Ffestiniog: Pennod newydd i neuadd farchnad hanesyddol?

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Farchnad, Blaenau Ffestiniog

Mae gobaith o'r newydd y gall adeilad hanesyddol yng Ngwynedd gael ei adfer ar gyfer defnydd cymunedol.

Ers y 1970au mae Neuadd y Farchnad Blaenau Ffestiniog wedi bod heb ddefnydd pwrpasol er gwaethaf ei hanes cyfoethog.

Wedi ei hadeiladu yn 1861, y gred yw mai yn y neuadd hon y gwnaeth David Lloyd George ei araith wleidyddol gyntaf.

Yn ei hanterth roedd yr adeilad - sy'n adeilad rhestredig Gradd II ers 2022 - yn gallu dal dros 1,200 o bobl.

Ond roedd pryderon yn ddiweddar wedi i gwmni Mossley Hill o Lerpwl wneud cais cynllunio i ddatblygu fflatiau ar gyfer pobl fregus ar y safle.

Er mynnu y byddai'r fflatiau ar gael i bobl leol fe wnaeth dros 1,000 o bobl arwyddo deiseb yn erbyn y cynlluniau, gan adael dyfodol y neuadd o dan gwmwl.

Bellach wedi iddi newid dwylo, gobaith perchennog newydd y safle yw ailsefydlu'r adeilad fel neuadd farchnad gan fanteisio ar ei threftadaeth.

Ond i wireddu hynny mae'n debyg y bydd angen cyllid sylweddol a blynyddoedd o waith i adfer yr adeilad.

Ymdrechion blaenorol

Wedi ei chynllunio gan Owen Morris, mae'r neuadd farchnad yn sefyll drws nesaf i Reilffordd Ffestiniog.

Mae'n deillio o gyfnod pan oedd Blaenau Ffestiniog yn tyfu'n aruthrol - roedd dros 12,000 yn byw yn y dref erbyn yr 1880au wrth i chwareli'r ardal allforio 150,000 tunnell o lechi y flwyddyn i bedwar ban byd.

Disgrifiad o’r llun,

David Lloyd George - a areithiodd yn y neuadd yn 1886 - oedd yr unig Gymro Cymraeg i lwyddo i fod yn Brif Weinidog y DU

Ond fel tranc y diwydiant llechi, dod i ben wnaeth y defnydd ar y neuadd hefyd, sydd wedi bod fwy neu heb ddefnydd ers y 1970au.

Roedd hyn er gwaethaf cynlluniau dros 20 mlynedd yn ôl i'w throi yn ganolfan adloniant a chymunedol.

Ofer fu ymdrechion Menter y Moelwyn wedi iddyn nhw fethu â sicrhau y cyllid angenrheidiol.

Bwriad y perchennog newydd yw adfer defnydd yr adeilad fel neuadd farchnad a chreu arddangosfa i'r diwydiant trenau - oedd hefyd yn hollbwysig yn natblygiad yr ardal.

Disgrifiad o’r llun,

Mae gwaith sylweddol i adfer y llwyfan ar yr ail lawr lle credir i Lloyd George areithio pan yn 23 oed - bedair blynedd cyn ei ethol i San Steffan

Mae hefyd yn gobeithio ailadeiladu'r llwyfan y gwnaeth Lloyd George ei araith enwog yn Chwefror 1886 pan yn 23 oed.

Dywedodd Vincent Frostick, sy'n gyfrifydd treth ac hefyd yn rhedeg gwesty yn y dref, fod ailwampio'r neuadd yn debygol o gymryd dros ddegawd i'w gwblhau.

Serch hynny mae'n awyddus am unrhyw luniau a gwybodaeth leol o sut fyddai'r adeilad wedi edrych yn ei anterth, wrth ymdrechu i'w adfer.

"Dwi wastad wedi bod ag angerdd am deganau, rheilffyrdd model a phethau felly, a meddyliais fyddai'n hyfryd i gael arddangosfa neu amgueddfa o ryw fath," meddai wrth Cymru Fyw.

"Felly wnes ddechrau chwilio am adeilad, a phan ddoth hwn ar y farchnad tua blwyddyn yn ôl fe benderfynais fynd amdani.

"Allai ddim dweud wrthoch chi os oedd yn syniad call neu beidio, ond mae'n rhedeg gyfochrog â Rheilffordd Ffestiniog ac o'r ochr yna mae'n berffaith."

Disgrifiad o’r llun,

Vincent Frostick: "Dwi wedi cael lot o gefnogaeth yn lleol, a dwi'n gobeithio, os gawn ni help, fyddan ni'n gallu ei agor"

Nos Iau fe gynhaliwyd ffair Nadolig ar lawr gwaelod yr adeilad, ac mae'r perchennog yn gobeithio ailsefydlu'r neuadd fel lle i gynnal marchnadoedd cyson - yn unol â'r bwriad gwreiddiol.

"Yr hyn sy'n bwysig go iawn ydi fod o'n rhywle i'r gymuned," ychwanegodd Mr Frostick.

"Hoffwn iddo fod yn le i gynnal gigs, sioeau llwyfan ac ar gael i ysgolion i'w ddefnyddio. Fasa hynny'n braf iawn."

Costau helaeth

Ond gyda'r bwriad blaenorol i'w droi yn fflatiau wedi denu gwrthwynebiad yn lleol, dywedodd nad oedd hynny'n ran o'i gynlluniau.

"Faswn yn licio rhoi cyfamod ar yr adeilad fel na ellir byth fod yn eiddo preswyl. Dwi eisiau ei weld yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd masnachol.

Disgrifiad o’r llun,

Fe gynhaliwyd ffair Nadolig yn y neuadd yr wythnos hon

"Pan fyddaf yn marw, byswn yn hoffi ei adael i'r gymuned wedyn a sefydlu ymddiriedolaeth.

"Dwi wedi cael lot o gefnogaeth yn lleol, a dwi'n gobeithio, os gawn ni help, fyddan ni'n gallu ei agor.

"Ei fwriad oedd bod yn adeilad cyhoeddus a fel yna dwi eisiau iddo gael ei ddefnyddio."

Ond wedi bod heb ddefnydd pwrpasol am hanner canrif, mae'r costau i'w adfer i'w ddefnydd llawn yn debyg o gostio cannoedd o filoedd, meddai, ac yn debyg o fod angen cymorth ffynonellau allanol.

"Mae'n ddarn gwych o bensaernïaeth, mae cymaint ohonyn nhw nawr yn cael eu dymchwel a rydan ni'n colli rhai o'r adeiladau treftadaeth gwych yma.

"Hanes Lloyd George, y llwyfan a phopeth arall, mae angen i ni warchod y pethau yma ar gyfer y dyfodol."

'Union beth mae'r dref ei angen'

Wrth i ffair, fel rhan o ddathliadau 'Goleuo Stiniog', gael ei chynnal yn y neuadd dywed rhai o'r masnachwyr a'r trefnwyr bod dirfawr angen cyfleuster o'r fath i gynnal mwy o ddigwyddiadau tebyg yn lleol.

Disgrifiad o’r llun,

Susan Roberts: "Braf gweld o'n cael ei ddefnyddio eto"

"'Da ni wedi addurno'r lle cystal â allwn ni a mae'n braf gweld o'n cael ei ddefnyddio eto," meddai Susan Roberts o'r grŵp cymunedol Blaenau Bendigedig.

"'Da ni'n rhedeg capel yn y dref wnaethon ei achub rhag cael ei droi yn fflatiau hefyd a mae nawr yn ganolfan soft play.

"Mae'r cynlluniau ar gyfer y neuadd... dyma'n union beth mae'r dref ei angen achos does na ddim canolfan maint mawr i'r dref ddod at ei gilydd."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Shell Ruggles hefyd yn gefnogol i gael mwy o ddefnydd o'r adeilad

Un arall oedd â stondin yn y ffair Nadolig oedd Shell Ruggles.

"'Da ni isho dod â pobl nôl fewn i'r dref - mae'n rhaid cael rhywbeth i ddenu pobl.

"Does 'na ddim farchnad, os oes na fodd i ddod â hi'n ôl mi fasa hynna'n wych."

Ychwanegodd Nia Roberts o Llan Ffestiniog, sy'n rhedeg busnes arlwyo, ei bod "100% yn gefnogol i ailagor y neuadd".

Disgrifiad o’r llun,

Nia Roberts: "Sa'r cynlluniau yn dod â phobl at ei gilydd, does na'm lleoliad i bobl gyfarfod"

"Mae'n adeilad pwysig ofnadwy, yma ers blynyddoedd mawr, a dwi'n meddwl sa'n wych ei agor i fyny oherwydd yr hanes.

"'Swn i wedi gwrthwynebu fflatiau yma ond dwi'n meddwl sa'r cynlluniau yn dod â phobl at ei gilydd, does 'na'm lleoliad i bobl gyfarfod.

"Dwi'n edrych ymlaen."