Lleidr yn 'ceisio dychryn' perchennog fan i symud o'r neilltu

  • Cyhoeddwyd
Mark LangFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Lang yn yr ysbyty 18 diwrnod ar ôl caei ei daro gan ei fan ei hun a'i lusgo am ryw hanner milltir

Roedd lleidr wnaeth ddwyn fan a lladd ei pherchennog wedi gwneud hynny yn dilyn penderfyniad "byrfyfyr, oportiwnistaidd", clywodd llys.

Mae Christopher El Gifari, 31, yn gwadu lladrad (robbery) a llofruddiaeth Mark Lang yng Nghaerdydd, ond mae'n cyfaddef dwyn (theft) a dynladdiad.

Bu farw Mark Lang, 54, yn yr ysbyty ar 15 Ebrill, 18 diwrnod ar ôl cael ei daro gan y fan a'i lusgo am ryw hanner milltir ar hyd Ffordd y Gogledd, un o ffyrdd prysuraf Caerdydd.

Dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd, Mark Graffius KC, fod y rheithgor yn Llys y Goron Caerdydd eisoes wedi gweld tystiolaeth fod Mr El Gifari yn brin o arian, ac mai dyna'r cefndir i'r hyn ddigwyddodd.

Nid oedd tystiolaeth fod Mr El Gifari wedi bwriadu lladd neu achosi niwed difrifol i Mark Lang, meddai.

Yn hytrach, gweithred "byrfyfyr, oportiwnistaidd, heb ei chynllunio" oedd dwyn y fan, meddai.

"Pam wnaeth o yrru at Mr Lang ar gyflymder cyfartalog o 18 milltir yr awr?" gofynnodd Mr Graffius.

"Yr ateb i pam na yrrodd ar gyflymder uchel at Mr Lang yw ei fod yn derbyn, yn ôl ei ble i ddynladdiad, iddo yrru tuag ato er mwyn ei ddychryn.

"Trwy beidio gyrru ar gyflymder, ond trwy yrru ar lai nag 20 mya, onid yw hynny'n dangos diffyg bwriad i ladd neu achosi niwed difrifol?"

Dywedodd wrth y rheithgor fod Mr El Gifari wedi tynnu ei droed oddi ar y sbardun a dechrau brecio.

"Mae hynny'n dangos fod y fan nawr yn arafu, ac yn dangos ymwybyddiaeth o gyflymder, a dymuniad i gymedroli ei gyflymder."

Roedd hyn yn gyson gyda'r "bwriad i ddychryn Mr Lang i fynd o'r ffordd", meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Lang ei daro ar Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o ganol y brifddinas

Mewn datganiad i'r heddlu ar ôl ei arestio, dywedodd Mr El Gifari ei fod yn meddwl y byddai Mr Lang wedi symud o'r ffordd "felly mi es yn fy mlaen i yrru o'i gwmpas".

Nid oedd tystiolaeth fod y diffynnydd wedi cyflymu, meddai Mr Graffius.

"Os ydych chi isio bwrw rhywun i lawr neu ei ladd, neu achosi niwed gwirioneddol, rydych yn cynyddu eich cyflymder a gyrru drwy'r targed.

"Nid yw hynny'n digwydd yma, nid oes tystiolaeth o gyflymu, i'r gwrthwyneb, yma cawn ostyngiad mewn cyflymder o 18 mya i 17 mya.

"Ac onid yw hynny'n rhoi mwy o rym i'r hyn ddywedodd Mr El Gifari wrth yr heddlu, pan ddywedodd 'nid oeddwn yn bwriadu ei fwrw'?"

Ychwanegodd nad oedd tystiolaeth feddygol fod Mr Lang wedi dioddef unrhyw anaf difrifol pan gafodd ei daro gan y fan.

"Ni fedrwch fod yn sicr fod Mr El Gifari wedi bwriadu lladd neu achosi niwed difrifol i Mr Lang ar Rhodfa Laytonia."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Christopher El Gifari wedi pledio'n euog i ddynladdiad yn Llys y Goron Caerdydd

Yn ei araith olaf i'r rheithgor dywedodd yr erlynydd, David Elias KC, fod y diffynnydd wedi gyrru "drwy, tuag at, a dros Mr Lang".

Roedd archwilwyr damweiniau wedi datgan fod Mr El Gifari wedi cyffwrdd brêcs y fan "am eiliad" ond daliodd ati i yrru at Mr Lang.

Nid oedd yn brecio pan yrrodd dros Mr Lang, ac nid oedd y fan wedi arafu fawr ddim pan darodd i mewn iddo."

Er bod lle i droi o'r neilltu, nid oedd y fan wedi gwneud hynny, meddai.

Dangoswyd lluniau CCTV o'r digwyddiad i'r rheithgor eto, ac roedd sŵn crio i'w glywed o'r galeri lle mae teulu Mr Lang wedi bod yn dilyn yr achos bob dydd.

"Mae'n rhaid ei fod wedi bwriadu achosi niwed difrifol o leiaf, drwy yrru fan dwy dunnell yn syth at a thros y dioddefwr.

Roedd y diffynnydd yn derbyn ei fod wedi gwneud penderfyniad bwriadol i yrru tuag at Mr Lang, a "chelwydd" oedd honni ei fod wedi ceisio troi o'r neilltu.

"Roedd yn dweud celwydd [yn ei ddatganiad i'r heddlu] ac wedi ymateb gyda 'dim sylw' yn ei gyfweliad iddyn nhw, am nad oedd isio i'r hanesyn hwnnw gael ei roi ar brawf," meddai.

Nid yw Mr El Gifari wedi rhoi tystiolaeth ger bron y llys.

Mae'r barnwr, Mr Justice Griffiths yn crynhoi'r achos i'r rheithgor, ac mae'r achos yn parhau.

Pynciau cysylltiedig