Adroddiad yn galw am gefnogaeth i Wylfa gan Lywodraeth y DU

  • Cyhoeddwyd
WylfaFfynhonnell y llun, Christopher Furlong
Disgrifiad o’r llun,

Mae atomfa'r Wylfa'n cael ei datgomisiynu ar ôl stopio cynhyrchu ynni yn 2015

Mae Llywodraeth y DU wedi cael eu hannog i gefnogi Wylfa ar Ynys Môn fel y safle ar gyfer atomfa newydd y flwyddyn nesaf fan bellaf, er mwyn cyrraedd targedau ynni.

Mae'r adroddiad, gan ASau ac Arglwyddi, yn dweud y dylai trafodaethau ddechrau'n fuan ar y math o dechnoleg niwclear ar gyfer y safle.

Mae gweinidogion eisiau i 24 gigawat o drydan y DU - 25% o'r galw sy'n cael ei ragweld - ddod o ynni niwclear erbyn 2050.

Ym mis Medi fe wnaeth y Prif Weinidog, Rishi Sunak roi ei awgrym cryfaf eto y bydd Wylfa yn cael ei enwi fel un o'r safleoedd sy'n cael ei ffafrio ar gyfer atomfa newydd.

Galwodd Wylfa yn "safle gwych", a allai ddarparu ar gyfer adweithyddion modiwlaidd bach a ffatri fwy.

Dywedodd Mr Sunak y byddai'r safleoedd sy'n cael eu ffafrio yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni a bod "Wylfa yn rhywle allai wneud y ddau".

'Y gymuned yn awyddus'

Cafodd adroddiad y Grŵp Seneddol Holl-bleidiol ar Ynni Niwclear, sy'n dwyn y teitl "Made in Britain: The Pathway to a Nuclear Renaissance", ei gyhoeddi ddydd Gwener.

Mae'n dweud y bydd gorsaf ynni niwclear ar raddfa fawr ar Ynys Môn yn hollbwysig i ddarparu'r 15 gigawat o drydan sydd ei angen unwaith y bydd Hinkley Point C yng Ngwlad yr Haf, Sizewell C yn Suffolk a'r Adweithyddion Modiwlar Bach cyntaf ar-lein.

Ffynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Tynnodd Hitachi yn ôl o gynllun Wylfa Newydd yn 2019

Dywedodd AS Ceidwadol Ynys Môn Virginia Crosbie, sydd hefyd yn is-gadeirydd ac ysgrifennydd ar y grŵp seneddol, fod gan Wylfa "gymuned sy'n awyddus i weld niwclear yn dychwelyd i'r ynys, a'r holl fuddion a ddaw gyda hynny am sawl blwyddyn i ddod".

"Ond mae angen i ni fwrw 'mlaen gydag adeiladu gorsafoedd niwclear ar fyrder - nid yn unig er lles y blaned a'n diogelwch ynni, ond hefyd i gymunedau fel y rheiny ar Ynys Môn fydd yn cael budd mawr o brosiectau newydd," meddai.

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts, hefyd yn is-gadeirydd ar y grŵp.

Dywedodd hi fod gwneud "y defnydd gorau o'r ddau safle niwclear trwyddedig yng Nghymru - Wylfa a Thrawsfynydd - yn allweddol os ydyn ni am fynd i'r afael â'r angen brys i gynyddu cyfraniad pŵer niwclear".

Dywedodd fod "Wylfa yn ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu ar raddfa fawr", tra bod Trawsfynydd yn "safle perffaith" ar gyfer adweithydd llai.

'Un o sawl safle posib'

Dywedodd llefarydd ar ran Adran Ddiogelwch Ynni a Sero Net Llywodraeth y DU: "Rydym yn croesawu'r adroddiad hwn ac yn rhannu eu huchelgeisiau ar gyfer ynni niwclear yn y DU.

"Bydd Great British Nuclear yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais i ddarparu hyd at chwarter o drydan y DU o ynni niwclear cartref erbyn 2050, gan roi hwb i'n sicrwydd ynni, lleihau dibyniaeth ar fewnforion tanwydd ffosil anwadal a chynhyrchu tua £6bn i economi'r DU.

"Mae Wylfa yn ymgeisydd ar gyfer niwclear newydd, ac yn un o sawl safle posib a allai gynnal prosiectau niwclear sifil.

"Byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar ffordd ymlaen arfaethedig ar gyfer penderfynu sut y gellir lleoli datblygiadau niwclear newydd, gan gynnwys y potensial ar gyfer Adweithyddion Modiwlar Bach a thechnolegau niwclear datblygedig eraill."

Pynciau cysylltiedig