Aur i Medi Harris ym mhencampwriaeth nofio Ewrop

  • Cyhoeddwyd
Harris a'i chyd-nofwraig Shanahan ar ol gorffen y rasFfynhonnell y llun, Getty Images

Fe enillodd y Gymraes Medi Harris fedal aur i dîm Prydain yn y ras 200m dull cefn ym mhencampwriaethau cwrs byr nofio Ewrop yn Romania ddydd Iau.

Fe wnaeth hi hefyd dorri record Nofio Cymru gyda'r amser o 2:02:45.

Dyma ei buddugoliaeth unigol ryngwladol gyntaf, ac fe ddaeth ei chyd-nofwraig, Katie Shanahan, yn ail yn y ras gan sicrhau cychwyn addawol i dîm Prydain yn y bencampwriaeth.

Er mai 21 yn unig yw'r nofwraig o Borthmadog, mae hi eisoes wedi ennill y fedal efydd yng Ngemau'r Gymanwlad yn 2022 ac wedi ennill y fedal aur fel rhan o dîm ras gyfnewid dull rhydd Prydain ym mhencampwriaethau acwatig Ewrop 2022.

Bydd y bencampwriaeth yn dod i ben ar 10 Rhagfyr 2023.

Pynciau cysylltiedig