Cyhuddo'r llywodraeth o 'esgeuluso' cymunedau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae undeb amaethwyr wedi cyhuddo'r llywodraeth o "esgeuluso cymunedau gwledig" wrth dorri cyllidebau.
Dywedodd Hefin Jones o NFU Cymru bod diffyg cefnogaeth i gefn gwlad wedi bod yn "nodwedd mor barhaol" o lywodraethau yng Nghymru dros flynyddoedd diweddar.
Daw ei sylwadau yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am doriadau i gyllidebau i wneud arbedion o £600m.
Mae'r llywodraeth wedi dweud eu bod wedi ymrwymo i gefnogi cymunedau gwledig er yr heriau sy'n eu hwynebu.
Ddydd Mawrth, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru arbedion ymhob maes oni bai am y gwasanaeth iechyd a threnau.
Dywedodd y prif weinidog Mark Drakeford bod ei lywodraeth yn wynebu argyfwng ariannol, ac wedi gorfod torri er mwyn llenwi bwlch ariannol cyn mis Ebrill.
Yn ôl y llywodraeth, bydd toriad o dros £37m i gyllidebau materion gwledig - lleihad o £17.2m yn yr arian refeniw, ac £20m yn llai o arian cyfalaf.
Ond gydag 80% o dir Cymru yn dir amaethyddol, mae cwtogi'r gyllideb amaeth yn bryder, meddai NFU Cymru.
Mae'r undeb yn honni bod y gefnogaeth ariannol i gymunedau gwledig wedi lleihau tua 30% yn y ddegawd ddiwethaf, wrth ystyried chwyddiant.
"Mae'r effaith yn mynd i fod yn niweidiol iawn, a hyn mewn gwirionedd yn benllanw, os mynnwch chi, ar esgeuluso cymunedau gwledig", meddai Hefin Jones, Is-gadeirydd NFU Cymru yn Sir Gâr.
Ychwanegodd bod hynny "wedi bod yn nodwedd mor barhaol o weinyddiaeth llywodraethau Cymru dros y blynyddoedd diwetha".
Dywedodd Mr Jones ei bod hi'n briodol i undebau godi cwestiynau am flaenoriaethau'r llywodraeth.
"Fi'n credu bod hi'n gwbl deg i ni ofyn cwestiynau am wariant ar rai prosiectau sy' falle'n ddadleuol - cwestiynau ynghylch y gwerth mae'r prosiectau hynny'n eu cynnig.
"Ac yn sicr mi fyddwn ni fel undeb yn cefnogi'r alwad am adolygiad annibynnol o'r ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli cyllidebau."
'Cefnogi ffermwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er gwaethaf yr heriau sy'n ein hwynebu rydym wedi ymrwymo o hyd i gefnogi ein ffermwyr a'n cymunedau gwledig i sicrhau dyfodol cynaliadwy."
Ychwanegodd bod £238m wedi ei dalu i ffermwyr Taliadau Sylfaenol yn 2023, ac na fyddai'r toriadau a gyhoeddwyd yn effeithio ar £20m i "gefnogi cydymffurfiaeth â rheoliadau 2021".
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r undebau ffermio ac eraill i sicrhau bod ein ffermwyr yn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy wrth ddelio â'r argyfyngau hinsawdd a natur."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd4 Hydref 2023