System fonitro tomenni glo yn 'hanfodol' i atal tirlithriadau
- Cyhoeddwyd
Mae'n hanfodol bod system fonitro yn cael ei gosod ar domenni glo er mwyn rhybuddio pobl pan fod tirlithriad yn digwydd, meddai arbenigwr.
Gallai rhybudd gael ei ddanfon at ffonau symudol pan fod 'na berygl o ddamwain, yn ôl yr Athro Karen Hudson-Edwards.
Roedd hi'n ymgynghorydd i adolygiad a gychwynnodd yn dilyn tirlithriad tomen yn y Rhondda llynedd.
Llithrodd 60,000 o dunelli o wastraff glo i lawr ochr y mynydd ym Mhendyrus wedi glaw trwm Storm Dennis.
Bellach mae'r llywodraeth wedi datgelu bod 2,456 o domenni yng Nghymru - gyda 327 ohonyn nhw yn y categori mwyaf peryglus.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod rhaglen ar y gweill a fydd yn edrych ar sut y gallai technoleg helpu i fonitro tomenni glo.
Dywedodd yr Athro Hudson-Edwards y gall technoleg gael ei roi yn wyneb y tomenni i fonitro unrhyw symudiadau neu newid tymheredd.
Yn debyg i'r dyfeisiau sy'n rhybuddio pobl am losgfynyddoedd, byddai hefyd yn helpu rhagweld llwybr deunydd sy'n disgyn o'r tomenni.
"Gallem mewn gwirionedd fapio lleoliadau gwahanol ddefnyddiau tir, fel adeiladau a thai neu ysgolion a thir amaethyddol," meddai.
"O ystyried ein bod wedi cael Aberfan ym 1966 a'r arllwysiad diweddar yn Tylorstown y llynedd, ble na laddwyd unrhyw un diolch byth, rwy'n credu y byddai system o'r fath yn hanfodol yng Nghymru."
Mae technoleg o'r fath yn cael ei threialu yn barod ar rai tipiau, ond mae'r gwaith o'u diogelu wedi ei gymhlethu gan y ffaith bod tua 70% o'r tomenni yng Nghymru ar dir preifat.
'Angen monitro, ac yna diogelu'
Mae Phil Thomas a'i deulu yn byw yng nghysgod tomen yn Ynyshir, rhai milltiroedd o Bendyrus.
Dim ond ar ôl y tirlithriad yno y daeth Mr Thomas i wybod bod y tomen uwchben ei dŷ yng nghategori D, sef y categori risg uchaf.
"Dylai'r dyfeisiau monitro hynny fod ar waith heddiw," meddai.
"Yna dylid ceisio gwneud y tomenni yn fwy diogel, felly does dim rhaid i ni ddibynnu ar systemau rhybuddio i ddweud wrthym am wagio ein tai."
Roedd yn rhaid i Mr Thomas ofyn i'r cyngor lleol am wybodaeth ac ymweld ag archif i ddarllen adroddiadau am y tomen ger ei dŷ.
Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi'r nifer o domenni ym mhob sir, ond hyd yma does dim manylion pellach am eu lleoliadau.
'Hawl i wybod'
Dywedodd yr Aelod o'r Senedd Heledd Fychan, o Blaid Cymru: "Dwi'n meddwl bod hawl gan drigolion i wybod hyn.
"Wedi'r cyfan, nhw sy'n byw yng nghysgod y tomenni hyn a nhw sy'n mynd i weld os oes 'na unrhyw symudiad ac ati.
"Dwi'n meddwl mae'n bwysig iawn bod yn gyfan gwbl dryloyw."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf bod tomenni risg uchel yn cael eu harchwilio yn rheolaidd, gan gynnwys rhai ar dir preifat.
Dywedodd hefyd nad oedd rhoi tomen mewn categori risg D neu C yn golygu bod 'na fygythiad dybryd.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod rhaglen ar y gweill a fydd yn edrych ar sut y gallai technoleg helpu i fonitro tomenni, gan gynnwys rhybuddion posib.
"Rhan allweddol o'r rhaglen yw gwella dealltwriaeth o ddangosyddion cyflwr a sbarduno digwyddiadau.
"Mae'r asesiad o gynghorion glo yn cynnwys adolygiad o dderbynyddion posib pe bai perygl yn cael ei wireddu.
"Rydym yn archwilio modelu effaith peryglon mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol.
"Bydd defnyddio technoleg i fonitro tomenni glo yn ategu'r drefn reoli newydd rydym wedi ymrwymo i'w chyflwyno mewn deddfwriaeth sylfaenol yn ystod tymor y Senedd hon."
Ychwanegodd eu bod yn gobeithio cyhoeddi data am leoliadau tomenni glo yn hanner cyntaf 2022, ond bod angen mwy o waith ar "gywirdeb" a "materion diogelu data" cyn hynny.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2021
- Cyhoeddwyd28 Medi 2021
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2020