Eisteddfod 2022: Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Disgrifiad,

Ennill y Fedal Ddrama yn 'hollol fythgofiadwy'

Mae'r Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 wedi cael ei rhoi i Gruffydd Siôn Ywain.

Daeth i'r brig gyda'r ddrama 'Nyth' mewn cystadleuaeth a ddenodd 15 o ymgeiswyr a chafodd ei anrhydeddu ar lwyfan y Pafiliwn yn Nhregaron ddydd Iau.

Mae Gruffydd Siôn Ywain, sy'n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yn Llundain, hefyd yn derbyn rhodd ariannol o £750.

Wrth draddodi ar ran ei chyd-feirniaid, dywedodd Janet Aethwy fod y ddrama fuddugol yn "stori afaelgar wedi ei saernïo'n gelfydd".

Y dasg oedd cyfansoddi drama lwyfan, heb gyfyngiad o ran hyd, sydd â photensial i'w datblygu ymhellach o gael gweithio gyda chwmni proffesiynol.

Pwy ydy Gruffydd Siôn Ywain?

Magwyd ym Mhenybryn, Dolgellau, gyda'i ddau frawd a'i chwaer.

Astudiodd yn Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol y Gader a Choleg Meirion Dwyfor cyn gweithio fel dylunydd.

Symudodd i Goleg Chelsea Llundain i astudio dylunio a chyfathrebu ac mae wedi byw yn Llundain ers 15 mlynedd erbyn hyn.

Fel aelod o Gôr Llundain mae'n rhan o gymdeithas Gymraeg clos y ddinas.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth Gruffydd i'r brig gyda'i ddrama 'Nyth' - ei ffugenw oedd 'Dy Fam'

Mae'n gweithio fel Cyfarwyddwr Creadigol yn y BBC, yn gyfrifol am ddyluniad systemau cynhyrchu a chreadigol y gorfforaeth.

Mae hefyd yn parhau i greu gwaith creadigol llawrydd, gan gydweithio'n ddiweddar gyda Sŵnami, Hansh a'r Urdd.

Dyma'r tro cynaf iddo gystadlu am y Fedal Ddrama.

'Ffraeth ac emosiynol'

Y beirniaid eleni oedd Janet Aethwy, Sharon Morgan a Sera Moore Williams.

"Mae'n ddrama hyderus a chrefftus sy'n portreadu perthynas cwpwl gwrywaidd sy'n chwilio am fam fenthyg er mwyn creu teulu, a'u perthynas hwy gyda ffrind benywaidd," meddai Janet Aethwy am y ddrama fuddugol.

"Mae'r themâu yn gyfredol a dadleuol a pherthnasol i gynulleidfa heddiw ac mae'r cymeriadau yn gwbl gredadwy, yn gelfydd a chrwn.

"Mae'r ddeialog yn ffraeth ac yn emosiynol ac yn llifo'n wych.

"Mae'r dramodydd yn defnyddio ei gymeriadau i wthio'r plot yn ei flaen yn araf a phwyllog ac mae sicrwydd y bwriad wrth adeiladu'r stori yn dal ein sylw wrth i ni fuddsoddi yn nhynged y cymeriadau."

Pynciau cysylltiedig