Amddifynnwr Cymru Tom Lockyer bellach yn 'sefydlog'

  • Cyhoeddwyd
Lockyer yn chwarae i GymruFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae amddiffynnwr Cymru, Tom Lockyer, bellach yn "sefydlog" ar ôl iddo ddioddef ataliad ar y galon wrth chwarae i Luton ddydd Sadwrn.

Fe gafodd y gêm ei gohirio yn fuan wedi i'r chwaraewr lewygu ar y cae.

Cafodd chwaraewyr y ddau dîm eu tynnu oddi ar y cae hanner ffordd drwy'r ail hanner wrth i Lockyer gael triniaeth feddygol.

Dywedodd clwb Luton fod Lockyer yn "sefydlog" ac yn cael gwahanol brofion.

"Mae ein staff meddygol wedi cadarnhau bod Tom Lockyer wedi dioddef ataliad ar y galon ar y cae, ond ei fod yn ymwybodol erbyn iddo gael ei gario o'r cae."

Cafodd Lockyer driniaeth bellach yn yr ysbyty.

Ym mis Mai, fe lewygodd Lockyer, 29, yn ystod ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth yn Wembley.

Fe gafodd lawdriniaeth ar ei galon wedi hynny ac roedd wedi cael cyfarwyddiadau ei fod yn holliach i ddychwelyd i chwarae ym mis Mehefin.