Ateb y Galw: Gruffydd Siôn Ywain
- Cyhoeddwyd
Gruffydd Siôn Ywain sy'n Ateb y Galw yr wythnos yma. Mae Gruffydd yn ddylunydd, dramodydd ac yn awdur, ac fe enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022.
Yn wreiddiol o Ddolgellau, fe dreuliodd Gruffydd gyfnod yn Llundain cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mae o'n anodd gwahaniaethu rhwng be' sy'n wir atgof a be' dwi'n gofio drwy glywed straeon a gweld lluniau - ond dwi'n cofio rhyw gymysgedd o afr yn bwyta sgert Nain Sling, eistedd ar lin fy mam a hithau'n chware'r delyn; a'r hogyn drws nesa yn agor bocs matches i ddatgelu pili pala byw.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Does un man yn debyg i adra am wn i, a Dolgellau ydi fanno i fi. Anodd curo'r olygfa o geg y Fawddach o lwybr Cynwch ar ddiwrnod braf.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Falle bod gen i ragfarn gan mai yno ges i'r fedal ddrama ond oedd 'Steddfod Tregaron yn un da toedd? Tywydd grêt, miwsig da, pawb yn ysu i fwynhau ar ôl y cyfnod clo a chriw mawr o ffrindiau a theulu o'n nghwmpas i ddathlu. Bob eiliad yn hwyl!
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Penderfynol, Creadigol, Anturus.
Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sy' o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin pan ti'n meddwl nôl?
Yn 2016 ddaru criw ohonom ddreifio o un pen o'r Unol Daleithiau i'r llall. Oedd pob diwrnod yn antur a welon ni bob math o ryfeddodau ar hyd y ffordd ond y pethau bach gwirion bob dydd sy'n 'neud i mi wenu fwya'.
Gen i'r atgof clir 'ma o'r chwech ohonom yn y car yn dreifio trwy'r Appalachians, kazoos yn ein cegau yn bloeddio canu Alejandro gan Lady Gaga drosodd a drosodd. Sdiwpyd.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ma' na rywbeth bob dydd ond un sy'n sticio yn y cof ydi pan fomiodd un o berfformiadau Stairs, ein prosiect celf/band teyrnged i Steps, a bomio go iawn 'lly.
Am ryw reswm oedden ni'n meddwl byddai o'n syniad gwych perfformio dawns ddehongliadol i gerddoriaeth Tchaikovsky o flaen tafarn llawn dop. Tragedy.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Dwi'n crio'n hawdd. Mond i rywun ddeud rhywbeth ffeind wrtha'i yn ddigon i godi deigryn. Tro diwethaf i mi grio go iawn? Wrth ffarwelio â Llundain ar ôl 16 mlynedd o fyw yno, a'r criw anhygoel o ffrindiau o'n i'n gadael ar fy ôl. Bach yn OTT rili achos o'n i'n ôl yno rhyw wythnos yn ddiweddarach ar gyfer gwaith...
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Dwi'n dueddol o droi pob hobi i mewn i waith.
Beth yw dy hoff lyfr, ffilm neu bodlediad a pham?
Ffilm - Sbel yn ôl rŵan dderbynies i lyfr yn rhestru tros fil o ffilmiau mae'n rhaid eu gwylio cyn marw. Gymerais i'r sialens a dwi 'di bod yn gweithio'n ffordd trwy'r rhestr ers hynny. Wedi darganfod sawl ffilm arbennig yn y broses (a rhai bythgofiadwy am y rhesymau anghywir) ond y ffefryn ydi Sunset Boulevard. Ffan mawr o Noir, Femme Fatales ac unrhyw beth wedi'i sgwennu gan Billy Wilder.
Llyfr - Anaml fyddai'n ail-ddarllen llyfr ond un dwi wedi mynd yn ôl ato drosodd a throsodd ydi The Autobigraphy of Malcom X a ysgrifennwyd gyda Alex Haley. Cyfuniad o arddull sgyrsiol y sgwennu, y stori bwerus â'r cyfnod penodol yn Affrica pan ddarllenes i o am y tro cyntaf wedi creu cryn argraff.
Podlediad - Fydda i'n gwrando ar bodlediadau gwleidyddiaeth a newyddion yn ddyddiol ond y clasur dibynadwy ydi'r OG ei hun; Beti a'i Phobol wrth gwrs.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod? Pam?
Beti George. Dwi'n meddwl 'sa ni'n cael laff.
Dyweda rywbeth amdanat ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.
Dreulies i gyfnod yn byw gyda chwlt yn Ghana. Cwbl o'n i'n wybod cyn mynd draw yno i wirfoddoli mewn ysgol oedd bod y criw 'ma yn llysieuwyr oedd yn hoff o wneud yoga.
Mewn gwirionedd oedd pethau ychydig mwy cymhleth na hynny ac roedd y mudiad yma efo hanes lliwgar o roi eu hunain ar dân a smyglo cyffuriau. Trip da fel arall!
Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael hwyl hefo'r bobl sy'n bwysig i mi yn 'neud y pethau sy' llawer rhy beryg i mi drio fel arfer... fel trio dwyn y crown jewels, neu sglefrio iâ, neu rannu barn ar Twitter...
Pa lun sy'n bwysig i ti a pham?
Mae'r llun yma ohono i'n dynwared Taid Sling wrth iddo gerdded â'i ddwylo tu ôl ei gefn yn un o'n ffefrynnau. Fi 'di'r hynaf o'r deg cefnder a chyfnither ar ochr Mam o'r teulu ac roedd taid yn fêt i bob un ohonom. I ddadansoddi'r llun ma 'na ryw awgrym dwys o ddilyn yn ei olion traed ma' siŵr, ond mewn gwirionedd ac yn fwy na dim, mae o'n lun bach del.
Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?
Beti George. Dwi'n meddwl swn i'n cael laff...
Hefyd o ddiddordeb: