Staff ambiwlans yn defnyddio tacsis i drosglwyddo cleifion

  • Cyhoeddwyd
Parafeddygon
Disgrifiad o’r llun,

Mae parafeddygon gogledd Cymru yn poeni am yr oedi sy'n digwydd wrth i bwysau gynyddu ar y GIG

Mae staff y gwasanaeth ambiwlans wedi sôn wrth BBC Cymru am y "gofid" a'r "tristwch" o orfod gofyn i deuluoedd, neu hyd yn oed gwmnïau tacsis, drosglwyddo cleifion sy'n ddifrifol wael i'r ysbyty.

Mae un uwch-barafeddyg hefyd wedi rhybuddio bod yna adegau pan nad oes yr un ambiwlans yn rhydd yng ngogledd Cymru i ymateb i alwadau newydd gan fod cymaint o griwiau yn sownd tu fas i unedau brys.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn disgwyl i fyrddau iechyd gyflwyno "gwelliannau brys" i leihau'r oedi.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans hefyd yn mynnu eu bod yn gweithio'n galed i ddod o hyd i atebion - gan gynnwys creu swyddi newydd ble mae parafeddygon wedi'u neilltuo i ymateb i'r galwadau mwyaf difrifol yn unig.

Ond yn aml mae staff yn teimlo eu bod nhw'n "nofio yn erbyn y llif", a hynny gydag wythnosau caletaf y gaeaf eto i ddod.

Ein gohebydd iechyd Owain Clarke sydd wedi treulio deuddydd gyda'r gwasanaeth ambiwlans yn y gogledd er mwyn gweld y straen ar y gwasanaeth â'i lygaid ei hun

'Pam na allan nhw anfon ambiwlans yn gynt?'

Disgrifiad,

Yr uwch-barafeddyg Aled Williams yn ymateb i alwad brys yn Llandudno

Wrth gyrraedd Llandudno yng nghwmni'r uwch-barafeddyg Aled Williams, mae'n amlwg ar unwaith bod Jenny Evans, 80, mewn llawer iawn o boen.

"Dwi wedi bod yn gorwedd yma am dros awr," meddai â'i llais yn crynu.

"Pam yn y byd na allan nhw anfon ambiwlans yn gynt?"

Disgrifiad o’r llun,

Yr uwch-barafeddyg Aled Williams yn trin Jenny, sydd wedi cwympo yn y stryd

Mae'r cyn-nyrs yn gorwedd ar ochr yr hewl ar ôl llithro oddi ar bafin y tu allan i gartref ei ffrind.

Mae plismon yma i atal cerbydau rhag pasio oherwydd bod yna bryder fod Jenny wedi torri asgwrn y forddwyd (femur).

Mae yna amryw o gymdogion a ffrindiau hefyd wedi dod i gefnogi Jenny.

"Pan ges i'r alwad ffôn mi oeddwn i'n gallu clywed hi'n gweiddi mewn poen yn y cefndir," medd Alun Pari Huws, un o ffrindiau Jenny.

"Pan 'dach chi'n gorwedd yn y ffordd, ma' pob munud yn ymddangos yn gyfnod hir iawn.

"Y cwbl fedrwch chi wneud yw rhoi rhywfaint o gefnogaeth a chydymdeimlad, a sicrhau ei bod hi'n teimlo mor gyfforddus a fedra hi tra'n disgwyl."

Disgrifiad o’r llun,

Fel uwch-barafeddyg, mae Aled Williams yn gallu cynnig ystod ehangach o driniaethau yn y fan a'r lle

Yn syth ar ôl cyrraedd mae Aled, yr uwch-barafeddyg, yn mynd ati i roi cyfuniad o feddyginiaethau i Jenny i leddfu'r boen.

"Yn anffodus mae'n edrych fel 'sa hi wedi torri'i chlun," meddai.

"Dwi 'di trin y boen felly mae hi ychydig yn fwy cyfforddus.

"Yn anffodus, ac ofnadwy iddi hi, mae hi 'di bod ar y llawr yma am tua awr cyn i fi gyrraedd yn y car.

"Yn amlwg gan ei bod hi'n nosi ac yn oeri mae angen ei chael hi i'r ysbyty."

'Oedi yn digwydd yn rhy aml'

Gan fod Aled wedi derbyn hyfforddiant ychwanegol, mae o'n gallu cynnig ystod ehangach o driniaethau yn y fan a'r lle.

Ond, gan ei fod o yn gweithio mewn car ymateb cyflym, all Aled ddim trosglwyddo Jenny i'r ysbyty.

O ganlyniad mae wedi galw am ambiwlans i ddod o dan olau glas, ond mae'r ambiwlans hwnnw yn gorfod dod o Langefni - dros 30 milltir a thri chwarter awr i ffwrdd.

"Yn anffodus mae oedi fel hyn yn digwydd ychydig rhy aml y dyddiau yma," medd Aled, cyn dychwelyd i fonitro Jenny.

Disgrifiad o’r llun,

Ambiwlansys yn aros tu allan i Ysbyty Glan Clwyd

Wrth iddi nosi, mae'r ambiwlans yn cyrraedd a gall Aled drosglwyddo'i glaf i ofal y parafeddyg Andy Davies, ac i gynhesrwydd yr ambiwlans.

Fe fyddan nhw ar y ffordd i'r ysbyty cyn hir, ond fel esbonia Andy, mwy na thebyg fe fydd yn rhaid iddyn nhw aros am oriau eto cyn i Jenny gael ei derbyn i ofal yr ysbyty.

"Yr hiraf dwi 'di gorfod aros yn ddiweddar [y tu allan i uned frys] yw 10 awr, ond dwi'n gyson yn gorfod aros pedair i bum awr," meddai.

"Ma' hynny yn digalonni rhywun.

"'Dan ni o hyd yn trïo'n gorau i gyrraedd cleifion, ond yn aml iawn y peth cynta' 'dan ni'n gorfod gwneud pan 'dan ni'n cyrraedd ydi ymddiheuro i gleifion am ba mor hir maen nhw wedi aros.

"Beth yw'r ateb? No idea!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywed y parafeddyg Andy Davies fod disgwyl am oriau tu allan i unedau brys yn "digalonni rhywun"

Mae Aled Williams yn un o tua 100 o barafeddygon yng Nghymru sydd wedi cael hyfforddiant arbennig i fod yn barafeddyg Uned Ymateb Acíwt Uchel Cymru (CHARU).

Mae'r parafeddygon yma yn cael eu neilltuo i'r galwadau mwyaf difrifol.

Mae'r rôl yn un gymharol newydd. Cafodd ei sefydlu oherwydd pryder bod oedi yn golygu fod y galwadau lle mae bywyd mewn peryg yn cael eu hateb yn rhy araf.

Cyn yr alwad yn Llandudno, cafodd Aled ei alw at glaf oedd wedi colli ymwybyddiaeth yn ysbyty cymunedol Eryri yng Nghaernarfon.

'Dim ambiwlans i gael'

"Pwrpas y rôl ydi ein bod ni'n cael ein dal 'nôl i fynd i'r galwadau mwyaf drwg - y cardiac arrests, trawma, damweiniau - 'dan ni'n cario mwy o offer a chyffuriau na pharamedic arferol.

"Dwi'n cofio'r amser pan nes i ddechrau yn y gwasanaeth - 19 mlynedd yn ôl - pan oedd wastad ambiwlans ar gael i fynd i alwadau drwg.

"Dros y blynyddoedd 'da ni 'di mynd lot prysurach.

"Ar y diwrnodau gwaethaf efallai allwch chi gael bron iawn pob ambiwlans sydd ar gael ar y diwrnod yn aros y tu allan i ysbytai, neu eisoes yn trin cleifion.

"Ar y dyddiau hynny does unrhyw ambiwlans i gael i fynd i unrhyw glaf yn y gogledd."

'Hyn yn normal rŵan'

Wrth ymweld â'r ardal lle mae ambiwlansys yn aros y tu fas i Ysbyty Glan Clwyd, mae modd gwerthfawrogi pa mor ddifrifol yw'r oedi.

Rwy'n cwrdd ag Ann Williams sydd yng nghefn un o wyth o ambiwlansys sy'n ciwio y tu fas i'r uned frys.

Fe gafodd hi ei geni yn Belfast, ond mae wedi treulio 70 mlynedd yn byw yn y gogledd, gan gynnwys cyfnod yn gweithio yn Ysbyty Llandudno.

Erbyn hyn mae'n mwynhau bod yn fam-gu a hen fam-gu i 130 o blant.

"Dwi'n cael fy sbwylio lot," meddai wrtha i gan chwerthin.

Ond mae'r wên yn cuddio cryn dipyn o boen, gyda theulu Ann wedi galw ambiwlans am 03:58 y bore ar ôl iddi ddeffro prin yn gallu symud.

Disgrifiad o’r llun,

Ann Williams oedd yng nghefn un o wyth ambiwlans oedd yn ciwio ger yr uned frys

Fe gyrhaedded yr ambiwlans i gartref Ann am 07:58 cyn cyrraedd Ysbyty Glan Clwyd am 10:09.

Mae bellach yn ganol dydd ac mae Ann dal yng ngofal y criw.

"Mae hyn yn normal rŵan," meddai'r parafeddyg Calli Johnson.

"Byddwn ni yma am fwyafrif y diwrnod byswn i'n disgwyl.

"Mae'n ddigalon oherwydd ein bod ni eisiau bod allan yn helpu pobl yn y gymuned.

"Dydyn ni dim yn cael gwneud yr 'dan ni wedi'n hyfforddi i'w wneud. 'Dan ni'n colli ein sgiliau."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n ddigalon oherwydd ein bod ni eisiau bod allan yn helpu pobl yn y gymuned," medd Calli Johnson

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn dweud fod "nifer o fesurau" ar waith i fynd i'r afael â'r oedi, a bod meddygon yr ysbyty yn cydweithio â pharafeddygon i asesu cleifion sydd wedi aros y tu fas i unedau brys am y cyfnodau hiraf.

Mae'r bwrdd hefyd yn nodi fod rhai o'r rhesymau dros yr oedi tu hwnt i'w rheolaeth nhw, am fod ysbytai yn orlawn oherwydd anawsterau yn rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn sgil y straen ar ofal cymdeithasol.

Ar unrhyw adeg mae tua 1,600 o'r 9,000 o wlâu ysbytai yng Nghymru wedi eu llenwi â chleifion sy'n ddigon iach yn feddygol i adael yr ysbyty, ond sy'n aros am ryw fath arall o gefnogaeth i gael eu trefnu ar eu cyfer.

Er hynny mae Llywodraeth Cymru yn mynnu fod angen i holl fyrddau iechyd wneud gwelliannau ar unwaith i leihau'r arosiadau ambiwlans.

'Mae'n ofni fi i weithio fel hyn'

Yn un o ystafelloedd rheoli'r gwasanaeth ambiwlans yn Llanelwy mae'r staff yn ceisio'u gorau i wneud yr hyn y gallan nhw i helpu.

Mae'r rhai sy'n gweithio ar y ddesg cymorth clinigol yn asesu galwadau 999 fel eu bod nhw'n gallu rhoi cyngor dros y ffôn i gleifion llai difrifol sydd, efallai, ddim angen ambiwlans.

Ond cleifion sy'n wirioneddol sâl iawn sy'n gyfrifol am nifer fawr o'r galwadau.

Oherwydd bod cymaint o ambiwlansys y tu fas i unedau brys, ar adegau, does dim ambiwlans ar gael er eu cyfer.

Bryd hynny, mae'r staff yn gorfod gofyn i deuluoedd, neu hyd yn oed gwmnïau tacsis, yrru cleifion sy'n wael iawn i'r ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siân Stott, yn aml, nad oes opsiwn ond gofyn i gleifion wneud eu ffordd eu hunain i'r ysbyty

Mae gwneud hynny, medd y nyrs Siân Stott, yn dorcalonnus.

"Roedd 'na shifft pan oeddwn i'n gorfod rhoi wyth claf mewn tacsi yn syth, oherwydd bod y pwysau gyda'r ambiwlansys mor anferth," meddai.

"Mae'n ofni fi i weithio fel hyn ac i wneud y penderfyniadau hyn, er efallai mai'r penderfyniad iawn ydi o.

"Dwi'n gwybod bod y cleifion yma angen ambiwlans ac mae'n digalonni fi i orfod rhoi rhywun dwi'n gwybod sy'n cael strôc mewn tacsi neu ofyn i'r teulu yrru nhw yn y car.

"Mae'n gwneud fi'n ypset, dydi o ddim yn eistedd yn iawn efo fi, ond weithiau does gynnon ni ddim dewis arall."

Yn ymateb dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr, Russell George AS bod "argyfwng hirsefydlog o fewn GIG Cymru fel canlyniad o 25 mlynedd o gamreoli trychinebus gan Lafur o ein gwasanaeth iechyd".

"Mae hyn yn hollol annerbyniol ac angen ei newid yn syth, gall pobl ddim dibynnu ar dacsis i lenwi bwlch am ambiwlansys."

Pynciau cysylltiedig