Llai o ddynion Cymru yn marw o ganser yr ysgyfaint

  • Cyhoeddwyd
X rayFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae 1,000 o ddynion a 880 o ferched Cymru yn marw o'r canser bob blwyddyn

Yn ôl ffigyrau gan Cancer Research UK, mae 'na ostyngiad o 49% yn nifer y dynion sydd bellach yn marw o ganser yr ysgyfaint, o gymharu â ffigyrau â 40 mlynedd yn ôl.

Dywedodd yr elusen bod 'na bron i 500,000 yn llai o ddynion yn marw oherwydd canser yr ysgyfaint, ond ei fod yn parhau i fod y math o ganser mae pobl yn farw ohono fwyaf.

Mae cwymp ym mhoblogrwydd ysmygu a mynediad gwell i driniaethau yn rhannol gyfrifol am y gostyngiad yn ôl yr elusen.

Ond i fudiad Ash Cymru, mae canser yr ysgyfaint yn amlygu "anghydraddoldebau iechyd", gyda phobl o ardaloedd difreintiedig yn llawer mwy tebygol o farw o'r salwch.

'Gall mwy gael ei wneud'

Mae ffigurau gan Cancer Research UK yn dangos bod 500,000 yn llai o farwolaethau ymhlith dynion yn y DU nag a ddisgwylid pe bai'r gyfradd marwolaethau wedi aros yr un peth.

Dywedodd yr elusen bod ymwybyddiaeth o beryglon ysmygu, gwaharddiad ysmygu a chyfyngiadau hysbysebu yn debygol o fod wedi dylanwadu ar y gostyngiad.

"Wedi blynyddoedd o ymchwil mae hi'n wych gweld bod gostyngiad yn y nifer o ddynion sy'n marw yng Nghymru o ganser yr ysgyfaint," meddai Lynne Davies o'r elusen.

"Ond gall mwy gael ei wneud i leihau'r nifer o bobl sy'n cael eu heffeithio gan y salwch, ac i ddatblygu triniaeth well a fwy tyner".

Yn ôl y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, mae'r salwch yn un o'r pedwar canser mwyaf cyffredin yng Nghymru, a'r un mwyaf cyffredin ar draws y byd.

Dywedodd Cancer Research UK bod "1,000 o ddynion a 880 o ferched yng Nghymru yn marw o ganser yr ysgyfaint pob blwyddyn".

'Anghydraddoldebau iechyd'

Er bod canser yr ysgyfaint yn gallu effeithio'r rheini sydd ddim yn ysmygu, mae ysmygu yn gyfrifol am 75% o achosion yng Nghymru.

Mewn ffigurau gan Ash Wales, mae 'na 19% o oedolion yn ysmygu yng Nghymru - 21% o ddynion a 17% o ferched.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Er eu bod yn croesawu'r ffigyrau, mynnu mae Ash Wales nad oes "digon yn cael ei wneud" i dargedu'r "anghydraddoldebau iechyd a achosir gan ddefnydd tybaco".

"Mae'r bobl sy'n byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, lle mae ysmygu ar ei uchaf, mewn llawer mwy o beryg o ddatblygu canser yr ysgyfaint na'r rhai yn ardaloedd mwyaf cyfoethog y wlad.

"Yn ôl ffigurau gan yr Uned Gwybodaeth a Goruchwylio Canser Cymru (WCISU), mae'r bwlch mewn cyfraddau marwolaeth canser rhwng yr ardaloedd lleiaf difreintiedig a'r rhai mwyaf difreintiedig wedi gweld cynnydd o 14% rhwng 2001-2005 a 2013-2017.

"Roedd yr anghydraddoldebau marwolaeth fwyaf i'w gweld yng nghanser yr ysgyfaint, gyda mwy o farwolaethau mewn ardaloedd difreintiedig."

Maen nhw'n galw am "strategaeth i leihau'r nifer o ysmygwyr mewn ardaloedd mwy difreintiedig" er mwyn lleihau'r bwlch mewn marwolaethau canser yr ysgyfaint.

Gwariodd Cancer Research UK o gwmpas £4m ar ymchwil wyddonol a chlinigol yng Nghymru yn 2018.