£1m i wyddonwyr Aberystwyth sy'n creu prawf canser cynnar
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwyddonwyr sy'n gobeithio datblygu prawf cynnar ar gyfer canser yr ysgyfaint wedi derbyn £1m ar gyfer y gwaith.
Mae canser yr ysgyfaint yn effeithio ar bron i 50,000 o bobl y flwyddyn yn y DU, ac yn gyfrifol am farwolaethau mwy o bobl nag unrhyw ganser arall.
Yn aml dyw diagnosis ond yn cael ei wneud pan fydd y canser wedi datblygu yn rhy bell i'w drin.
Gobaith ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yw creu prawf symlach all roi diagnosis o ganser gyda chywirdeb o 90% cyn i'r symptomau waethygu.
Mae'r gwaith yn rhan o bartneriaeth rhwng gwahanol gwmnïau yn y DU, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth.
Prawf tebyg i un Covid-19
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd Dr Arwyn Edwards, darlithydd a gwyddonydd ym Mhrifysgol Aberystwyth mai eu gobaith yw "datblygu prawf cymharol ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint gan ddefnyddio technoleg dra thebyg i'r un Covid ond yn targedu biofarcwyr".
"Un o'r problemau gwaethaf gyda chanser yr ysgyfaint yw mae'n anodd adnabod fod rhywun yn dioddef o ganser yr ysgyfaint tan ei fod e efallai yn rhy hwyr i'w drin yn effeithiol."
Ychwanegodd bod y £1m yn "hwb i'r brifysgol".
Bydd yr arian yn cyfrannu at yr ymchwil ar gyfer creu'r prawf a fydd yn gallu adnabod biofarcwyr canser, neu gemegau bach, sy'n bresennol mewn wrin.
Dywedodd Yr Athro Luis Mur o Birfysgol Aberystwyth ei fod yn gobeithio y bydd yr "ymchwil sy'n arwain y byd yma yn Aberystwyth" yn "gwneud gwahaniaeth gwirioneddol".
Ar hyn o bryd, mae canser yr ysgyfaint yn costio mwy na £2.4bn y flwyddyn i'r gwasanaeth iechyd, a'r gobaith yw y bydd y prawf yn helpu i gwtogi ar y gwariant yna.
Un o'r cwmnïau sy'n rhan o'r cydweithio yw'r Life Sciene Group.
Dywedodd Jenny Murray, Rheolwr Gyfarwyddwr y Life Science Group ac Arweinydd y Prosiect: "Rydyn ni'n falch i fod yn rhan o'r consortiwm o gwmnïau annibynnol yn y Deyrnas Gyfunol i ddatblygu'r dechnoleg hon er budd y Deyrnas Gyfunol."
Ychwanegodd bod y tîm yn "hyderus" y bydd y prawf yn medru "achub bywydau" ond hefyd yn "gallu dangos arbedion sylweddol yn y gwasanaeth iechyd, ailddatblygu'r llwybr diagnostig a chreu swyddi yng Nghymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019