Ymchwiliad Covid: Galw am 'barcio' gwleidyddiaeth mewn pandemig

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris JohnsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Boris Johnson yn ymddangos o flaen yr ymchwiliad Covid ddydd Mercher

Mae grŵp o deuluoedd Cymreig a gollodd anwyliaid i Covid wedi galw am "barcio" gwahaniaethau gwleidyddol er mwyn amddiffyn pawb yn y DU yn ystod y pandemig nesaf.

Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees o Covid Bereaved Families Cymru bod ymddangosiad Boris Johnson yn yr ymchwiliad Covid ddydd Mercher yn "allweddol" i ddeall y ddadl dros weithredu ar draws y DU.

Ar ôl i'r cyfnod clo cyntaf ledled y DU gael ei gyhoeddi gan Mr Johnson ar 23 Mawrth 2020, roedd Cymru yn gyfrifol am ei rheolau Covid ei hun.

"I ni, mae'n ymwneud â sicrhau bo' chi'n gallu cael hyblygrwydd yn seiliedig ar ddaearyddiaeth a demograffeg, ond nid ar ffiniau gwleidyddol," meddai Ms Marsh-Rees.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Anna-Louise Marsh-Rees fod angen i lywodraethau feddwl "sut ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd" yn y dyfodol

Mae cyn-ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, eisoes wedi dweud wrth yr ymchwiliad y dylai pwerau orwedd gyda gweinidogion y DU ac nid rhai Cymru.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wrthod sylwadau Mr Hancock.

Dywedodd Mr Drakeford nad yw'r ymchwiliad wedi bod yn hysbyseb dda am roi mwy o bwerau i Lywodraeth y DU.

Dywedodd Ms Marsh-Rees: "Rwy'n gwybod y byddai Mark Drakeford yn dweud 'dydyn ni ddim am roi mwy o bwerau i San Steffan am ei fod mor flêr'.

"Ond rwy'n credu bod angen i ni barcio hynny ac edrych ar y pandemig nesaf a meddwl 'sut ydyn ni'n gweithio gyda'n gilydd i sicrhau diogelwch a diogelwch pawb yn y DU', oherwydd mae gennym ni ffiniau mor porous."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford wedi dweud nad yw'r ymchwiliad wedi bod yn hysbyseb dda am roi mwy o bwerau i Lywodraeth y DU

Er i Boris Johnson gychwyn y cyfnod clo cyntaf ledled y DU, roedd natur y ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn golygu bod Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedyn yn gyfrifol am greu eu rheolau Covid eu hunain, gyda Llywodraeth y DU yn penderfynu dros Loegr.

Dwedodd Michael Gove, gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gydlynu â'r llywodraethau datganoledig, ei fod hefyd o blaid cael un polisi ledled DU yn ystod ei ymddangosiad o flaen yr ymchwiliad yr wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i Mr Johnson ddilyn yr un trywydd yn ystod ei ddeuddydd o dystiolaeth.

Mae'r cyn-brif weinidog - mewn dogfen y mae eisoes wedi'i ddanfon at yr ymchwiliad - wedi dweud ei fod yn credu bod "risg" y byddai llywodraethau datganoledig yn "wahanol er mwyn bod yn wahanol".

Mewn cyflwyniad ar wahân fe wnaeth Mr Drakeford gyhuddo Mr Johnson o edrych ar y gweinyddiaethau datganoledig fel "fel set o bobl ifanc afreolus, annibynadwy gyda barn oedd yn ddiffygiol", yn hytrach na phartneriaid cyfartal.

Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Michael Gove wadu i'r ymchwiliad bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi eu "cadw allan o'r lŵp"

Dywedodd Ms Marsh-Rees hefyd y byddai ymddangosiad Mr Johnson yn eu helpu i ddeall "ansawdd a nifer y cyfarfodydd a'r cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru".

Cwynodd Mr Drakeford yn rheolaidd nad oedd cyfarfodydd gweinidogol yn digwydd yn rheolaidd tra bod y pandemig ar ei waethaf.

Gwrthododd Mr Gove gyhuddiadau bod y gweinyddiaethau datganoledig wedi eu "cadw allan o'r lŵp" rhwng mis Mai a Hydref 2020, ond cyfaddefodd fod 'na ostyngiad wedi bod yn y cyswllt a gafwyd.