Cadarnhad o farwolaethau wedi gwrthdrawiad car a bws
- Cyhoeddwyd
Mae pobl wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a bws yn Rhondda Cynon Taf nos Lun, yn ôl y gwasanaeth ambiwlans.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Stryd Elwyn yng Nghoedelái ychydig wedi 19:00.
Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans eu bod wedi anfon saith ambiwlans a thri meddyg i'r digwyddiad ger Tonyrefail.
Er i lefarydd gadarnhau bod 'na farwolaethau nid oedd yn gallu rhoi mwy o fanylion.
Ychwanegodd bod bws a char yn rhan o'r gwrthdrawiad ac o bosib beic modur.
Fe wnaeth Martin Gibbon, Rheolwr Gyfarwyddwr cwmni Stagecoach yn ne Cymru gadarnhau bod un o fysiau'r cwmni wedi bod mewn gwrthdrawiad.
Ychwanegodd bod y cwmni yn "rhoi cefnogaeth i'r gyrrwr ar yr adeg anodd hon a'u bod yn meddwl am y bobl sydd wedi cael eu heffeithio gan y digwyddiad".
Dywedodd Heddlu De Cymru bod disgwyl i'r ffordd fod ar gau "am gryn amser" gan gynghori gyrwyr i osgoi'r ardal.
Roedd traffig yn ymgasglu ar y A4119, sy'n arwain i'r M4 ger Meisgyn, yn ôl yr heddlu, oriau wedi'r digwyddiad.
'Taro'r ardal yn galed'
Wrth ymateb i'r gwrthdrawiad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y Cynghorydd Danny Grehan, sy'n cynrychioli ardal Coedelái fel aelod Dwyrain Tonyrefail ar Gyngor Rhondda Cynon Taf, ei fod yn ergyd fawr i'r ardal.
"Yn ôl beth dwi'n ddeall, pobl leol sydd wedi bod yn rhan o'r ddamwain erchyll yma, felly mae yn mynd i daro'r ardal yn galed iawn."
"Mae'n amlwg o weld sylwadau pobl neithiwr bod y shockwave yn mynd drwy'r gymuned gyfan.
"Mae'r boen yna yn amlwg yn mynd i gael ei deimlo gan y teuluoedd sydd yn rhan o hyn ond hefyd y gymuned gyfan.
"Hoffwn i ddiolch o galon i gymuned Coedelái neithiwr am agor y ganolfan gymunedol ar gyfer y gwasanaethau arbennig... oedd yn gweithio drwy'r nos, siŵr o fod."
Dywedodd nad yw'n credu bod gwaith ffordd lleol yn ffactor yn y gwrthdrawiad, er bod rhai gyrwyr yn defnyddio ffyrdd llai "i osgoi'r traffig sy'n adeiladu yn yr ardal".
Pwysleisiodd bod y gwrthdrawiad wedi digwydd "ar hewl dawel", ac nid lle mae'r gwaith yn cael ei gynnal, ond bod galwadau dros y blynyddoedd i osod camerâu cyflymder "o bosib... yn cael mwy o lais eto ar ôl neithiwr".
Roedd Dirprwy Faer Tonyrefail, y Cynghorydd Dan Owen-Jones, yn un o'r rhai cyntaf i gyrraedd y safle.
"Mae'n amser ofnadwy i bawb. Yr adeg hon o'r flwyddyn mae hyd yn oed yn waeth," meddai wrth siarad â'r BBC.
"Ro'n i yna yn fuan [wedi'r digwyddiad] - am ryw 19:02. Fe ges i alwad gan un o'r cymdogion - fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad y tu allan i'w cartref. Ro'n i yna yn ceisio gwneud fy ngorau i reoli'r traffig.
"Wedyn roedd yna lot fawr o deulu a ffrindiau. Roedd hi'n ofnadwy gweld y teulu ond yn ddealladwy - petai yn rhywun o'm teulu i fe fyddwn i'n dymuno bod yno."
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Alex Davies-Jones, Aelod Seneddol Pontypridd bod ei "meddyliau gyda'r teuluoedd a'r anwyliaid sydd wedi eu heffeithio" yn sgil y "newyddion erchyll".
Ychwanegodd: "Diolch i bawb a geisiodd helpu neithiwr."
Dywedodd arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan: "Newyddion eithriadol o drist dros nos. Mae fy meddyliau gyda phawb sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad yma."