'Ro'n i mewn dyled £10,000 ar ôl dianc rhag partner treisgar'
- Cyhoeddwyd
RHYBUDD: Mae'r erthygl yn cynnwys manylion all beri gofid.
Mae menyw oedd yn wynebu dyled gwerth miloedd o bunnoedd ar ôl dianc oddi wrth ei phartner treisgar, yn annog eraill sydd mewn sefyllfa debyg i chwilio am gymorth.
Llwyddodd Helen - nid ei henw cywir - i gael gorchymyn llys i atal cyhoeddi ei chyfeiriad ar gofrestr swyddogol sy'n nodi manylion pobl sydd â dyledion.
Heb yr elfen yma o ddiogelwch, meddai, byddai'n anodd iawn iddi fwrw ymlaen gyda'r broses o ddileu ei dyled.
"Rwy'n gwybod am ffaith pe bai'n gallu cael ei ddwylo arnai, byddai'n fy lladd," meddai Helen am ei chyn-bartner.
Mae hi'n parhau i gael hunllefau ac atgofion byw o'r cam-drin corfforol, rhywiol a meddyliol a ddioddefodd.
Fe geisiodd Helen, sydd yn ei phedwardegau, ddod â'r berthynas i ben sawl gwaith, ond "roedd yn bygwth fy nheulu".
"Fe adawes i fe 'nôl mewn achos yr ofn oedd arna i," meddai. "Roedd e'n adnabod pobl - dim ond iddo fe ddweud y gair - bydden nhw'n mynd i dŷ fy rhieni."
Ychwanegodd: "Roedd ganddo reolaeth lwyr ar yr arian, roedd ganddo fy ngherdyn banc. Doedd biliau ddim yn cael eu talu.
"Byddai'n gwneud pethau fel peidio â gadael i fi fwyta.
"Gyda thrais yn y cartref, maen nhw'n eich gwasgu chi lawr, tan bo' chi fel cragen. Ond mae rhywbeth y tu mewn i chi yn torri'n glep."
I Helen, newidiodd y sefyllfa ar ôl i'w chyn-bartner gam-drin ei hanifeiliaid anwes.
"Lladdodd un o fy anifeiliaid ac yna lladdodd y llall," dywedodd.
Symud sawl gwaith er mwyn dianc
Llwyddodd Helen i ffoi i dŷ cymydog, cafodd yr heddlu eu galw a chafodd ei chyn-bartner ei arestio eto.
Aeth Helen i loches a symudodd bum gwaith i wneud yn siŵr nad oedd yn gallu dod o hyd iddi.
Er ei bod wedi dianc y gamdriniaeth, roedd Helen mewn dyled o £10,000 ac roedd peth o'r ddyled o ganlyniad i wariant ei chyn-bartner, yn ei henw hi.
Mae rheolaeth ariannol ac economaidd yn "chwarae rhan flaenllaw mewn sefyllfaoedd o drais domestig" yn ôl Ann Williams o linell gymorth Byw Heb Ofn, dolen allanol.
"Mae'n gallu arwain at rywun yn cael eu hynysu. Heb arian dy'n nhw ddim yn gallu bodoli yn ein cymdeithas", meddai.
"Pan ma' rhywun yn penderfynu gadael perthynas sy'n dreisgar, yn aml iawn ma' 'na broblemau'n dilyn ac ma' hwnna'n gallu bod yn broblemau o gwmpas yr arian, falle bo' nhw ddim wedi arfer delio ag arian eu hunain - dim cyfrif banc.
"Ar y llinell gymorth da ni'n clywed hanesion gan ferched lle ma dyled enfawr wedi cael ei rhedeg i fyny yn eu henwau nhw.
"Falle bo' hynny drwy gymryd cerdyn credyd allan, heb i'r person yna wybod."
Gobaith i'r dyfodol
Mae elusennau'n annog unrhyw un â phryderon ariannol i gael cyngor cyfrinachol am ddim.
Mae Community Money Advice yn helpu pobl ar draws Cymru sy'n methu talu eu dyledion gyda gwasanaeth sy'n rhad ac am ddim.
Yn ôl Adrian Curtis o'r elusen, mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â dyledion.
"Dyw'r ddyled ddim yn mynd i ddiflannu dros nos, ac mae'r sefyllfa, flwyddyn ar ôl blwyddyn yn mynd i fynd yn waeth a gwaeth.
"Mae'n bwysig bod pobl yn gwneud rhywbeth amdano fe'n gyflym ac i siarad â rhywun proffesiynol a dewis yr opsiwn gorau iddyn nhw a dringo mas o'r sefyllfa a gweld gobaith i'r dyfodol," ychwanegodd.
Mae pethau'n gwella i Helen bellach. Symudodd i fflat ac mae mewn perthynas newydd sy'n rhoi gwên ar ei hwyneb.
Os yw cynnwys yr erthygl yn peri gofid, mae cymorth ar gael ar wefan BBC Action Line.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd23 Rhagfyr 2022