Meddygfa yn poeni am y gaeaf wrth wynebu heriau 'aruthrol'
- Cyhoeddwyd
Dydi'r gwasanaeth iechyd ddim yn gynaliadwy fel ag y mae ar hyn o bryd, yn ôl meddyg teulu blaenllaw o'r gogledd.
Gydag amseroedd aros unedau brys ar eu hiraf eleni a'r pwysau ar y gwasanaeth ambiwlans yn aruthrol, mae 'na boeni fod meddygon teulu yn wynebu mwy o bwysau.
Mae'r gwaith o gynnig a rhoi brechiadau ffliw a Covid eisoes yn mynd rhagddo ond mae rhybuddion y gallai'r gaeaf i ddod fod y mwyaf heriol eto.
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw wedi buddsoddi i leihau'r galw ar feddygon teulu, gan gynnwys sefydlu Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys a gwasanaeth ffôn ar gyfer materion iechyd meddwl.
'Mae'n waeth nag erioed'
Am 07:30, mae meddygfa Waunfawr ger Caernarfon yn brysur gyda meddygon, fferyllwyr, nyrsys a chymorthyddion iechyd.
Am 08:00 daw'r ffonau yn fyw wrth i drigolion geisio gwneud apwyntiad i weld meddyg.
Yn ôl Monique Williams, sy'n ateb y ffonau, mae'r bore wastad yn her.
"Mae hi fel 'ma bob dydd, bob dydd yr un fath - fydd [yr apwyntiadau] 'di rhedeg allan mewn rhyw awr mashwr," meddai.
"Wedyn 'da ni gorfod defnyddio UPC, Urgent Primary Care, pan 'da ni'n llawn maen nhw'n helpu efo appointments, ond nid pawb sy'n licio hynny."
Drws nesaf i Monique yn y swyddfa mae Tegwen Hughes, rheolwraig y feddygfa.
Mae hi wedi bod ar y ffôn ers rhyw 10 munud yn ceisio canfod bwlch i glaf sydd angen gweld meddyg.
"Mae'n anodd ffitio pawb mewn ac i blesio pawb," meddai.
"Oherwydd bod gynnon ni syrjeri yn Llanrug hefyd, mae well gan rai i fynd yno ond mae'n anodd ffitio pawb mewn. Pan ma' staff off hefyd mae'n anodd."
Ganol sgwrs mae'n gorfod gadael wrth i'r ffonau barhau i ganu, ac unwaith eto mae'n ateb gan ddechrau ar y gwaith o geisio canfod bwlch i ragor o gleifion.
Eisoes yn brysur yng nghefn y feddygfa mae Gwyneth Thomas y fferyllydd, sydd wrthi'n paratoi presgripsiynau, ag hithau wedi bod yn gweithio yn y feddygfa ers 37 o flynyddoedd.
"Mae'r gofynion sydd ar GP practice yn aruthrol," meddai.
"'Di o'm yn fater o ddod mewn am 08:00 a gorffen am 17:00 - 'da chi yma o 08:00 tan 21:00 neu 22:00 ar rhai o'r meddygon."
"O'r ysbyty maen nhw'n disgwyl i GPs wneud lot mwy dyddie 'ma a dwi'm yn gwybod be sydd am allu newid - mae jyst angen mwy o glinigon."
Am 09:00, mae'r claf cyntaf yn cyrraedd y feddygfa. I Dr Esyllt Llwyd a'r staff, hen gydweithwraig sy'n dod am gymorth.
Mae Megan wedi dod am ei phigiad B12 ac am gyngor ar sut i roi'r gorau i ysmygu.
Mae cymryd cyfrifoldeb am iechyd personol yn neges gyson gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, ac mae Dr Llwyd yn cytuno.
"Be sy'n anodd ydy bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd cymryd cyfrifoldeb a ddim yn gwybod lle i gychwyn.
"Ond gwaith ni ydy steario nhw drwy'r system."
Un sy'n gwylio Dr Llwyd yn graff ydy Gwen Heledd Owen sydd ar leoliad o'i chwrs meddygaeth ac, er ei bod hi ar ddechrau ei gyrfa, mae'n sylwi ar y pwysau sydd eisoes ar y system.
"Mae 'na gymaint o alw a chyn lleied o adnoddau ar gael," meddai.
"Mae'r gwasanaeth yn wych a phawb yma yn wych ond does jyst dim digon o adnoddau yn anffodus a gymaint o alw amdano."
Mae meddygfa Waunfawr wedi'i lleoli ar stryd fawr y pentref, mewn hen dŷ sydd wedi cael sawl estyniad.
Gyda chymaint o alw bellach, mae'r diffyg lle yn gwneud gwaith yn anodd a nifer o gleifion yn derbyn pigiadau neu dynnu gwaed ar gadair yn y gegin.
Mae cabannau dros dro hefyd wedi eu codi tu allan ond mae'r rhain yn creu amodau anodd ganol gaeaf i gleifion a meddygon.
Yn ôl Dr Esyllt Llwyd mae'n enghraifft o'r heriau enfawr sydd i'r gwasanaeth.
"Mae'n waeth na mae erioed wedi bod," meddai.
"Dwi 'di bod yma ers 21 mlynedd a dwi erioed 'di teimlo hwn. Dwi'n dod i mewn yn y bore erbyn 08:00 a dwi'n gwybod 'di'r diwrnod ddim ar ben am 13 awr.
"Fel mae hi ar y funud [dydi'r system] ddim yn gynaliadwy, dydi o ddim.
"Mae pawb yn firefightio a 'da ni'n 'neud hynny'n dda ac mae'r gofal yn arbennig ym mhob maes ond mae angen i'r system iechyd a gofal altro yn aruthrol."
Er gwaetha'r heriau, mae'r tîm yn Waunfawr yn credu'n gryf yn y gwaith pwysig maen nhw'n ei gyflawni.
Ond mae'n glir fod heriau sylweddol yn rhwystro'r feddygfa yma, fel sawl un arall allu, rhag darparu'r hyn maen nhw wir eisiau.
Recriwtio 175 o feddygon
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith y mae meddygon teulu - a'r holl staff gofal iechyd - yn ei wneud bob dydd.
"Mae nifer y meddygon teulu dan hyfforddiant wedi bod yn cynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf gyda 175 wedi'u recriwtio y llynedd yn unig.
"Cymerwyd camau hefyd i leihau'r galw ar feddygon teulu gan gynnwys buddsoddi mewn Canolfannau Gofal Sylfaenol Brys a gwasanaeth 111 Pwyso 2 ar gyfer Iechyd Meddwl.
"Bydd cyllid diweddar ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd yn cynyddu'r cymorth sydd ar gael i feddygon teulu trwy dimau adnoddau cymunedol ac rydym hefyd wedi cynyddu'r ystod o wasanaethau y gall fferyllwyr cymunedol eu darparu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2023