Diswyddo gwerthwr tai wedi ymchwiliad ymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae asiantaeth dai wedi diswyddo'r gwerthwr tai Ian Wyn-Jones yn dilyn ymchwiliad i'w ymddygiad.
Fe gafodd Mr Jones ei wahardd dros dro o'r asiantaeth fis Medi yn dilyn honiadau a wnaed mewn ymchwiliad ei fod wedi camarwain cwsmeriaid.
Mewn datganiad dywedodd cwmni eXp UK eu bod wedi diswyddo Mr Wyn-Jones yn sgil tystiolaeth yn yr ymchwiliad oedd yn dangos nad oedd yn cyrraedd safonau ymddygiad priodol.
Mae Mr Wyn-Jones wedi cael cais am ei ymateb, ond yn y gorffennol mae wedi dweud nad yw'n derbyn yr honiadau.
Dywedodd y cwmni bod Ian Wyn-Jones wedi ymuno â'r asiantaeth ym mis Medi 2021.
Roedd honiadau ar raglen Y Byd ar Bedwar yn dweud iddo greu cynigion ac ymweliadau ffug wrth werthu tai, a'i fod heb basio ymlaen cynigion i brynu.
Fe gafodd yr ymchwiliad ffurfiol ei gwblhau gan uwch aelodau o dîm eXp Global yn yr Unol Daleithiau.
Mewn datganiad, dywedodd eXp UK: "O dan yr amgylchiadau, mae Ian Wyn-Jones wedi ei ddiswyddo fel partner i eXp ar unwaith.
"Daw hyn yn sgil tystiolaeth i'w fethiant i gynnal safonau disgwyliedig y cwmni i'w cwsmeriaid."
Mae Mr Wyn-Jones wedi cael cais am ei ymateb i'r datblygiad.
Yn y gorffennol, gwadodd yr honiadau yn ei erbyn gan ddweud nad oedd yn eu derbyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023