Annog pobl iau i gael eu brechu i leihau'r straen ar y GIG
- Cyhoeddwyd
Mae pobl iau sydd â risg uwch o gael eu heffeithio gan glefydau'r gaeaf yn cael eu hannog gan brif feddyg Llywodraeth Cymru i dderbyn brechiad Covid a ffliw.
Tra bod nifer y bobl dros 65 oed sydd wedi cael brechlyn wedi bod yn weddol gyson yr hydref hwn, mae yna bryder fod pobl iau sydd mewn "grwpiau risg clinigol" wedi bod yn araf yn dod ymlaen.
Yn ôl Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, derbyn brechiad yw'r ffordd orau i bobl ddiogelu eu hunain, yn ogystal â cheisio lleihau'r pwysau aruthrol fydd ar y gwasanaeth iechyd y gaeaf hwn.
Mae byrddau iechyd hefyd yn ceisio annog rhagor o'u staff a gweithwyr cymdeithasol i gael eu brechu.
Fe ddechreuodd rhaglen frechu'r gaeaf ar 11 Medi ac mae'n cynnig brechlynnau Covid-19 a ffliw am ddim i bobl dros 65 mlwydd oed a phobl sydd â chyflyrau iechyd penodol.
Mae staff y gwasanaeth iechyd a gofalwyr hefyd yn gymwys i dderbyn pigiad.
Hyd yma, mae 59.9% o bobl dros 65 oed wedi derbyn brechiad ffliw yr hydref hwn, o gymharu â 26.6% o bobl rhwng chwe mis a 64 mlwydd oed sydd â chyflyrau sy'n arwain at risg ychwanegol.
Yn y cyfamser mae ymchwil gan BBC Cymru yn awgrymu, o ran y pigiad atgyfnerthu Covid, fod 51% o bobl dros 65 oed wedi derbyn y pigiad o gymharu â 12% o bobl iau mewn grwpiau sydd â risg ychwanegol.
Mae'r grwpiau yma yn cynnwys pobl sydd â chyflyrau cronig yr ysgyfaint, y galon, yr arennau a'r afu yn ogystal â phobl sydd ag imiwnedd gwan.
Mae yna rywfaint o bryder hefyd fod cyfraddau brechu ymhlith staff iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wedi bod yn is na'r disgwyl er bod 81% o bobl sy'n byw mewn cartrefi gofal wedi derbyn brechiad erbyn hyn.
'Helpu i atal y GIG rhag cael ei lethu'
Dywedodd Dr Frank Atherton mai brechu yw'r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn y rhai sy'n agored iawn i niwed yn sgil firysau anadlol.
"Cael y brechlyn yw'r peth gorau y gall pawb ei wneud i amddiffyn eu hunain a helpu i atal ein gwasanaeth iechyd rhag cael ei lethu y gaeaf hwn," meddai.
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dod ymlaen hyd yma, ac annog y rhai sydd heb ddod ymlaen eto i gael eu hamddiffyn cyn y bydd tymor y ffliw ar ei anterth, sy'n aml yn cyd-fynd â'r pwysau mwyaf ar ein hysbytai a'r adeg y daw ein teuluoedd at ei gilydd ar gyfer tymor yr ŵyl."
Un pryder yw bod pobl ieuengach neu weithwyr iechyd yn cael hi'n anoddach na phobl hŷn i drefnu eu hapwyntiadau o amgylch eu gwaith.
Ma yna ofid hefyd fod rhai wedi syrffedu ar y neges frechu neu eu bod nhw'n pryderu llai am y risg i'w hiechyd nag oedden nhw adeg y pandemig.
Er mwyn ymateb i hyn mae bwrdd iechyd Hywel Dda, er enghraifft, yn cynnal clinigau dros dro mewn clybiau rygbi neu neuaddau cymunedol er mwyn ceisio gwneud hi mor rhwydd â phosib i bobl sy'n byw gerllaw i fynychu.
'Byth rhy hwyr i ddod aton ni'
"'R'yn ni'n trio cael y brechiadau mor agos i gymunedau a phosib," meddai Lynne Edwards sy'n uwch nyrs imiwneiddio ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda.
"Ni'n ffeindio fe'n rhwydd iawn i gael y bobl sy' dros 65 oed i ddod i mewn i gael brechiad covid neu ffliw.
"Y rhai ni'n stryglo gyda nhw yw unigolion rhwng chwe mis a 64 mlwydd oed sydd â risg clinigol - efallai bo' nhw ddim yn gwybod bo' nhw'n gallu cael brechlyn neu jest ddim yn poeni," meddai.
"Ond rheina sydd angen eu hannog oherwydd ma' 'na lawer mwy o risg o gymhlethdodau os ydyn nhw'n cael ffliw neu covid, a ma'r risg o orfod mynd mewn i ysbyty neu intensive care yn uwch."
Ychwanegodd: "Fi'n credu fod 'na rywfaint o apathi mas 'na - pobl sydd wedi cael digon o glywed am Covid a ffliw. Ond dyw e byth rhy hwyr i ddod aton ni."
Mae yna bryder hefyd mewn sawl ardal fod cyfraddau brechu staff iechyd a gofal cymdeithasol yn is na'r disgwyl.
A'r gofid yw os yw canran sylweddol o staff yn sâl adeg y gaeaf yna fe allai hynny waethygu'r straen ar y gwasanaeth iechyd - sydd eisoes yn sylweddol.
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn trefnu sesiynau brechu arbennig i staff a gofalwyr lle mae modd iddyn nhw fynychu heb apwyntiad.
'Covid yma i aros'
"Y prif grŵp 'da ni'n annog i dderbyn y cynnig yw staff," meddai Kailey Ben-Sassi, Prif Fferyllydd Imiwneiddio Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
"Dwi'n credu bod o'n bwysig iddyn nhw ddod 'mlaen... oherwydd dyna'r ffordd gorau iddyn nhw amddiffyn eu hunain ac amddiffyn y gwasanaeth iechyd - er mwyn gallu parhau i weithio dros gyfnod y gaeaf i drin y bobl sydd â'r angen mwyaf."
Ychwanegodd Ms Ben-Sassi: "Ma'r ffaith bod pobl yn gweithio ac yn gweithio oriau hir yn gallu bod yn rhwystr... ac mae pobl hefyd wedi cael llond bol o sôn am y pandemig.
"'Da ni wedi anghofio yn sydyn iawn beth oedd hi fel i fyw yn y pandemig a 'da ni'n hapus iawn i anghofio am Covid. Ond mae'n bwysig i ni gofio fod Covid, fel ffliw, yma i aros."
Yn y cyfamser mae meddygon sy'n gyfrifol am ofalu am y cleifion mwyaf sâl mewn ysbytai hefyd yn awyddus i atgoffa pobl sut y gall feirysau'r gaeaf achosi salwch difrifol hyd yn oed ymhlith pobl iau a heini.
"Ry'n ni wedi gweld sawl person ifanc gyda ffliw eithaf gwael yn ddiweddar," meddai Dr Ami Jones, Meddyg Ymgynghorol Gofal Dwys yn Ysbyty'r Faenor ger Cwmbrân.
"Rhai ohonyn nhw wedi bod angen gofal dwys a chael eu rhoi ar beiriannau anadlu.
"Mae nifer gymharol fach o gleifion sâl iawn yn gallu gwneud pethau'n anodd iawn iawn i'r gwasanaeth iechyd o ystyried fod y gwasanaeth eisoes dan straen enfawr.
"Felly po uchaf yw'r lefelau brechu yn unrhyw un o'r grwpiau... staff, pobl oedrannus, pobl sy'n agored i niwed yn glinigol... Dwi am weld y niferoedd hynny mor uchel ag y gallan nhw fod."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd19 Medi 2023