'Diffyg ymrwymiad' Llywodraeth y DU i ddyfodol safle Wylfa
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth y DU wedi'i chyhuddo o "ddiffyg ymrwymiad pendant" i ynni niwclear ar Ynys Môn.
Er yn canmol rhai "arwyddion polisi cadarnhaol" mae Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn dweud eu bod yn "pryderu bod disgwyliadau yn cael eu codi eto".
Mae'r adroddiad gan y pwyllgor trawsbleidiol yn dweud bod methiant cynllun blaenorol Hitachi i ail-ddatblygu Wylfa wedi gadael "creithiau" ar y gymuned leol.
Mae'r adroddiad hefyd yn cwestiynu "pa mor hir all yr ansicrwydd" dros ddatblygiad niwclear newydd yn Wylfa barhau.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU fod niwclear yn "rhan allweddol o'n sicrwydd ynni a'n cynllun i sicrhau biliau ynni is".
Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Aelod Ceidwadol Preseli Penfro Stephen Crabb, byddai "prosiect ynni niwclear graddfa gigawat yn Wylfa yn newid byd i economi'r gogledd".
Byddai buddsoddiad o'r fath, meddai, yn "creu swyddi hyfedr sy'n cynnig cyflogau da, a byddem gam yn nes at annibyniaeth ynni".
"Rwy'n annog gweinidogion i roi'r golau gwyrdd unwaith ac am byth i brosiect ynni niwclear yn Wylfa."
Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ddarparu 24 gigawat o drydan drwy ffynonellau niwclear erbyn 2050 - rhyw chwarter y galw disgwyliedig am ynni ym Mhrydain.
Ond mae'r adroddiad yn dweud bod angen eglurder ynglŷn â sut mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflawni hynny.
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud bod heriau o ran cost datblygu gorsaf niwclear fawr yn Wylfa a phrinder sgiliau i gyflawni'r gwaith.
Mae'n nodi her arall ynghylch y ffaith mai cwmni Hitachi - a dynnodd yn ôl o ddatblygu'r safle yn 2020 ar ôl methu a chytuno ar gynllun ariannu gyda Llywodraeth y DU - sydd yn berchen ar y safle o hyd.
"Er gwaethaf y newidiadau polisi cadarnhaol a'r rhethreg gryfach gan weinidogion ynghylch niwclear, mae gorsaf ynni niwclear newydd yn Wylfa yn dal i fod ymhell o fod yn sicr," dywed yr adroddiad.
"Mae rhwystrau pwysig yn parhau ynghylch yr elfen ariannu o hyd sy'n cyfyngu ar fuddsoddiad yn y sector preifat, ac mae mater perchnogaeth tir hefyd yn atal datblygwr newydd rhag dod i mewn.
"Rhaid i ni weld camau pendant ar fynd i'r afael â'r materion hyn cyn yr etholiad cyffredinol nesaf; fel arall, bydd yr ansicrwydd am y prosiect yn cynyddu."
Mae Aelodau Seneddol y Pwyllgor wedi bod yn clywed tystiolaeth am ddyfodol niwclear yng Nghymru ers mis Mai y llynedd, ac yn dweud bod "consensws cyffredinol rhwng Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig, a mwyafrif ein tystion, o blaid cynhyrchu ynni niwclear newydd."
Ond fe wnaeth y Pwyllgor hefyd glywed gan wrthwynebwyr ynni niwclear, gan gynnwys grŵp PAWB o Ynys Mon sydd yn erbyn Wylfa B, Greenpeace a Grŵp Ynni Claverton.
Maen nhw'n galw am ddatblygu system ynni sy'n gyfan gwbl ddibynnol ar ynni adnewyddol, heb fod angen am ynni niwclear - gan ddweud y byddai hynny yn rhatach i'r pwrs cyhoeddus, ac mai dewis gwleidyddol oedd cynnwys niwclear yn y strategaeth sero-net a diogelwch ynni.
Ond yn ôl y pwyllgor, dydy'r dechnoleg storio ynni fyddai ei angen ar gyfer dibynnu'n llwyr ar drydan o ffynonellau adnewyddadwy ddim yn eu lle eto.
Dywedon eu bod o'r farn, felly, "bod gan ynni niwclear rôl gref i'w chwarae, fel rhan o gymysgedd o ffynonellau carbon isel, wrth gyflawni sero-net a diogelwch ynni".
Trawsfynydd
Er bod yr adroddiad yn canolbwyntio ar fanteision gorsaf niwclear gigawat mawr ar safle Wylfa, mae'r adroddiad hefyd yn argymell bwrw ymlaen gyda chynlluniau ar gyfer adweithyddion modwlar bach ar safle Trawsfynydd.
"Clywsom am y cyfleoedd y gallai adweithyddion modwlar bach a chanolig yn Nhrawsfynydd hefyd eu cynnig i ardal y gogledd, yn arbennig gan Gwmni Egino, cwmni datblygu niwclear Llywodraeth Cymru ar gyfer Trawsfynydd.
"Fodd bynnag, os yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig o ddifrif am ynni niwclear newydd mae angen iddyn nhw ddatblygu adweithyddion newydd ar raddfa gigawat ochr yn ochr ag adweithyddion modwlar llai."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Mae niwclear yn rhan allweddol o'n sicrwydd ynni a'n cynllun i sicrhau biliau ynni is.
"Bydd y cynllun Great British Nuclear a lansiwyd yn ddiweddar, ynghyd â chefnogaeth ehangach y llywodraeth, yn sicrhau'r uchelgeisiau yma gan gynnwys sut rydym yn edrych i sicrhau mynediad i safleoedd niwclear newydd gyda'r Wylfa yn gystadleuydd gan ystyried y gefnogaeth gref sydd iddo o fewn y gymuned leol."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd13 Mai 2022