Menyw, 21, 'wedi cymryd cyffur anghyfreithlon' - cwest

  • Cyhoeddwyd
Olivia SpencerFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Olivia Spencer ar ôl llewygu yn ystod digwyddiad cerddorol yn ardal Tre-biwt

Mae cwest wedi clywed bod menyw 21 oed a fu farw ar ôl cael ei tharo'n wael mewn clwb nos yng Nghaerdydd wedi cymryd cyffur anghyfreithlon.

Bu farw Olivia Morgan Spencer ar ôl llewygu yn y clwb yn Stryd Bute yn yr oriau mân fore Sadwrn.

Clywodd y gwrandawiad ym Mhontypridd bod y gwasanaethau brys wedi ceisio achub ei bywyd ond bu farw yn y fan a'r lle.

Dywedodd porthor y llys, Catherine Burnell bod yr heddlu hefyd wedi cael eu galw "ac wedi cael gwybodaeth bod Olivia wedi cymryd cyffur anghyfreithlon"

"Mae profion tocsicoleg yn parhau."

Daeth archwiliad post-mortem i'r casgliad bod angen rhagor o ymchwiliadau i gadarnhau achos y farwolaeth.

Dywedodd y crwner Patricia Morgan bod angen cwest oherwydd yr amheuaeth bod "natur annaturiol" i'r farwolaeth.

Fe gydymdeimlodd gyda theulu Ms Spencer wrth ohirio'r cwest.

Pynciau cysylltiedig