Ymchwiliad Covid: 'Camgymeriad cael negeseuon gwahanol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Boris Johnson yn siarad yn ymchwiliad Covid y DUFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Mr Johnson y gwrandawiad trwy ymddiheuro am y "boen a'r golled a'r dioddefaint" yn ystod y pandemig.

Roedd yn "gamgymeriad" fod gan Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon eu negeseuon eu hunain ar Covid, mae Boris Johnson wedi dweud wrth yr ymchwiliad i'r pandemig.

Dywedodd y cyn-brif weinidog ei bod hi'n "hawl naturiol a phriodol" i lywodraethau'r tair gwlad gael eu hymagwedd eu hunain.

Ond dywedodd fod hynny'n golygu negeseuon gwahanol yn dod o'r gwahanol genhedloedd.

"Hoffwn dynnu sylw at y ffaith ein bod ni'n dibynnu'n fawr ar negeseuon i reoli'r feirws," meddai.

"Un broblem oedd gyda ni, oherwydd hawl naturiol a phriodol y gweinyddiaethau datganoledig i gael eu hymagwedd eu hunain, oedd y gallai newyddion y BBC weithiau gael un neges o Rif 10, ac yna un ychydig yn wahanol i'r Alban neu ble bynnag.

"Dwi'n meddwl bod angen i ni gael trefn ar hynny yn y dyfodol."

Cyhuddodd Boris Johnson y llywodraethau datganoledig hefyd o ollwng gwybodaeth o gyfarfodydd brys COBRA yn ystod y pandemig.

Dywedodd wrth yr ymchwiliad fod hynny "weithiau" yn digwydd a bod hynny "yn fy marn i yn broblem."

Cyn y gwrandawiad, galwodd teuluoedd Cymreig a gollodd anwyliaid i Covid am "barcio" gwahaniaethau gwleidyddol er mwyn amddiffyn pawb yn y DU yn ystod y pandemig nesaf.

'Poen a'r golled a'r dioddefaint'

Dechreuodd Mr Johnson y gwrandawiad ddydd Mercher trwy ymddiheuro am y "boen a'r golled a'r dioddefaint" yn ystod y pandemig.

Cadarnhaodd nad oedd tua 5,000 o'i negeseuon WhatsApp rhwng 30 Ionawr a Mehefin 2020 ar gael oherwydd problemau technegol gyda ffôn symudol.

Dywedodd ei fod am wneud yn glir nad oedd ef wedi cael gwared ar unrhyw negeseuon WhatsApp.

Deddfwriaeth iechyd cyhoeddus

Mae cyn-ysgrifennydd iechyd Llywodraeth y DU, Matt Hancock, eisoes wedi dweud wrth yr ymchwiliad y dylai pwerau orwedd gyda gweinidogion y DU ac nid rhai Cymru.

Fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wrthod sylwadau Mr Hancock.

Dywedodd Mr Drakeford nad yw'r ymchwiliad wedi bod yn hysbyseb dda am roi mwy o bwerau i Lywodraeth y DU.

Er i Boris Johnson gychwyn y cyfnod clo cyntaf ledled y DU, roedd natur y ddeddfwriaeth iechyd cyhoeddus yn golygu bod Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon wedyn yn gyfrifol am greu eu rheolau Covid eu hunain, gyda Llywodraeth y DU yn penderfynu dros Loegr.

Dwedodd Michael Gove, gweinidog Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gydlynu â'r llywodraethau datganoledig, ei fod hefyd o blaid cael un polisi ledled DU yn ystod ei ymddangosiad o flaen yr ymchwiliad yr wythnos ddiwethaf.