Cyn is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Glyn Powell, wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Glyn PowellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Glyn Powell yn cael ei gydnabod fel un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru

Mae Glyn Powell, cyn is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru a fu'n amlwg yn ystod argyfwng clwy'r traed a'r genau yn 2001, wedi marw.

Roedd Mr Powell, o Bontsenni ym Mhowys, yn ysgolhaig, llenor, athro, ffermwr ac yn arweinydd cymunedol.

Fe gyfrannodd yn helaeth i fyd amaethyddiaeth, gan gael ei gydnabod fel un o hoelion wyth Undeb Amaethwyr Cymru.

Yn ystod ei gyfnod fel is-lywydd yr undeb fe arweiniodd yr ymgyrch dros ddiogelu ardal eang Epynt rhag effeithiau clwy'r traed a'r genau.

Bu hefyd yn arwain ymgyrch yn lleol pan oedd bygythiad i foddi Dyffryn Senni er mwyn creu cronfa ddŵr.

Fe dreuliodd ei yrfa ym myd addysg, gan ymgyrchu dros addysg Gymraeg mewn ardal lle'r oedd nifer y siaradwyr Cymraeg yn gymharol isel.

Disgrifiad o’r llun,

Yn 2021 bu Glyn Powell yn rhannu ei atgofion o ddiogelu ardal eang Epynt rhag effeithiau'r clwy'r traed a'r genau

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd ei ferch, Bethan: "Dwys yw ein tristwch wrth ffarwelio â gŵr, tad a gampa heb ei ail a mawr fydd y golled i'w deulu, ffrindiau ac i gymunedau a mudiadau ledled Cymru.

"Llawenhawn ein bod wedi cael y fraint o'i gwmni, ei ddoethineb a'i ddylanwad ar ein bywydau am gyhyd."

Cyhoeddwyd yn 2020 y byddai'n ymuno â Gorsedd y Beirdd, ac fe gafodd ei ddisgrifio gan yr Eisteddfod Genedlaethol bryd hynny fel "ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl".

"Treuliodd ei yrfa ym myd addysg, ac ymgyrchodd dros addysg Gymraeg mewn ardal a oedd yn dalcen caled, gan lwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned yn ei chyfanrwydd ac adennill parch tuag at yr iaith yn lleol," meddai eu disgrifiad ohono.

"Cyfrannodd yn helaeth i fyd amaeth, gan gynnwys fel arweinydd yr ymgyrch dros Epynt yn ystod cyfnod heriol clwy'r traed a'r genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad i'w foddi.

"Mae ei gyfraniad yn lleol a chenedlaethol wedi bod yn arbennig am flynyddoedd lawer."

Ffynhonnell y llun, Elin Mabbutt
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Glyn Powell ei urddo i'r orsedd yn Eisteddfod Tregaron 2022

Wrth roi teyrnged i Mr Powell, dywedodd Glyn Roberts, cyn-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru, ei fod "ŵr bonheddig" oedd wedi "ymladd dros fyd amaeth".

"Dwi'n meddwl fod gan bawb oedd yn ei 'nabod barch mawr tuag ato... mae o wedi gwneud gymaint i helpu'r byd amaeth yng Nghymru," meddai.

"Ond mae hi'n bwysig nodi nad amaeth yn unig oedd yn bwysig iddo, roedd o wastad yn edrych ar y darlun mawr, ac roedd cymunedau ac etifeddiaeth hefyd yn hollbwysig iddo.

"Ro'n i bob amser yn mwynhau bod yn ei gwmni. Roedd o'n berson arbennig ac yn siaradwr arbennig...

"Roedd 'na ddyfnder yn ei eiriau, a 'na i fyth anghofio ei glywed yn areithio yn ystod rhai o'r protestiadau... roedd dawn siarad ganddo, ond roedd dawn i gael pawb i wrando arno hefyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Glyn Roberts fod Mr Powell yn berson "arbennig" oedd "wastad yn barod i helpu a rhoi cyngor"

Ychwanegodd Mr Roberts fod Glyn Powell wedi bod yn "ysbrydoliaeth fawr" iddo.

"Pan o'n i'n dechrau gyda'r undeb, ro'n i'n naïf gydag ambell i beth, ond roedd Glyn wastad yn barod i ddod ata i er mwyn rhoi cyngor.

"Dwi'n gwerthfawrogi ei help a'i gyfeillgarwch yn fawr iawn."

Dywedodd Llywydd UAC Ian Rickman: "Mae'r diwydiant ffermio wedi colli un o'i gewri, a dyn a oedd hyd fêr ei esgyrn yn byw ac yn deall ein treftadaeth, ein diwylliant a'r byd ffermio.

"Mi fydd colled fawr ar ôl Glyn Powell ac mae ein meddyliau gyda'i deulu ar yr adeg anodd yma."

Ychwanegodd cyn-Lywydd UAC, Bob Parry: "Roedd Glyn yn gymeriad a oedd yn meddwl cyn siarad, ac roedd yn angerddol iawn am glybiau ffermwyr ifanc, mi fydd yn cael ei golli'n arw."

Pynciau cysylltiedig