Gwasanaethau tai sy'n 'achub bywydau' mewn perygl
- Cyhoeddwyd
Mae elusennau sy'n cefnogi pobl ddigartref yn rhybuddio y gallai gwasanaethau ddod i stop os na fyddan nhw'n cael mwy o arian.
O gysgu mewn car i ddefnyddio cawodydd mewn canolfannau hamdden, mae Bob Jones, 63, yn wreiddiol o Benygroes, wedi bod drwy gyfnod anodd iawn yn ddiweddar.
Ar ôl symud i chwilio am waith yn ne Cymru, bu'n rhaid iddo ddod 'nôl i'r gogledd ar ôl i'r pwll glo lle'r oedd o'n gweithio gau.
Ond roedd cael rhywle i fyw yn nes at adre' yn anodd ag yntau â phroblemau iechyd.
Meddai: "Pan ddudon nhw wrtha' i bod nhw'n torri pob dim lawr yn y pwll glo, bod isho cau'r lle, o'n i'n meddwl 'lle dwi'n mynd i fyw?'
"Jyst cysgu'n car weithiau... Doedd o ddim yn neis.
"O'n i'm yn disgwyl y situation yma, de. O'n i'n meddwl faswn i'n South Wales am flynyddoedd. Dod 'nôl a 'nunlle i fynd, odda chdi'n lost, de, a gw'bod bod fi'n cael treatment am salwch hefyd, o'dd o'n g'neud pethau'n waeth."
Yn ffodus, cafodd Bob gymorth gan Gorwel, rhan o Grŵp Tai Cynefin, sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl fregus a digartref.
Meddai: "Pan ges i afael ar Gorwel, o'dd popeth 'di newid, o'dd gen i bob math o help wedyn, de. O'dd y support mor ffantastig, oddan nhw'm yn gallu gwneud digon i fi, de, o'ddan nhw'n brilliant.
"Bob tro o'n i isho rwbath, dim ond dod i Gorwel o'dd isho fi ac o'n i'n cael help, llenwi forms a bob dim, de.
"Mae hyn yn safio bywyd rywun, de... i rywun fatha fi, de. Dwi'm yn gw'bod be' faswn i 'di 'neud heb Gorwel."
Ond mae 'na rybudd y gallai gwasanaethau fel hyn ddod i ben os nad oes mwy o arian cyhoeddus ar gael.
Mae nifer o elusennau yn dibynnu ar Grant Cymorth Tai Llywodraeth Cymru i gynnal eu gwaith. Ar hyn o bryd mae'r grant yn werth cyfanswm o bron i £167m, ond dydy'r swm ddim wedi newid ers y pandemig.
Mae hynny'n wahanol iawn i'r galw am gefnogaeth, sydd wedi cynyddu'n sylweddol, ynghyd â chostau rhedeg y gwasanaethau. Mae nifer ohonynt wedi gorfod dibynnu ar arian wrth gefn.
Heb gyllid ychwanegol, mae rhai elusennau'n rhybuddio y byddan nhw'n gorfod cael gwared ar wasanaethau - a hyd yn oed yn rhybuddio y gallai'r system gyfan "ddymchwel".
'Pwy a be' sy'n mynd i gefnogi'r unigolion bregus yma?'
Dywedodd Osian Elis, Prif Swyddog Gorwel: "Mae'n gwasanaethau ni'n achub bywydau, felly mae'n hanfodol bod y gwasanaethau 'ma yn parhau.
"Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn rhoi chwyddiant yn y Grant Cymorth Tai fel bod ni'n gallu cario 'mlaen efo'r gwasanaethau.
"Os fydd 'na ddim chwyddiant a dim arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau fel Gorwel, dwi'n meddwl bod ni'n edrych ar ailfodelu gwasanaethau, lleihau gwasanaethau.
"Dwi'n meddwl mewn sefyllfaoedd eitha' anodd ella byddan ni'n gorfod rhoi cytundebau'n ôl achos fyddan ni ddim yn gallu darparu gwasanaethau o fewn yr arian sy'n cael ei gynnig i ni.
"Mae Gorwel yn cefnogi tua 800 o unigolion yr wythnos. Dwi'm yn d'eud bod y gwasanaethau i gyd dan fygythiad ond mae rhai ohonyn nhw.
"Pwy a be' sy'n mynd i gefnogi'r unigolion bregus yma, yn enwedig gan bod 'na gynnydd yn y galw am wasanaethau ar hyn o bryd?"
'Cydnabod y pwysau aruthrol'
Yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, mae elusennau'n cael cefnogaeth drwy cynllun trydydd sector.
Ychwanegodd: "Rydym yn cydnabod y pwysau aruthrol sy'n wynebu gwasanaethau tai rheng flaen a phwysigrwydd eu gwaith.
"Dyna pam rydym wedi cynnal y cynnydd blaenorol i'r Grant Cymorth Tai eleni fel ei fod yn aros yn £166.763m, er yr heriau cyllid eithriadol o anodd."
Ond wrth i elusennau aros i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi ar 19 Rhagfyr, mae pryder bod gwaeth i ddod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd4 Tachwedd 2023