Wrecsam: Dynes wedi boddi ar ôl ceisio achub ci o afon

  • Cyhoeddwyd
Cafodd cwest i farwolaeth Gail Lloyd ei agor yn Rhuthun ddydd LlunFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd cwest i farwolaeth Gail Lloyd ei agor yn Rhuthun ddydd Llun

Bu farw dynes o Wrecsam ar ôl boddi wrth geisio achub ei chi o afon, mae cwest wedi clywed.

Clywodd gwrandawiad byr yn Rhuthun fod Gail Lloyd, 50, wedi mynd â'i chŵn am dro ger Afon Clywedog yn Felin Puleston ar 9 Rhagfyr pan aeth un o'r cŵn i drafferthion yn y dŵr.

Aeth Ms Lloyd, a oedd yn rheolwr prosiect, i mewn i'r afon i geisio ei gyrraedd ond aeth i drafferthion ei hun, meddai'r crwner John Gittins.

Aeth ei gŵr ar ei hôl ond bu'n rhaid i aelodau o'r cyhoedd dynnu Mr Lloyd yn ddiogel i lan yr afon.

Arhosodd Ms Lloyd yn y dŵr ac fe gyhoeddodd parafeddygon ei bod wedi marw yn y fan a'r lle.

Rhoddodd y patholegydd Dr Mark Atkinson achos marwolaeth dros dro fel boddi.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad i'w bennu.

Pynciau cysylltiedig