Y galw ar fanc bwyd 'wedi dyblu mewn blwyddyn'
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am fwy o gymorth gyda chostau byw mewn ardaloedd gwledig.
Yn ôl un banc bwyd yn Abergele mae mwy a mwy o bobl o gymunedau gwledig yn defnyddio'u gwasanaeth, gyda'r galw yno wedi dyblu ers y llynedd.
Yn gynharach yn yr wythnos fe ddechreuodd un o bob tri o gartrefi Cymru dderbyn £300 gan Lywodraeth y DU i helpu gyda biliau.
Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn darparu'r cymorth mwyaf erioed, ond dywedodd rhai eu bod yn pryderu gan fod prisiau'n parhau i godi.
'Pobl ddim yn cyfrannu gymaint ag oedden nhw'
Mae Banc Bwyd Conwy Wledig yn gweithredu o dan adain Banc Bwyd Cylch Abergele.
Ar gyfartaledd maen nhw'n rhannu tua 40 o becynnau yr wythnos - sy'n ddwbl yr 20 oedd yn cael eu rhannu yr adeg yma y llynedd.
Yn ôl y Cynghorydd Nia Clwyd Owen, sy'n cynrychioli Llanrwst a Llanddoged: "Maen nhw'n helpu pobl sydd yn cael trafferth bwydo yr aelwyd, ond yn fwy na hynny mae'r banc yn cynnig cymorth ar unrhywbeth.
"Mae o'n lot mwy na jesd banc bwyd. Maen nhw'n helpu hefo dyledion, biliau ynni, digartrefedd a chwnsela."
Erbyn hyn, mae'r banc yn derbyn llai o roddion ac felly wedi gorfod prynu nwyddau i mewn am y tro cyntaf eleni.
"Dydy pobl ddim yn cyfrannu gymaint ag oedden nhw ac am y tro cyntaf erioed eleni mae'r banc bwyd yn gorfod prynu pethau i mewn," meddai'r Cynghorydd Owen.
'Mae balchder yn broblem'
Roedd y Cynghorydd Owen yn gwybod fod yna alw am gymorth yn yr ardaloedd gwledig, ond nad oedd wir y gwasanaeth yna ar eu cyfer.
Felly daeth i gysylltiad â banc bwyd Cylch Abergele a ffurfio banc bwyd Conwy Wledig.
"Yn aml iawn mae pobl ardaloedd gwledig yn dioddef," meddai.
"Dydy o ddim yn deg bod nhw ddim yn cael gwasanaethau mae pobl mewn ardaloedd trefol yn gael.
"Mae balchder yn broblem - dydy pobl ddim isho deud bod nhw methu ymdopi."
Ychwanegodd bod costau teithio yn cael effaith hefyd, wrth iddyn nhw orfod teithio'n bell er mwyn cyrraedd y gwasanaethau hyn.
"Mae rhai pobl heb gar, ac os oes gennyn nhw, yna mae costau tanwydd yn uchel ac felly mae hi'n anodd iddyn nhw deithio i fanciau bwyd."
'Rhai methu fforddio'
Tua milltir o dref Abergele mae Ceri Jones yn berchennog ar fusnes harddwch.
Er bod ganddi gwsmeriaid ffyddlon, mae hi hefyd wedi sylwi rhywfaint o newid ar arferion gwario.
"Wrach bod pobl yn lle cael gwinedd a traed, ma' nhw'n mynd heb un am un mis a 'neud o mis wedyn yn lle," meddai.
"Os ma' pobl yn canslo dwi yn colli allan a ma' hynny yn gallu cael effaith arna i.
"Dwi'n lwcus o social media - os oes gen i cancellation munud ola' mae pobl yn snapio fo fyny reit sydyn ond dwi yn deall bod rhai methu fforddio, neu bethau yn rhwystro nhw rhag dod."
O fod yn fusnes annibynnol, mae Ceri yn gweld ei bod yn gwneud arbedion, ond wedi ei lleoli yng nghefn gwlad mae gofyn iddi gynllunio'n ofalus.
"Dwi'n gorfod 'neud dewis doeth pan yn archebu ac ystyried delivery charges.
"Dwi'n lwcus bod gen i system bwcio ar-lein. Dwi ddim yn gorfod cyflogi staff felly ma' hynny yn helpu fi dorri costau."
Draw yn Ninbych, mae pobl yn poeni wrth i brisiau godi.
Dywedodd Ynyr Waller, sy'n berchen ar fusnes electroneg: "Da' ni 'di sylwi bod popeth 'di mynd fyny.
"Er bod ni'n brysur, ma' pawb mor ofalus sut na nhw'n gwario ac ar be. Dio ddim mor hawdd gwerthu â be' oedd hi."
Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n gwneud popeth posib i helpu pobol gan ddarparu cymorth sydd wedi ei dargedu ar gyfer y rhai sydd ei angen fwya'.
"Yn ystod 2022-23 a 2023-24 roedd y gefnogaeth yma gwerth mwy na £3.3bn," meddai llefarydd.
"Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cymryd camau i warchod incwm aelwydydd a sicrhau fod modd i bobl gwrdd â'u costau hanfodol."
Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn darparu'r cymorth mwyaf erioed.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd2 Tachwedd 2023