Cyhoeddi union leoliadau 350 o domenni glo risg uwch

  • Cyhoeddwyd
PendyrusFfynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Tirlithriad Pendyrus yn 2020 wnaeth sbarduno'r gwaith o fapio tomenni glo Cymru - mae'r safle wedi'i gadarnhau fel un o'r 83 yn y categori risg uchaf

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi data sy'n dangos am y tro cyntaf union leoliadau dros 2,500 o domenni gwastraff glo ar hyd a lled y wlad.

O'r rheiny mae 350 ohonyn nhw wedi cael eu rhoi yn y ddau gategori risg uchaf, sy'n golygu y byddan nhw nawr yn cael eu monitro o leiaf unwaith y flwyddyn.

Cafodd y gwaith o fapio'r safleoedd ei gomisiynu yn dilyn tirlithriad ar dip glo Pendyrus yng Nghwm Rhondda yn 2020, wedi glaw trwm.

Mae Tasglu Diogelwch y Tomenni Glo, gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, yn cynnwys yr Awdurdod Glo, cynghorau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru.

'Ni angen gwybod y risg'

Er bod y rhan fwyaf o byllau glo yng Nghymru wedi hen gau bellach, mae'r tipiau gwastraff gafodd eu gadael yn sgil y gwaith yn dal i fod yn rhan o'r tirlun mewn sawl rhan o'r wlad, yn enwedig yng ngymoedd y de.

Cafodd llawer o waith ei wneud i ddiogelu nifer o'r tipiau hynny yn sgil trychineb Aberfan yn 1966, ond mae tirlithriadau bychan yn parhau i ddigwydd o dro i dro yn enwedig yn dilyn tywydd garw.

Mae safle'r tirlithriad ym Mhendyrus dair blynedd yn ôl ymhlith yr 83 tip yng Nghategori D o ran risg, sy'n golygu y bydd yn cael ei archwilio ddwywaith y flwyddyn i sicrhau ei fod yn ddiogel.

Bydd y 267 o dipiau glo yng Nghategori C, a'r rheiny ar draws 14 o siroedd Cymru, yn cael eu monitro unwaith y flwyddyn.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Jordan Hughes yn gallu gweld tip Pendyrus, neu Tylorstown, o'i stepen ddrws

Rhondda Cynon Taf yw'r awdurdod lleol sydd â'r nifer uchaf o hen dipiau yn y ddau gategori uchaf - 50 yng Nghategori C, a 29 yng Nghategori D.

I Jordan Hughes felly, sy'n gallu gweld tirlithriad Pendyrus o'i stepen ddrws, mae'r gwaith diweddar o asesu risg y safleoedd yn "hollbwysig".

"Ein hardal ni yw hon, ni angen gwybod am stwff fel 'na a'r risks, os ydy'r llywodraeth yn cadw ni'n saff fel pobl sy'n byw yma," meddai.

"Mae'r cyngor wedi bod yn gweithio arno fe, ac yn agor y trac 'na 'nôl lan. Mae'n lwcus bod y tip ei hun heb fynd, just ochr y mynydd oedd e.

"Felly fi'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn edrych mewn i'r risgiau yna, a sut maen nhw am daclo fe."

'Cadw pobl yn ddiogel'

Bydd angen llai o oruchwyliaeth ar y 2,200 o dipiau yng Nghategorïau A & B, ond mae gwaith eisoes wedi dechrau hefyd i asesu rhai o'r safleoedd yng Nghategori B.

Wrth gyhoeddi'r data manwl, dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw eisoes wedi cysylltu gyda pherchnogion tir ble mae'r tipiau gwastraff risg uwch wedi eu lleoli.

Ond mae hynny wedi bod yn broses gymhleth, gan fod nifer o'r safleoedd yn berchen i fwy nag un person, a'r mwyafrif ohonynt yn bennaf dan berchnogaeth breifat.

Mae'r llywodraeth hefyd yn bwriadu gwahodd y cyhoedd sy'n byw yn rhai o'r ardaloedd hynny i fynychu digwyddiadau cyhoeddus ble allen nhw ofyn rhagor o gwestiynau.

Eisoes maen nhw wedi cyhoeddi cronfa o £44.4m dros dair blynedd, fydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gwneud gwaith cynnal a chadw ar unrhyw dipiau glo sydd eu hangen.

"Rydyn ni wedi canolbwyntio ar dipiau Categori C a D am mai'r rheiny sydd fwyaf tebygol o fod angen archwiliadau cyson, fel bod modd i ni adnabod a gwneud unrhyw waith cynnal a chadw sydd ei angen," meddai'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.

"Dyw e ddim yn golygu eu bod nhw'n beryglus, ond efallai eu bod nhw'n fwy, ac yn fwy tebygol o fod yn agos at gymunedau neu isadeiledd sylweddol."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Esiampl o fap yn dangos hen domenni glo ym Mlaenau Gwent (sgwar - Categori C; cylch - Categori D)

Ychwanegodd fod y llywodraeth yn paratoi deddfwriaeth newydd fydd hefyd yn creu corff cyhoeddus i oruchwylio'r gwaith o reoli, monitro a gofalu am yr hen domenni.

"Ein blaenoriaeth ni yw sicrhau bod pobl sy'n byw a gweithio'n agos i'r tipiau glo yn teimlo'n ddiogel, nawr ac yn y dyfodol," meddai.

Gwaith 'hanfodol'

Mae Dr Ben Curtis yn hanesydd ar y diwydiant glo yng Nghymru, ac yn dweud fod y gwaith o mapio ac asesu risg y tipiau yn "hanfodol".

"Mae rhai ohonyn nhw'n amlwg i weld, ond mae rhai ohonyn nhw ddim yn amlwg o gwbl," meddai.

"Mae'n bosib eu gweld nhw os ti'n chwilio amdanyn nhw, ond mae lot o bobl ddim falle yn sylweddoli bod tomenni gwastraff glo yn dal i fod o gwmpas ni yma yn y de.

Ffynhonnell y llun, Ceri Tracey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Parc Penallta ger Ystrad Mynach, Caerffili, yn un o'r safleoedd sydd bellach yn eistedd ar hen dip glo gafodd ei drawsnewid

"Wrth gwrs, dyw e ddim yn wir i ddweud bod dim byd erioed wedi cael ei wneud i ddelio gyda'r sefyllfa yma.

"Yn y degawdau ar ôl trychineb Aberfan roedd lot o waith wedi ei wneud i glirio, neu newid a drawsffurfio rhai o'r tipiau.

"Y tip gwastraff glo mwyaf yn Ewrop oedd un ym Margoed - mae hwnnw mwy neu lai wedi clirio, wedi trawsffurfio.

"Felly mae'n bosib trawsffurfio neu ddelio gyda rhai o'r safleoedd yma, yn dibynnu ar gyd-destun y safleoedd."