Heddlu'n apelio am luniau dashcam wedi gwrthdrawiad Garreg
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaethau pedwar dyn ifanc mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd yn apelio ar unrhyw un sydd â lluniau dashcam allai fod o ddefnydd, i gysylltu â nhw.
Cafwyd hyd i gyrff Jevon Hirst, 16, Harvey Owen, 17, Wilf Fitchett, 17, a Hugo Morris, 18, ger pentref Garreg fore Mawrth.
Cadarnhaodd Heddlu'r Gogledd bod y car Ford Fiesta arian roedd y bechgyn yn teithio ynddo wedi ei ddarganfod "ben i lawr", ac "yn rhannol dan ddŵr".
Mae'r llu yn awyddus i dderbyn lluniau gan yrwyr oedd yn teithio ar hyd yr A4085 rhwng Penrhyndeudraeth a Beddgelert rhwng 11:00 ar 19 Tachwedd a 10:00 21 Tachwedd.
Fe gadarnhaodd swyddogion bod teuluoedd rhai o'r dynion ifanc wedi ymweld â safle'r gwrthdrawiad ddydd Iau.
Cafodd gwylnos arall ei chynnal ym mhentref Llanfrothen nos Iau.
Y gred yw bod y criw wedi teithio o Sir Amwythig i Harlech ddydd Sadwrn gyda chynlluniau i wersylla yn Eryri.
Doedd neb wedi gweld na chlywed gan y pedwar ers bore Sul, a sbardunodd hynny ymdrech chwilio fawr yn y gogledd orllewin.
Ond fore Mawrth, ar ôl derbyn gwybodaeth gan aelod o'r cyhoedd, cafodd y car ei ddarganfod ger ffordd yr A4085.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Simon Barrasford bod ymchwiliad "llawn a manwl" ar waith er mwyn darganfod achos y gwrthdrawiad.
"Mae rhan o'r ymchwiliad hwnnw yn cynnwys edrych ar luniau teledu cylch cyfyng a hoffem ddiolch i bawb sydd eisoes wedi cysylltu â ni.
"Mae rhan o'r ymchwiliad hefyd yn cynnwys ymchwiliad fforensig llawn ar y car ac mae'r gwaith yma'n parhau gyda'r Uned Ymchwilio Fforensig Gwrthdrawiadau.
"Hoffem hefyd ddatgan ein diolch i'r gymuned yng Ngharreg am eu amynedd a dealltwriaeth parhaol."
Mae swyddogion yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau camera cerbyd a all gynorthwyo'r ymchwiliad i gysylltu â'r Uned Troseddau'r Ffyrdd drwy'r wefan gan nodi'r rhif cyfeirnod 23001169854.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2023