Ymchwiliad Covid: Beio 'canu a gordewdra' am gyfraddau uchel
- Cyhoeddwyd
Honnir bod Boris Johnson wedi beio cyfraddau uchel o Covid-19 yng Nghymru ar "ganu a gordewdra".
Cafodd y sylwadau eu cynnwys yn nyddiadur Syr Patrick Vallance, cyn-brif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, ym Medi 2020.
Ysgrifennodd Syr Patrick am gyfraddau Covid: "Cymru'n uchel iawn - mae [y prif weinidog] yn dweud 'Y canu a'r gordewdra ydyw... wnes i erioed ddweud hynny'."
Mae cyd-destun llawn y sylwadau honedig yn aneglur.
Cyflwynwyd y darn o ddyddiadur i Mr Johnson gan Pete Weatherby KC, sy'n cynrychioli Teuluoedd mewn Profedigaeth Covid er Cyfiawnder, yn Ymchwiliad Covid-19 y DU ddydd Iau, ond ni ofynnwyd iddo am y cofnod.
Roedd rhannau o Gymru ym mis Medi 2020 ymhlith yr ardaloedd yn y DU a gafodd eu taro galetaf gan y feirws.
Cyfnod clo byr
Dywedodd Mr Johnson wrth yr ymchwiliad nad oedd yn glir bod cyfnod clo byr Cymru yn hydref 2020 wedi gweithio.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfnod clo am bythefnos mewn ymgais i atal lledaeniad Covid.
Gwnaeth y cyn-brif weinidog yr honiad wrth gael ei holi yn ymchwiliad Covid a ddylai fod wedi cyflwyno cyfnod clo byr yn Lloegr yn gynt.
Yng Nghymru, gorfodwyd i dafarndai, bwytai, gwestai a siopau nad ydynt yn hanfodol gau am bythefnos yn hydref 2020.
Ar y pryd dywedodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford, y byddai'n "sioc fer, sydyn i droi'r cloc yn ôl, arafu'r feirws a phrynu mwy o amser i ni".
Cafodd cyfnod clo byr Cymru ei adlewyrchu yn Lloegr yn y pen draw bythefnos yn ddiweddarach.
Yn gynharach yn yr ymchwiliad dywedodd cyn-bennaeth cyfathrebu Mr Johnson, Lee Cain, mai'r cloi byr oedd y "penderfyniad cywir".
"Doedd y cyngor gwyddonol ddim yn glir," meddai Mr Johnson.
'Perthynas ardderchog'
Dywedodd Mr Johnson wrth yr ymchwiliad hefyd bod perthynas "ardderchog" gyda Mark Drakeford yn ystod y pandemig.
Dywedodd y cyn-brif weinidog fod "llawer mwy sy'n ein huno ni nag yn rhannu" cenhedloedd y DU.
"Mae gen i berthynas ardderchog ac roedd gen i berthynas ardderchog gyda Mark Drakeford," meddai.
"Rwy'n gwybod ei fod bob amser eisiau cael mwy o gyfarfodydd."
Rhoddodd Boris Johnson ei weinidog Michael Gove yn gyfrifol am gysylltiadau gyda llywodraethau Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
"Roeddwn i'n credu bod Michael Gove yn gwneud gwaith rhagorol.
"Credaf fod Mr Drakeford wedi dweud wrth Mr Gove yn ddiweddar ei fod yn meddwl bod y cydweithio wedi bod yn dda iawn".
Dywedodd Mark Drakeford yn gynharach yr wythnos hon bod gwrandawiadau diweddar yr ymchwiliad Covid wedi bod yn "gyfres o ddatguddiadau gwarthus" am waith Llywodraeth y DU.
Mae disgwyl i Mr Drakeford a'i weinidogion roi tystiolaeth eto'r flwyddyn nesaf wrth i'r ymchwiliad gynnal gwrandawiad llai ar benderfyniadau yng Nghymru yn ystod Covid.
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod sylwadau Mr Johnson yn dangos "dirmyg llwyr" y Ceidwadwyr a "system San Steffan" tuag at Gymru.
Dywedodd llefarydd iechyd y blaid, Mabon ap Gwynfor: "Mae sylwadau Johnson yn gwbl amharchus, ac yn anaddas gan arweinydd yr oedd llawer ohonom yn gwybod erioed oedd yn anghymwys i arwain."
Doedd Llywodraeth Cymru ddim am wneud sylw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023