Apêl heddlu wedi gwrthdrawiad angheuol ger Llangollen

  • Cyhoeddwyd
Ffordd yr A539Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd plismyn eu galw am 18:38 nos Sadwrn wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a char ger bwyty'r Sun Trevor

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio am dystion wedi gwrthdrawiad angheuol ar ffordd yr A539 ger Llangollen.

Cafodd plismyn eu galw am 18:38 nos Sadwrn wedi adroddiadau o wrthdrawiad rhwng beic modur a char ger bwyty'r Sun Trevor.

Dywed yr heddlu bod y beiciwr wedi marw a bod y ffordd ar gau tan 02:20 fore Sul.

Mae teulu agosaf y beiciwr a Swyddfa'r Crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Dywedodd y swyddog Jo Roberts o Uned Droseddau'r Ffyrdd: "Ry'n yn apelio am unrhyw dystion i gysylltu â ni - yn enwedig rhai sydd â chamera ar eu ceir.

"Ry'n am siarad yn benodol â gyrrwr fan wen a oedd, o bosib, yn dyst i'r digwyddiad."

Pynciau cysylltiedig