Cyn-gynghorydd Plaid Cymru'n euog dros negeseuon rhyw
- Cyhoeddwyd

Bydd Paul Williams yn cael ei ddedfrydu ar 17 Ionawr
Mae cyn-gynghorydd Plaid Cymru wedi'i gael yn euog o anfon negeseuon am gam-drin plant yn rhywiol.
Cafodd Paul Williams, 56, oedd ar Gyngor Wrecsam, ei ethol yn 2021 i gynrychioli ward Smithfield cyn ymddiswyddo yn Ionawr 2023.
Roedd Williams, o Ffordd Bernard yn y dref, hefyd yn gynghorydd cymuned ym Mharc Caia.
Wedi achos a barodd ddwy awr yn Llys Ynadon Wrecsam ddydd Iau cafwyd Williams, a oedd wedi gwadu'r cyhuddiad, yn euog o anfon negeseuon hynod o sarhaus a rhai oedd o natur anweddus, brwnt a bygythiol.
Ymddygiad 'ffiaidd'
Clywodd y llys bod y troseddau wedi digwydd rhwng 1 Mehefin a 26 Awst 2022, pan roedd Williams yn defnyddio dau safle pornograffi i gyfleu eu ffantasïau rhywiol am blant ifanc gyda defnyddwyr eraill.
Ond ni sylweddolodd bod dau o'r bobl yr anfonodd negeseuon atyn nhw yn blismyn cudd a oedd yn gweithio i'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol.
Yn y negeseuon fe nododd Williams fod ganddo ddiddordeb mewn plant mor ifanc â phump oed.
Fe ddisgrifiodd weithgareddau rhyw yr oedd yn honni iddo eu cyflawni neu'n gobeithio eu cyflawni. Roedd hefyd wedi anfon dau lun o ferched ifanc.
Dywedodd Williams wrth y llys fod ganddo gywilydd am ei weithredoedd, gan gytuno eu bod yn "ffiaidd ac yn anllad", a hynny er mwyn bodloni chwantau rhywiol ei hun ac eraill.
Dywedodd hefyd ei fod yn cytuno â'r erlynydd Suzanne Cartwright ei fod wedi gweithredu gan feddwl na fyddai'n cael ei ddal.
Fe gafodd Mr Williams fechnïaeth ddiamod tra bod adroddiadau prawf yn cael eu paratoi.
Bydd yn cael ei ddedfrydu ar 17 Ionawr.