Y cyn-weinidog Llafur Glenys Kinnock wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Eluned Morgan: Cofio gwleidydd a ddysgodd "wersi rhagorol i mi"

Bu farw'r cyn-weinidog Llafur a'r cyn Aelod o Senedd Ewrop, Glenys Kinnock, yn 79 oed.

Roedd yn wraig i gyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, ac yn fam i Stephen Kinnock, AS Aberafan, a'u merch Rachel.

Cafodd Mrs Kinnock ei geni yn Sir Northampton a'i haddysgu yn Ysgol Uwchradd Caergybi ym Môn.

Yn 1965 fe raddiodd o Goleg Prifysgol Caerdydd wedi iddi astudio hanes ac addysg.

Ffynhonnell y llun, Mirrorpix/Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Glenys a Neil Kinnock wedi bod yn briod ers 56 o flynyddoedd

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu ei bod hi wedi dioddef o Alzheimer's ers 2017, a'i bod wedi dangos "dewrder anhygoel wrth frwydro'r cyflwr".

Dywedodd y teulu bod "Neil yn ei chwmni hi yn ystod ei heiliadau olaf. Roedden nhw wedi bod yn briod ers 56 mlynedd".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Syr Keir Starmer bod Ms Kinnock "wir wedi brwydro dros y blaid"

Fe wnaeth Ms Kinnock gynrychioli Cymru fel Aelod o Senedd Ewrop, ac fe dreuliodd gyfnod hefyd fel gweinidog yn llywodraeth Gordon Brown.

Ychwanegodd ei theulu bod ei gwaith yn y byd gwleidyddol yn haeddu clod, ac mai'r meysydd yr oedd hi wir yn angerddol amdanyn nhw oedd Ewrop, Affrica a'r Cenhedloedd Unedig.

Wrth roi teyrnged i Ms Kinnock, dywedodd arweinydd presennol y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer ei bod hi wir wedi brwydro dros y blaid.

'Ysbrydoliaeth i ni gyd'

Mewn neges ar wefan cymdeithasol, dywedodd Gweinidog Iechyd Cymru, Eluned Morgan fod Glenys Kinnock "yn ddynes anhygoel" a gafodd "effaith aruthrol" ar ei bywyd.

"Mi oedd Glenys yn fwy na chydweithiwr, roedd hi'n ffrind annwyl ac yn fentor.

"Roedd ei hymrwymiad at gyfiawnder cymdeithasol, ei ffydd ym mhŵer addysg a'i hangerdd diwyro am hawliau merched a phlant yn ysbrydoliaeth i ni gyd.

"Mewn cyfnodau o ansicrwydd gwleidyddol, fe safodd Glenys yn gadarn ochr yn ochr â Neil, gan gynnig cefnogaeth a chyfrannu at wydnwch y blaid."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Ms Kinnock yn wraig i gyn-arweinydd y Blaid Lafur, Neil Kinnock, ac yn fam i Stephen Kinnock, AS Aberafan

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, ein bod ni wedi colli "ffigwr hanesyddol".

"Roedd Glenys wedi brwydro yn ddiflino dros hawliau merched a phlant, yn ogystal â materion eraill o amgylch y byd," meddai.

Mewn neges ar ei gyfrif X, dywedodd Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, fod Ms Kinnock "yn wleidydd uchel iawn ei pharch", a'i fod yn "cydymdeimlo'n arw gyda'i theulu".

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth, fod Ms Kinnock wedi gwasanaethu'r cyhoedd "gydag angerdd ac ymroddiad" a'i bod hi "wastad yn falch o'i magwraeth yng Nghaergybi".

Pynciau cysylltiedig