Eisteddfod Ffermwyr Ifanc ym Môn: Prisiau wedi 'dyblu ers 2013'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Mae Gwen Edwards yn dweud bod prisiau wedi 'dyblu' ers i'r Eisteddfod fod ym Môn ddegawd yn ôl

Am y tro cyntaf ers degawd, Ynys Môn fydd yn cynnal Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru ddydd Sadwrn.

Ond nid ar chwarae bach mae cynnal digwyddiad o'r math yma.

Gyda chostau cynyddol yn dal i gael effaith ar gymunedau ar draws Cymru, mae wedi bod yn her ychwanegol i'r gwirfoddolwyr eleni.

Ers dros flwyddyn, mae aelodau o ffederasiwn Ynys Môn wedi bod yn gweithio'n ddiflino i drefnu'r digwyddiad, fydd yn cael ei gynnal ar faes Sioe Môn ym Mona.

'Cynnig gwledd ar yr ynys'

Dywedodd cadeirydd pwyllgor yr eisteddfod ym Môn, Gwen Edwards: "Mi ydan ni i gyd yn edrych ymlaen gymaint, a dwi'n meddwl bod o'n arbennig ein bod ni'n gallu cynnig gwledd ar yr ynys i bawb gael gweld.

"Mae'r pafiliwn yn hollol wag, felly mi ydan ni wedi bod angen lot o bethau i wneud yr Eisteddfod yma yn llwyddiannus.

"I gymharu â phan oedd yr Eisteddfod yma 10 mlynedd yn ôl, mae prisiau wedi dyblu."

Disgrifiad o’r llun,

Gwen Edwards ydy cadeirydd yr Eisteddfod ym Môn eleni

Ychwanegodd: "Ond mi ydan ni'n ddiolchgar dros ben i'r noddwyr, i CFFI Cymru ac i'r pwyllgor am ein helpu ni."

'Yr eisin ar y gacen'

Ellena Thomas-Jones ydy llywydd sirol Ynys Môn eleni, ac mae hi hefyd yn edrych ymlaen at yr Eisteddfod.

Dywedodd: "Mae 'na gryn edrych ymlaen wedi bod, mae'r aelodau wedi bod yn gweithio'n ddygn ofnadwy ac wedi bod yn gwneud y gwaith ymchwil fel dewis testunau.

"Mae pawb wedi gweithio mor galed.

Disgrifiad o’r llun,

Ellena Thomas-Jones ydy llywydd clybiau ffermwyr ifanc Môn

"Mae o fel yr eisin ar y gacen bod yr Eisteddfod yn dod i Sir Fôn eleni, a 'da ni isio gwneud yn siŵr ein bod ni'n rhoi ein marc ar bethau, a'n bod ni'n rhoi croeso cynnes i bawb ar draws Cymru."

Ychwanegodd: "Mae'n unigryw mewn ffordd, 'da ni'm yn cael eisteddfod fel hyn, fel arfer mae mewn ysgol... Mae [y pafiliwn] yn ganfas wag, ac mae'n rhaid i ni ei lenwi."

Cyn y diwrnod mawr ddydd Sadwrn, mae aelodau'r mudiad wrthi'n brysur yn paratoi at y cystadlaethau amrywiol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Noa o glwb Bodedern yn cystadlu yng nghystadleuaeth y meim eleni

Mae Noa yn aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Bodedern, ac mae'r clwb yn cynrychioli'r sir yng nghystadleuaeth y meim eleni.

Dywedodd Noa: "Mi fyddwn ni'n meimio i gerddoriaeth 'fory - fi a merch arall ydy'r main parts yn hwnna. Dwi'n edrych ymlaen."

Wrth sôn am yr wythnosau o ymarferion, dywedodd eu bod wedi bod yn ymarfer sawl gwaith yr wythnos.

"Rhyw ddwy neu dair gwaith yr wythnos ers i ni ennill yn yr eisteddfod sir," ychwanegodd.

"Mae wedi bod yn waith caled, ond dwi'n meddwl y gwnawn ni'n reit dda 'fory."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ynyr yn aelod o glwb Bodedern

Un arall sydd wedi hen arfer troedio llwyfan Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc ydy Ynyr Williams, sy'n aelod ers 14 mlynedd.

Fe ymunodd â'r mudiad yn 2009, ond fe bwysleisiodd ei fod yn dal i gael cyfleodd drwy'r Ffermwyr Ifanc hyd heddiw.

"Dwi'n dal i gael profiadau newydd, sy'n beth da," meddai.

"Mi ydan ni'n sir fach - dim ond chwech o glybiau - ond efo lot o leisiau. Mi fydd Cymru gyfan yn gweld yr holl dalent sydd yma ym Môn."

Wrth roi cyngor i unrhyw un sy'n cystadlu am y tro cyntaf eleni, dywedodd Ynyr: "Joiwch o, mae o'n brofiad enfawr, a chymrwch bob cyfle efo'r mudiad... go for it!"

Pynciau cysylltiedig