Rhondda Cynon Taf â'r nifer fwyaf o domenni glo risg uchel
- Cyhoeddwyd
Rhondda Cynon Taf sydd â'r nifer fwyaf o domenni glo "risg uchel" yng Nghymru, gyda 75 safle allai beryglu diogelwch, yn ôl ffigyrau newydd.
Mae'r ffigyrau yn dangos ym mha siroedd mae'r 327 tomen lo sydd wedi eu cofnodi fel rhai "risg uwch", gan gynnwys y 71 sydd â'r lefel risg uchaf.
Ond dydy union leoliadau'r safleoedd heb gael eu datgelu eto.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford fod llawer o waith yn cael ei wneud i sicrhau fod y tomenni yn ddiogel.
Mae'r data yn dangos bod angen buddsoddiad hirdymor, meddai arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf Andrew Morgan.
Yn ogystal â Rhondda Cynon Taf, mae gan Ferthyr Tudful (59) a Chaerffili (53) hefyd nifer fawr o domenni yn y categori risg uwch.
Daw hyn cyn cynhadledd ar ddiogelwch tomenni lo rhwng gweinidogion Cymru a'r DU ddydd Mawrth.
Nid ydy tomenni categori A a B yn debygol o achosi perygl oherwydd eu maint neu eu lleoliad.
Mae rhai categori C a D yn peri mwy o risg - rhain sydd yn y categori "risg uwch" - ond yn ôl y llywodraeth dydy'r rheiny ddim o reidrwydd yn debygol o beri bygythiad yn syth neu yn y dyfodol agos.
Mae Llafur Cymru wedi galw o'r newydd ar Lywodraeth y DU i ariannu'r gwaith i "addasu, adennill, ac atgyweirio" tomenni glo segur, gan amcangyfrif y bydd hyn yn costio rhwng £500m i £600m dros y 15 mlynedd nesaf.
Ond dywedodd Llywodraeth y DU fod "mwy na digon o arian" gan Lywodraeth Cymru i gyflawni'r gwaith ei hun.
Mae newid hinsawdd wedi achosi pryder y gall tywydd eithafol gynyddu'r posibilrwydd y bydd tomenni troi'n ansefydlog.
Tirlithriad ar domen lo ym Mhendyrus, Rhondda Cynon Taf, yn dilyn Storm Dennis, wnaeth sbarduno'r gwaith i asesu pob tomen lo segur yng Nghymru.
Cafodd 2,456 o domenni eu cofnodi gan yr astudiaeth, a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru ar y cyd ag Awdurdod Glo Llywodraeth y DU ac eraill.
Yn ôl Llywodraeth Cymru dydy tomen sy'n cael ei hystyried fel un "risg uchel" ddim o reidrwydd yn debygol o beri bygythiad yn syth neu yn y dyfodol agos, ond mae'r statws yn cydnabod bod "risg posib i ddiogelwch" ac o ganlyniad fe fyddent yn cael eu harolygu'n amlach.
Yn ôl Heledd Fychan, aelod Plaid Cymru dros ranbarth canol de Cymru yn y Senedd, mae 'na bryder "aruthrol" am y sefyllfa yn lleol.
"Dwi'n meddwl bod nifer ohono' ni wedi cael llond bol o siarad. Tra bod y ddwy lywodraeth yn dweud y dylai'r naill neu'r llall dalu, 'da ni'n gweld y tomenni yma'n mynd yn fwy peryglus," meddai.
"Y ffaith bo' ni ddim chwaith yn cael gwybod lle yn union mae'r tomenni yma o ran y rhai yn y categori risg uchaf - dwi ddim yn meddwl bod hynny'n deg o gwbl ar y cymunedau sy'n byw yng nghysgod y tomenni hyn.
"Da' ni'n cael nifer o bobl yn gofyn i'r llywodraeth roi gwybod i'r cymunedau hyn os oes 'na unrhyw symudiad ac ati.
"Fyddan nhw'n teimlo gymaint gwell o wybod beth yw lefel risg y domen lo yn eu hardal nhw ond da' ni dal ddim yn gwybod hyn a da' ni dal ddim yn gwybod pwy sy'n mynd i dalu am y gwaith."
'A fyddwn ni ddigon lwcus y tro nesa?'
Ychwanegodd Ms Fychan: "Os da' chi'n meddwl yn ôl i be welon ni' ym Mhendyrys... roedd y golygfeydd yna'n echrydus, a ninnau ond wedi cofio am drychineb Aberfan yr wythnos ddiwethaf.
"Dwi'n meddwl, a ninnau'n mynd mewn i'r gaeaf rŵan, ac wedi gweld llifogydd yn ddiweddar iawn yma yn Rhondda Cynon Taf, mae 'na bryder gwirioneddol.
"Ydyn ni'n sicr bod y rhain yn ddiogel ac na welwn ni'r fath ddinistr a welwyd yn Chwefror 2020 o ran Pendyrys? Ac a fyddwn ni ddigon lwcus y tro nes bod 'na neb yn cael eu hanafu?"
Dywedodd Mr Drakeford fod arolygiadau'r gaeaf wedi dechrau ar domenni "risg uwch".
"Rydyn ni'n cydnabod pa mor bryderus y gall byw o dan gysgod tomen lo fod i gymunedau, ac rydyn ni eisiau sicrhau pobl leol fod llawer o waith yn cael ei wneud i wneud yn siŵr eu bod yn ddiogel," meddai.
Ychwanegodd nad yw'r swm o arian mae Llywodraeth Cymru'n ei dderbyn yn cydnabod "cost uchel, hirdymor" atgyweirio'r tomenni hyn.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod wedi rhoi £31m o arian ychwanegol i Lywodraeth Cymru ddelio ag effaith Storm Dennis, a bod £9m o hyn ar gyfer atgyweirio tomenni glo bregus.
Ond dywedodd fod rheoli tomenni glo wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ac felly nid yw'n rhywbeth y byddai Llywodraeth y DU yn rhoi arian ychwanegol ar ei gyfer.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021