O'r Archif: Cipolwg ar ysgolion Cymru yn y gorffennol

Plant Ysgol y Parc yn chwarae offerynnau. Caergybi, Ynys Môn, 1920.
- Cyhoeddwyd
Mae wythnos gynta'r tymor yn golygu bod un peth yn gyffredin i ni gyd – lluniau o blant yn edrych yn smart yn eu gwisg ysgol yn llenwi'n ffrydiau cyfryngau cymdeithasol.
Mae mis Medi yn teimlo fel cyfnod rhyfedd erioed - mae'r gwyliau'n dod i ben, mae'r hydref yn prysur agosau a rydym yn paratoi at flwyddyn newydd o addysg.
Drwy edrych ar luniau Casgliad y Werin o archifau Conwy, Ynys Môn, Morgannwg, Sir Benfro a Chaerfyrddin rhwng yr 1880au a'r 1980au mae modd cael cipolwg ar rai o ddosbarthiadau Cymru'r gorffennol.
Ynys Môn

Plant Ysgol Genedlaethol Llangefni yn gweu basgedi. Llangefni, Ynys Môn, 1908

Ysgol Gynradd Malltraeth, 1910

Dysgu sut i arddio yn Ysgol Llanddeusant, Ynys Môn, 1925
Conwy

Ysgol Bodlondeb, Conwy, 1980au

Gwers gelf yn Douglas Road School, Bae Colwyn, 1970au

Gwrando yn astud yn Ysgol Penmachno

Plant yn chwarae yn Ysgol Douglas ym Mae Colwyn
- Cyhoeddwyd10 Ebrill
- Cyhoeddwyd31 Mai 2024
Morgannwg

Grŵp o ddisgyblion Ysgol South Church Street, Tre-biwt, 1924-25

Pen, ysgwyddau, coesau, traed? Ysgol Fwrdd Stacey Road, 1901

Dosbarth ffiseg yn Ysgol Tonypandy
Sir Benfro

Gwers ddarllen yn Ysgol Dinbych y Pysgod

Plant Dinbych y Pysgod yn chwarae siop
Caerfyrddin

Staff cinio Ysgol Penboyr, 1958. Chwith i'r dde: Martha James Williams, Brynbedw; Maggie Griffiths y gogyddes, Llyfnant a Mrs Freeman, Glyn-coed

Gwers fathemateg, Ysgol Gynradd Gymraeg Teilo Sant
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Ionawr
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd21 Medi 2023