Cwest Mark Lang: Gyrrwr wedi marw ar ôl cael ei lusgo o dan ei fan

  • Cyhoeddwyd
Mark LangFfynhonnell y llun, Llun Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Mark Lang yn yr ysbyty, bythefnos ar ôl y gwrthdrawiad

Clywodd cwest fod dyn wedi marw o anafiadau i'w ymennydd ac ataliad trawmatig ar y galon ar ôl iddo gael ei lusgo o dan ei fan cludo parseli.

Bu farw Mark Lang, 54 o ardal Cyncoed yng Nghaerdydd, ar 15 Ebrill, ar ôl bod yn yr ysbyty am bythefnos.

Cafodd y cwest ym Mhontypridd fore Mercher ei agor a'i ohirio, fel sy'n arferol tra bod ymchwiliad yr heddlu'n parhau.

Clywodd y crwner fod archwiliad post mortem wedi dod i gasgliad rhagarweiniol am achos ei farwolaeth.

Yn ogystal ag ataliad i'r galon a niwed i'r ymennydd, roedd Mr Lang hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol i'w gorff.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Mark Lang ei daro ar Ffordd y Gogledd - un o'r prif ffyrdd i mewn ac allan o ganol y ddinas

Dywedodd y Tywysydd (Usher) Catherine Burnell wrth Lys y Crwner i'r gwasanaethau brys dderbyn galwad 999 am wrthdrawiad ar Heol y Gogledd Caerdydd a bod y cerbyd heb stopio.

"Cafodd dyn ei lusgo o dan fan. Aed â Mark Lang i'r ysbyty i gael triniaeth brys. Er gwaetha gofal meddygol bu farw Mark Lang ar 15 Ebrill am 05:46."

Dywedodd y crwner Patricia Morgan ei bod yn credu ar ôl clywed y dystiolaeth fod y farwolaeth yn debygol o fod wedi bod yn un "ffyrnig o ran natur, ac yn debygol o fod angen ymchwiliad ychwanegol i'r amgylchiadau".

Cafodd y cwest ei ohirio am chwe mis i alluogi'r heddlu i barhau â'u hymchwiliadau ac er mwyn i unrhyw achos troseddol gael ei gwblhau.

Dywedodd Ms Morgan: "Rwyf am gymryd y cyfle yma i gydymdeimlo gyda theulu Mr Lang yn yr amser anodd yma."

Mae Christopher Elgifari, dyn 31 oed o Aberdâr, wedi ei gyhuddo o geisio llofruddio.

Pynciau cysylltiedig