Effaith camdriniaeth ddomestig yn 'para am byth'
- Cyhoeddwyd
Mae dioddefwraig camdriniaeth ddomestig yn dweud y bydd effeithiau yr hyn sydd wedi digwydd iddi yn "para am byth" ac y dylai dioddefwyr gael cymorth yn gynnar cyn bod y gamdriniaeth yn gwaethygu.
Yn ôl Cathy, pensiynwraig sy'n byw yn ardal Heddlu Dyfed-Powys, fe wnaeth hi ddioddef stelcio a chael ei rheoli yn ariannol gan ei chyn-bartner cyn mynd at yr heddlu.
Mae hi wedi siarad gyda BBC Cymru wrth i Heddlu Dyfed-Powys lansio eu hymgyrch gaeaf yn erbyn camdriniaeth ddomestig.
Mae'r llu wedi cael eu beirniadu'n llym gan arolygwyr mewn adroddiad diweddar a ddywedodd y gallai methiannau gan yr heddlu adael dioddefwyr "mewn perygl o niwed difrifol".
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod camdriniaeth ddomestig yn "flaenoriaeth" i'r llu a bod cwynion nawr yn cael eu gwirio am yr eildro i sicrhau bod yna ymateb priodol.
Yn ôl ffigyrau'r llu, roedd yna dros 1,000 o ddigwyddiadau yn ymwneud â chamdriniaeth ddomestig ym mis Rhagfyr 2022, sy'n gynnydd ar ffigyrau 2021 a 2020.
Alcohol yn 'trigger'
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Llyr Williams o uned diogelwch Heddlu Dyfed-Powys: "Prif ffocws ni yw codi ymwybyddiaeth o gamdriniaeth ddomestig.
"Mae'n amser anodd o'r flwyddyn ble mae llawer o bobl yn yfed alcohol ac mae hynny yn trigger ar gyfer cam-drin domestig.
"Fis Rhagfyr diwethaf fe welson ni dros 1,000 o allegations cam-drin domestig mewn un mis ac yn anffodus ni'n rhagweld yr un peth eleni.
"Beth ni'n trial dweud yw, os chi yn victim, i ddod 'mlaen aton ni ac mi fyddwn ni yna i ddiogelu chi.
"Mae'n cymryd tua 30 o ddigwyddiadau cyn bod nhw'n cael y ffydd i riportio. Y neges yw mae'n bwysig i gadw eich hunan yn saff."
Defnyddir y term camdriniaeth ddomestig i ddisgrifio camdriniaeth sy'n digwydd rhwng oedolion sydd - neu a fu unwaith - mewn perthynas agos neu rywiol, ac mae'n gallu cynnwys ymddygiad treisgar, rheoli, bygwth neu ddiraddio unigolyn.
'Wastad yn y cysgodion'
Dywedodd Cathy nad oedd hi wedi dioddef camdriniaeth gorfforol, ond bod yna effeithiau emosiynol a seicolegol.
"Roeddwn i yn cael fy rheoli yn ariannol ac roedd difrod i fy eiddo," meddai.
"Roedd e'n rheoli pwy oeddwn i yn cael gweld, a beth oeddwn i yn ei wneud. Fe dorrodd e mewn i fy nghartref gyda'r nos pan oeddwn i yn cysgu - fwy nag unwaith.
"Roedd e'n troi'r sefyllfa i roi'r bai arna i - ac yn awgrymu bod y difrod yn fai arna i. Roedd hi'n flynyddoedd cyn i mi sylweddoli mai nid fy mai i oedd y cyfan.
"Roedd e'n gwrando ar sgyrsiau wrth y ffenest. Roedd e'n fy nilyn i ac yn ysbïo arna i.
"Roedd e'n dod i fy nghartref neu lle bynnag roeddwn i yn digwydd bod - yn hollol ddirybudd, er nad oeddwn i wedi dweud ble ro'n i yn mynd.
"Roedd yna tracker ar fy ngherbyd. Stelcio yw hynny i gyd. Roedd e wastad yn y cysgodion.
"Roedd e'n rheoli fi drwy ddweud wrtha i beidio gwisgo lipstick. Roedd e'n rheoli'r ffordd roeddwn i yn meddwl, ac roedd e'n flin iawn.
"Fe aeth y cyfan yn waeth pan ddes i â'r berthynas i ben."
Cyflwyno gwelliannau
Mae Cathy yn dweud iddi gael profiadau cymysg wrth ofyn am gymorth gan Heddlu Dyfed-Powys.
"Roedd un neu ddau neu dri o swyddogion yn ofnadwy yn y ffordd wnaethon nhw drin fi, ond ar y cyfan roedden nhw yn dda iawn," meddai.
"Fe wnaethon nhw wrando arna i, fe wnaethon nhw gredu fi a chymryd y drosedd o ddifrif.
"Roedd yna rai camgymeriadau ymarferol allai fod wedi peryglu fy niogelwch - yn enwedig rhai yn ymwneud â gynnau.
"Dros amser, fe ddaeth yr heddlu i ddeall mai fy lles i, a chadw fi'n ddiogel oedd yn bwysig ac roedden nhw wastad yn dod i fy nghartref neu yn cwrdd â fi mewn cerbyd plaen.
"Ro'n i yn cael mynd i swyddfa'r heddlu drwy'r drws cefn, yn hytrach na'r drws ffrynt ac fe esboniodd y prif swyddog oedd yn gofalu am yr achos wrth ei gyd-swyddogion bod angen siarad 'da fi mewn ffordd ofalus."
Yn ôl y Ditectif Brif Arolygydd Llyr Williams, mae Heddlu Dyfed-Powys wedi cyflwyno gwelliannau i'r gwasanaeth, ar ôl beirniadaeth gan arolygwyr allanol.
"Cam-drin domestig yw priority rhif un y llu," meddai.
"Mae'r prif swyddog wedi gwneud hynny yn glir i ni ac ni wedi rhoi swyddogion ychwanegol mewn i'r ardal yna o waith i wneud yn siŵr bod ni'n amddiffyn dioddefwyr."
Wrth drafod ei phrofiadau, mae Cathy yn dweud y bydd yr effeithiau arni yn parhau am byth.
"'Dw i ddim yn dilyn amserlen. Galla i byth â chael amserlen, oherwydd mi allai [ei chyn-bartner] ddod i wybod amdani," ychwanegodd.
"Rwy'n gyfrinachol iawn am bopeth dwi'n gwneud, felly dwi ddim yn dweud wrth unrhyw un ble dwi'n mynd a beth dwi'n gwneud.
"Rwy'n edrych ar gerbydau yn barhaus - ar y rhifau adnabod, y bobl.
"Un o'r pethau anoddaf yw a ddylwn i aros yn fy nghartref oherwydd sut fedrwch chi symud heb fod pobl yn gwybod, yn enwedig pan mae'r troseddwr yn byw yn agos."
'Angen cael cymorth yn gynnar'
Mae Cathy yn annog dioddefwyr i gael cymorth yn gynnar.
"Dilynwch eich greddf a beth mae hynny yn dweud sydd yn iawn. Mae e'n wir - mor wir," meddai.
"Chwiliwch am gyngor yn gynnar. Dyw hynny ddim yn golygu bo' chi yn gorfod siarad gyda'r heddlu, er mae hi'n syniad da i wneud hynny yn gynnar.
"Ond fe allwch chi gael cymorth gan fudiadau fel Byw heb Ofn, dolen allanol , Cymorth i Ferched, dolen allanol a Chymorth i Ddioddefwyr, dolen allanol.
"Os chi'n dioddef stelcio, mae yna linell gymorth genedlaethol. Yn ardal Dyfed-Powys, mae modd cysylltu gyda'r Goleudy, dolen allanol.
"Gallwch chi ffonio nhw hyd yn oed os nad ydych chi wedi cysylltu gyda'r heddlu, ac mae hynny mor bwysig. Chwiliwch am gymorth cyn bod yr ymddygiad sydd yn peri pryder i chi yn gwaethygu."
Mae'r neges honno'n cael ei hategu gan Llyr Williams o Heddlu Dyfed-Powys.
"Mae sawl asiantaeth a partneriaid ni'n gweithio gyda sydd wedi cael eu creu i gefnogi - fel Women's Aid neu mae llinell gymorth Live Fear Free.
"Os nad yw dioddefwyr yn hapus i ddod aton ni, dylai nhw gysylltu gyda'r asiantaethau hyn achos maen nhw yn gallu helpu drwy roi'r gefnogaeth gyntaf.
"Ni mo'yn gwrando a helpu pan maen nhw yn barod."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd22 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2021