwaer yn rhoi £1.3m mewn ewyllys i'r ambiwlans awyr
- Cyhoeddwyd
Fe adawodd brawd a chwaer £1.3m yn eu hewyllys i Ambiwlans Awyr Cymru - y rhodd fwyaf y mae'r elusen erioed wedi'i derbyn.
Gadawodd Charles Tryweryn Davies, 92, a Margaret Eunice Davies, 89, neu 'Peggy', y rhan fwyaf o'u harian i'r elusen pan fuon nhw farw.
Cafodd y ddau, a gafodd eu magu ar eu fferm deuluol yng Nghorwen, Sir Ddinbych, eu disgrifio fel "cymeriadau lliwgar".
Dywedodd Ambiwlans Awyr Cymru y byddai eu haelioni yn ariannu dros 280 o deithiau achub bywyd.
Bu farw Peggy ym mis Tachwedd 2019, ac yna Charles bedwar mis yn ddiweddarach.
Y gred ydy eu bod wedi gadael yr arian i'r elusen i ddiolch am roi cymorth i Charles pan gafodd ddamwain gyda thractor.
Yn eu blynyddoedd olaf, treuliodd Charles a Peggy amser yn byw yng nghartref nyrsio Cysgod y Gaer yng Nghorwen.
Dywedodd Merfyn Roberts, a oedd yn ffrind i'r ddau, eu bod wedi'u claddu wrth ymyl eu brawd, Ivor.
"Ar eu carreg fedd, mae'n dweud 'Rhoi eu hoes i ffermio'n gymen, Rhoi eu helw i elusen', ac rwy'n credu bod hyn yn eu disgrifio mewn ffordd hyfryd."
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Awyr Cymru eu bod wedi'u "rhyfeddu gan y rhodd anhygoel o hael hwn", gan ychwanegu mai dyma'r etifeddiaeth fwyaf erioed i'r elusen.
"Mae'n drueni na chawsom ni byth gwrdd â Charles a Peggy, ond mae'n amlwg o'u haelioni ac o glywed y straeon amdanyn nhw, y math o gymeriadau oedden nhw."
'Cymeriadau unigryw'
Ar raglen Dros Frecwast, dywedodd un oedd adnabod y ddau yn dda, Iolo Evans, ei fod yn eu "hadnabod ers blynyddoedd lawer ar ôl gweithio i Amaethwyr Corwen am bron i 50 mlynedd".
"Roedd y ddau yn dod efo'i gilydd i'r Co-op yng Nghorwen i brynu nwyddau. Roedd y ddau yn ffrindiau pennaf a'n deall ei gilydd, a Charles yn dipyn o awdurdod ar y tywydd.
"Mae'n stori anhygoel am frawd a chwaer wedi cyd-fyw ar eu tyddyn wrth ymyl Llandrillo, yn gymeriadau unigryw iawn a'n byw bywyd syml iawn.
"Roedden nhw yn gwpl a oedd yn caru eu hanifeiliaid a'u hardal, ac wedi bod yn gefn i'w gilydd ar hyd yr amser."
Aeth Mr Evans ymlaen i ddweud bod y ddau wedi byw ar y fferm deuluol roedd y teulu wedi bod ynddo "erioed".
"Er yn ddau allan o wyth o blant, doedd ganddyn nhw ddim teuluoedd eu hunain ac mae'r achos yma wedi codi rŵan ble mae rhodd wedi ei roi i achos mor deilwng.
"Dwi'n credu bod Charles wedi cael damwain efo'r tractor o be' rydw i yn ei gofio, ac wedi gorfod galw'r ambiwlans awyr.
"Mae'n debygol iawn mai dyna sydd wedi eu perswadio nhw i roi eu heiddo tuag at yr elusen arbennig yma felly.
"Mae'r ffaith eu bod nhw wedi rhoi y rhodd arbennig yma yn aruthrol. Mae hon yn elusen mor bwysig."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023